Dewislen
English
Cysylltwch

O’r Lludw | Ffilm #7 Plethu/Weave

Cyhoeddwyd Iau 5 Tach 2020 - Gan Llenyddiaeth Cymru
O’r Lludw | Ffilm #7 Plethu/Weave

Dyma flog gan Aneirin Karadog a Joe Powell-Main a fu’n cydweithio i greu Fel Lludw, fel rhan o brosiect traws gelfyddyd digidol Llenyddiaeth Cymru a Cwmni Dawns Cenedlaethol Cymru, Plethu/Weave.

‘Hedfan Fel Ffenics’

Mae’r broses o gyfuno dawns â cherdd yn un anghyffredin. Rwyf wedi perfformio i recordiad o farddoniaeth fyw cyn hyn, ond gan amlaf mae’r elfen farddoniaeth wedi’i chreu fel endid ar wahân yr wyf wedyn wedi penderfynu ei ddefnyddio ar gyfer fy ngwaith.

Roedd y ffaith y byddai dwy ffurf ar gelf, dawns a barddoniaeth, yn dod at ei gilydd yn y prosiect hwn yn apelio, yn enwedig yn yr amseroedd digynsail hyn yr ydym yn eu wynebu, ble mae cysylltiadau, er yn bodoli’n rhithiol, yn fwy prin fyth.

Pan fyddaf yn creu symudiad, rwy’n tueddu i weithio mewn ffordd benodol a defnyddio’r gerddoriaeth fel man cychwyn. Rwy’n gwybod bod rhai coreograffwyr yn gweithio’n wahanol, ond rwy’n hoffi bod gan y symudiad gydberthynas â’r sgôr sain neu’r gerddoriaeth. Ro’n i’n chwilfrydig i weld a fyddwn yn gweithio fel hyn gyda’r gerdd neu a fyddwn yn creu’r symudiad yn gyntaf cyn dod o hyd i’r sgôr sain. Fel mae’n digwydd, defnyddiais y broses hon o greu eto ac ar ôl siarad â’r bardd, Aneirin, fe wnaethon ni benderfynu y byddai cael cerddoriaeth o dan y farddoniaeth yn caniatáu i ansawdd rhythmig ddisgleirio trwy’r symudiad a’r farddoniaeth.

Roedd yn ddiddorol gweld y cyweithiau eraill a gynhyrchwyd gan rai o’r beirdd a dawnswyr Cwmni Dawns Cenedlaethol Cymru. Roedd gwylio’r gweithiau eraill hyn yn hynod addysgiadol o ran y cydweithio, ac roedd yn ddiddorol gweld mai’r pwnc dan sylw oedd y grym oedd yn gyrru pob creadigaeth. Canolbwyntiodd rhai ar bwnc personol iawn ac o fewn hynny roedd croestoriad hefyd o ran y modd caiff y materion hyn eu gweld yn y byd modern yr ydym yn byw ynddo.

Roeddwn i wir eisiau tynnu sylw at y ffaith ei bod yn bwysig, wrth inni wynebu’r byd ôl Covid-19, nad yw artistiaid anabl yn cael eu hanghofio a’n bod yn parhau i ymdrechu am gynhwysiant ar draws pob ffurf ar gelfyddyd. Rwy’n wirioneddol gredu y byddai’r byd yn lle llawer llai creadigol pe na baem yn dathlu’r rhwystrau y gallwn eu hwynebu weithiau, sy’n gallu ein gwneud yn gryfach ac yn fwy parod i greu. Fe daniodd yr ymgyrch #Nichawneindileu dân ynof i ddangos, cymaint ag y gallaf, bod cynhwysiant mewn dawns yn gwbl bosibl. Gan ddweud hynny, y syniad y tu ôl i’n ffilm oedd cynrychioli dadeni o fath a dangos er nad oedd anabledd a chynhwysiant mor amlwg yn y gorffennol, fod hynny’n newid ac fod bod ar drothwy gwneud rhywbeth cadarnhaol, gwahanol a newydd yn gyffrous.

Fe wnes i fwynhau gweithio gydag Aneirin yn fawr. O’r eiliad y cawsom ein cyfarfod cyntaf ar Zoom, roeddwn i wir yn teimlo ein bod ni yn deall ein gilydd.

