Dewislen
English
Cysylltwch

Her 100 Cerdd #72: Heneiddio Dros Nos

Cyhoeddwyd Iau 3 Hyd 2019 - Gan Dyfan Lewis

Heneiddio Dros Nos

 

Dim ond troi mae’r oriau
plygu, datgymalu o hyd
chwarae dwli gyda’r cof
a neidio o rith i rith.

Gadewais mewn rhuthr
yn ddychrynllyd wrth ffoi
rhag crychau newydd wynebau
wrth edrych drwy ddrych dychymyg
a’i graciau.

– Dyfan Lewis, 4:49 am

Uncategorized @cy