Her 100 Cerdd #63: Meddyliau Dau y Bore
Cyhoeddwyd Iau 3 Hyd 2019
Meddyliau Dau y Bore
Teimlo’r awydd i greu.
Cyntefig.
Estyn am eiriau bu’n bodoli
a saethu, saethu,
chwilio am ddolenni
am rywbeth i gysylltu’r
hyn sydd wrthi nawr
a’r hyn sydd wedi.
Ail ddrws
ei thrio hi eto
Gwasgu botwm bol
gan obeithio y bydd
rhywbeth yn corddi
naill ai’n gyfog neu’n glais
neu’n eiriau i rannu.
– Dyfan Lewis, 2:27 am