Dewislen
English
Cysylltwch

Her 100 Cerdd #71: Mawl i Ferthyr

Cyhoeddwyd Iau 3 Hyd 2019 - Gan Matthew Tucker
Her 100 Cerdd #71: Mawl i Ferthyr

Mawl i Ferthyr

Yn dilyn yr orymdaith dros annibyniaeth ym Merthyr – 7/9/19

 

Bu newid mawr ym Merthyr y bore hwnnw,
iard gefn diwydiannol y Cymoedd
yn frith o wladgarwyr a heidiau o Gymry’n
disgyn ar ganol y dref! Am olygfa oedd hon!
Pwy a ddychmyga’r fath beth?

Honnodd rai mai tir Farage oedd hwn!
Oho, ‘styriwch eto da chi!
Nid ffars o fws â dyrnaid o radicalwyr
oedd yr orymdaith hon, o na!

Ni welwyd y bore hwnnw ond y ddraig goch
a llewod Glyndŵr ar garlam
wedi’u halio’n fry gan filoedd o dyrfa!

Pawb o bob oed a hil wedi ymgasglu
ar sgwâr Penderyn i wrando’n ufudd
ar Southall a Butler yn pregethu’n groch
dros annibyniaeth i Gymru!

A gwelais wreichion newydd yn tanio
yng nghanol y dref ddiwydiannol hon!

– Matthew Tucker, 4:36 am 

Uncategorized @cy