Her 100 Cerdd #99: Drws Rhif 10 Stryd Downing
Cyhoeddwyd Iau 3 Hyd 2019
Drws Rhif 10 Stryd Downing
(yn Amgueddfa Lloyd George)
Pwy sydd awydd camu drwy’r drws sglein du,
taro deg yn fwy na deuddeg, bod yn ddewr, mynd amdani?
Heddiw’n fwy nag erioed, myn yffarn i,
mae angen arwyr arnom ni,
rhywun i arwain, i ddangos esiampl, i fod yn egwyddorol,
rhywun i ymddwyn yn … Brif Weinidogol.
Wy’n rhoi tro ar y drws ond mae ar glo
sdim hawl gan yr un ohonom ni fynd drwyddo.
– Elinor Wyn Reynolds, 11.44 am