Dewislen
English
Cysylltwch

Her 100 Cerdd #90: Titws Taf

Cyhoeddwyd Iau 3 Hyd 2019 - Gan Dyfan Lewis

Titws Taf

 

Ymateb i gais Rhiannon M Williams

 

Bob wythnos maen nhw’n

hel at ei gilydd,

y titws hynod o Gaerdydd

digwydda rywbeth.

 

Rhwng y taclo, cicio

a’r sgorio gôls

daw chwerthin gan y titws

wrth iddynt ddod at eu coed

a phrofi bob Mike, John a Dafydd

yn anghywir am bêl-droed:

Fod yna le i ferched ar y cae

Mwy na’ lle;

mae angen dau, tri chan mil o gaeau

i ddal egni’r titws.

Does dim gwadu eu hafiaith

na’i chwaeroliaeth, chwaith.

 

– Dyfan Lewis, 10:40 am

Uncategorized @cy