Her 100 Cerdd #62: Noson 4 a 6
Cyhoeddwyd Iau 3 Hyd 2019
Noson 4 a 6
Ar gais Noson 4 a 6 am gerdd
Os am gerddoriaeth, llenyddiaeth neu gomedi
Noson 4 a 6 yw lle mae dal hi!
Ond nid am bedwar swllt a chwe cheiniog
y mae dal y cyw, y iâr na’r ceiliog!
Fe gewch, heb os, ystafell llawn sbri
ond nid dau ddeg dwy geiniog dalwch chi
am y pleser o gael joio holl dalentau eich mamiaith
yng ngwlad y Cofis â’i bythol dafodiaith.
– Beth Celyn, 2:24 am