Dewislen
English
Cysylltwch

Her 100 Cerdd #88: Blynyddoedd Bowie

Cyhoeddwyd Iau 3 Hyd 2019 - Gan Beth Celyn

Blynyddoedd Bowie

Blynyddoedd euraidd oedd blynyddoedd Bowie,

a’r holl sêr yn pefrio’n ddisgleiriach

na chyfseriadau’r nos, yn barod i chwalu holl

ddisgwyliadau’r dorf gyda’r cynnwrf o fod yn fwy.

 

O ddechreuad cynnar gwres y bore fe darddodd

Ziggy, Thin White Duke, Pierrot a’u ffrindiau,

ac o orsaf i orsaf fe ddaeth bawb yn eu dyblau

i brofi Bowie â’i gyfrolau.

 

Dyma artist nad oedd ofn newid gyda’r amserau,

a wynebodd realiti’r degawdau, ac a ddringodd,

heb ofni’r risgiau a ddaw o fentro,

yn driw i’w grefft, fel Pablo Picasso.

 

A’n dawel, ymhell o lygaid chwilennog y llef,

fe beintiodd Bowie ei ddychymyg yn hafan ei gartref,

ac o ddydd i ddydd, rhwng rhythmau’r lliwiau,

nid oedd ofn cwestiynu ein bywydau.

 

A phan ddaeth Lazarus i ddawnsio dan seren ddu

fe rythodd bawb yn syn, gan amsugno su’r

weledigaeth newydd hon, heb sylweddoli

fod eu seren ddisglair yn pylu gerbron.

 

Ond fel seren, ni bylodd ei olau wedi iddo farw:

euraidd yw’r awen lle atseinia ei lais

yn galw ar bob John, syffrajet a Sorrow,

i ddawnsio yng nghyfseriadau’r nos tan y morrow.

 

– Beth Celyn, 10.04am

 

Mewn ymateb i gais ar Twitter:

Uncategorized @cy