Dewislen
English
Cysylltwch

Her 100 Cerdd #67: O Singleton i SA1

Cyhoeddwyd Iau 3 Hyd 2019 - Gan Matthew Tucker

O Singleton i SA1

Myfyrdod ar symudiad f’astudiaethau o gampws Singleton, Prifysgol Abertawe yn y Mwmbwls, i gampws SA1, Prifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant wrth imi ddechrau Cwrs TAR Uwchradd Cymraeg.

 

Ar ddiwrnod digon braf, daliaf i weld y Mwmbwls
yn llechu’n y pellter, yn fy ngwahodd yn ôl
at odidowgrwydd ei glannau hi.

Rhyw ddydd mae’n siŵr dywedaf fi wrthi,
ond wedi meddwl eto, nid yn fuan.

Dwi’n y marina nawr ymysg ei chychod crand hi
a’i chraeniau rhydlyd, ac atgofion am goedydd
Singleton a gronynnau euraidd y bae
yn llithro’n eu hôl i gefn f’ymennydd.

Sŵn drilio a tharmacio sydd i’w clywed yn awr,
nid sisial ling di long y môr. Rhyw ffordd, roedd amser
yn arafach draw yn Singleton, a bywyd yn llai o straen…

– Matthew Tucker, 3:33 am

Uncategorized @cy