Her 100 Cerdd #84: Chwyrnu
Cyhoeddwyd Iau 3 Hyd 2019
Chwyrnu
Mae llawer iawn i ddweud am Tomi
hiwmor clên a gwên sy’n denu
chwerthin braf a hwyliau sili
ond,
bois bach,
ma fe’n whyrnu.
Ma fe wrthi drwy’r nos
yn rhochian ei sannau
fel bo trigolion Grangetown, yn eu gwlai
yn amau fod y ddaear
ei hun yn crynu
a dicter bod Tomi
DAL YN CHWYRNU!
Mae chwyrnu Caryl mwy fel ‘deryn,
yn canu cân i ddeffro’r dyffryn
Chwyrnu Dafydd, wel y lleia na’i ddweud
y gore i bawb, mae’n well peidio â neud.
Ac wedyn dim ond Dylan bach sydd ar ôl
yn cysgu’n dawel, dyner, ffôl.
– Dyfan Lewis, 7.46am