Her 100 Cerdd #59: Terry’s Chocolate Orange
Cyhoeddwyd Iau 3 Hyd 2019
Terry’s Chocolate Orange
Yn ymateb i gais @ElanElidyr
Rwy’n teimlo fy hun yn glafoerio
wrth imi ddychmygu fy hun
yn dadorchuddio’r sffêr euraidd,
a theimlo’r siocled melys, mwyn
yn ymdoddi’n ludiog ar fy nhafod
ac yn ffrwydro’n rhaeadr o flas
sawrus-melys gan lynu’n moethus
wrth gorn fy ngwddf.
– Matthew Tucker, 1:29 am