Her 100 Cerdd #97: Cân o Fawl i Miriam
Cyhoeddwyd Iau 3 Hyd 2019
Cân o Fawl i Miriam
Dyma gân o fawl i Miriam,
arwres ein heriau ni,
sydd wastad gyda gwên
a’n wych am wneud paned o goffi.
Mai’n frenhines, a wyddoch chi?
Brenhines y nachos a’r snacs,
a mai’n gwbod sut i godi calon
pan ma pawb di blino’n rhacs.
Diolch am aros yn effro
drwy’r perfeddion gyda ni,
roedd dy gwmni’n ganolog i’r cyffro
a ddirgrynodd drwy y tŷ.
– Beth Celyn, 11.17 am
