Her 100 Cerdd #66: Marwnad Frances
Cyhoeddwyd Iau 3 Hyd 2019
Marwnad Frances (Y Moth)
Ti oedd y gwyfyn hyfryta i ni weled erioed,
yn cuddio’n y gornel, tu ôl i’r banistyr,
wedi rhewi’n ddi oed mewn hyfryd hedd.
Fe’m swynaist ni’n ddisymwth â’th wedd,
gyda’th gorff fflwff felyn a’th wyneb dlos,
ystyriom ganu dy glod i siffrwd y nos.
Ond wrth ddychwelyd i’th hyfrydle heno
canfuom dy fod wedi disgyn i’r llawr,
ac yn awr fe ganwn i’th atgof
dy fod wedi bod yn frenhines y gwyfynod.
– Beth Celyn, 3:21 am