Her 100 Cerdd #25: Matteo yn y Goedwig
Cyhoeddwyd Mer 2 Hyd 2019
Matteo yn y Goedwig
Deffrodd Matteo yn wyllt o’i go
i wisgo welis a mynd am dro.
Aeth i sathru yn y pyllau dŵr
gweiddi i’r nef a chodi stŵr.
Wedyn cripian yn dawel i gyd
ar hyd y llwybr trwy’r coed yn fud.
Gwelodd lwynogod a’r adar mân,
moch daear, draenogod a chanod ei gân
i’r goedwig mwyaf hynod sydd,
cyn rhedeg nôl adre erbyn diwedd y dydd.
– Dyfan Lewis, 8:29 pm