Her 100 Cerdd #57: Boris
Cyhoeddwyd Iau 3 Hyd 2019
Boris
Ma’r busnes Boris ’ma’n un dyrys
mae’n boring mae’n drysu dyn a dynes.
Mae Boris yn raging beast
yn brŵt, yn rŵd, yn baldorddwr anonest.
Ma Boris yn total bastad
yn bashio’i bastwn, yn bytheirio a bugunad.
Byd boncyrs yw byd Boris, un llawn Dom,
byd a’i ben i waered, byd a chwalwyd gan Frecsit-fom.
– Elinor Wyn Reynolds, 1:19 am