Teimlais fod gweithio o bell yn cynnig her yn y modd yr oedd weithiau yn gohirio’r broses greadigol, gan nad oeddem yn gallu bod yn yr un lle ar un adeg. Pe bai’r prosiect hwn yn digwydd cyn y sefyllfa bresennol rwy’n credu y byddwn wedi gwahodd Aneirin i fod yn bresennol yn y stiwdio yn ystod y cyfnod creu. Credaf fodd bynnag ein bod wedi gallu gweithio gyda’n gilydd yn effeithiol oherwydd bod y ddau ohonom mor angerddol dros ddangos nad yw rhwystrau yn ein dal yn ôl, ond yn hytrach yn gallu newid y ffordd y mae pethau’n cael eu gwneud.

Hoffwn ddiolch yn fawr i Aneirin am ysgrifennu cerdd mor hyfryd O’r Lludw (From the Ashes) ac rwy’n hynod falch bod y Gymraeg wedi ei chofleidio yn y gerdd hon.

Y peth pwysicaf rwyf wedi ei ddysgu o’r prosiect hwn yw gallu’r celfyddydau i fod yn hyblyg ac i addasu. Mae’r prosiect hwn yn sicr wedi rhoi gobaith i mi am ddyfodol y celfyddydau, a gobeithio y bydd wedi gwneud hynny i eraill hefyd!

Joe Powell-Main

 

 

Fel y noda Joe Powell-Main yn ei gofnod blog, mae’r syniad o blethu dawns a barddoniaeth yn unigryw ac yn fy meddwl i, yn gyffrous iawn.  Gwn am brosiectau tebyg sydd wedi archwilio’r tebygrwydd rhwng elfennau fel y gynghanedd a dawnsio kathak o dalaith Uttar Pradesh yng ngogledd India. Diau fod modd canfod cydberthynas rhwng sawl gwahanol agwedd o farddoni a dawnsio ac yn wir, mae gwylio campweithiau’r beirdd a’r dawnswyr eraill yn y gyfres hon o brosiect Plethu wedi bod yn ysbrydoliaeth.

Gyda rhywfaint o nerfusrwydd, fel sy’n naturiol wrth gwrdd â rhywun am y tro cyntaf, ces fy nghyflwyno i’m partner dawns yn y prosiect hwn, sef Joe Powell-Main o Bowys.  O’r cychwyn cyntaf roedden ni’n canu o’r un copi o’r caniedydd, yn cytuno ar weledigaeth o ran sut i fynd ati i greu dawns i gyfeiliant cerdd, neu yn wir, gerdd i gyfeiliant dawns.  Roedd pŵer stori Joe yn glir o’r cychwyn cyntaf – sut y datblygodd anabledd yn ifanc ar ôl dechrau ei yrfa fel dawnsiwr, a sut y mae wedi goresgyn, ac yn parhau i oresgyn, ei anabledd ac yn defnyddio’i sefyllfa er gwell i fynegi ei hun trwy ddawnsio, boed yn defnyddio cadair olwyn neu faglau.

Roedd y stori ysbrydoledig hon y mae Joe yn ei fyw yn cynnig ei hun fel sail i gynnwys y gerdd.

Gyda hynny mewn golwg, roedd yn bwysig i mi taw Joe a’i symudiadau dawns oedd yn sail i’r gwaith ac felly, er gwaetha’r ffaith ein bod ni gryn bellter arwahân, diolch i dechnoleg, ces wylio nifer o glipiau o Joe yn dawnsio yn ei gartref a thu hwnt, ac am fraint fu hynny! Rwy’n hoffi meddwl fy mod i’n gallu trin geiriau yn weddol, ond mae’r modd y mae Joe yn defnyddio ei gorff a’i egni er mwyn cyfleu teimlad yn mynd â gwynt rhywun. Ar adegau, mae’n herio disgyrchiant! Ond o wylio Joe yn dawnsio ac yn rhoi dilyniant o symudiadau at ei gilydd daeth y delweddau a ddefnyddir yn y gerdd o’r siapiau a welwn Joe yn eu cyfleu. Joe hefyd gynigiodd y teitl ‘O’r Lludw’ gyda’r syniad o’r ffenics yn codi o’r lludw a bod nid yn unig, fodd i rywun brofi dadeni wedi profiad ffurfiannol ond hefyd hedfan yn osgeiddig fel ffenics.

Aneirin Karadog

 

Uncategorized @cy