Her 100 Cerdd #74: Myfyrdod Pump y Bore
Cyhoeddwyd Iau 3 Hyd 2019
Myfyrdod Pump y Bore
Yn ateb her Elan Morris am gerdd am fod yn dy 20au
Dydi’r atebion ddim yn bodoli,
dim ond ein cymhelliant ni
i wynebu pob fory newydd.
Boed yn sbarc, yn fflam neu’n goelcerth,
nid oes tro heb ddechrau’r daith
ac nid oes cariad heb chwaeroliaeth.
– Beth Celyn, 5:23 am