Her 100 Cerdd #86: Stori fawr y stori fer
Stori fawr y stori fer
Cerdd i Gystadleuaeth Stori Fer rhaglen Aled Hughes, BBC Radio Cymru.
Un tro, amser ddim mor faith yn ôl,
aeth holl blantos Cymru ati i ddweud eu stori
a honno’n un anhygoel –
wna i ddim bradu geiriau nawr
na’ch bôrio
dim ond adrodd ffeithiau moel –
a chyn eich bod chi’n amau, mi ddweda i yn glir,
gan Al Hughes ges i’r hanes, felly mae’n rhaid ei fod yn wir.
Mae’n stori sy’n llawn antur
a dreigiau a phethau gwyllt,
mae’n byrstio â chwerthin a direidi
mae’n gorlifo â dagrau a hanesion trist,
mae’n stori am famau a thadau a phlant
mae’n stori am berthyn,
am gyrraedd, am gerdded bant
mae’n stori am orffen a dechrau eto, plis,
mae’n stori am faddau, am golli, am dalu pris.
Dyma’r stori lle mai’r plant yw’r awdur
y stori lle mae pob un yn arwyr
a phawb yn rhoi yn eu stori fer hwy
yr allwedd i ni ddeall y stori fwy.
– Elinor Wyn Reynolds, 8.30 am