Her 100 Cerdd #79: Idris
Cyhoeddwyd Iau 3 Hyd 2019
Idris
Cerdd am gath fy chwaer fach Lora a’i ffrind Meg. Mae gan Idris gyfrif ar Instagram o’r enw The Real Idris Elba. Mae’r cyfrif yn drysu nifer.
O, Idris ddireidus,
nid oes neb fel ti
am ymosod ar draed
â’th bawenau di,
yn enwedig pan
wisgaf ffrogiau hir,
rhaid cyffesu, bryd hynny,
dwi’n dy ofni’n wir!
O, Idris ddiriedus,
nid oes neb fel ti
am lyfu’r plât pwdin
yn lanach na fi,
bob tro ti’n llygadu’r
tameidiau o fwyd
dwi’n teimlo fel ein bod ni
oll yn dy rwyd.
O, Idris ddireidus
nid oes neb fel ti,
am ddrysu’r Instagramwyr
diniwed sy’n hoffi
the real Idris Elba,
yr un go iawn, nid cath!
Yr un sy’n actio ar y sgrin
heb ddireidi o’r fath.
– Beth Celyn, 8:44 am