Her 100 Cerdd #76: Brownies Anti Siân
Cyhoeddwyd Iau 3 Hyd 2019
Brownies Anti Siân
Ar gais fy Anti Siân am gerdd am frownies
Os yn drist, os yn grwgnan
mynaf frownies anti Siân.
Maent yn slyji
gaboledig braf.
Melysgabolfa, y pethau pertaf
welais i erioed ar blât,
a blasus hefyd.
Syth o’r ffwrn,
swmpa llond dwrn gyda sloch o de,
a stopia pendwmpian,
bydda’n ddiolchgar yn lle!
– Dyfan Lewis, 5:39 am