Cerddi gan feirdd y Mamieithoedd

Darllenwch a mwynhewch y cerddi, a gwyliwch y fideo isod er mwyn eu clywed yn eu mamiaith: https://www.llenyddiaethcymru.org/lw-news/mamieithoedd-yng-ngwyl-lenyddiaeth-ryngwladol-cuirt/
Ciara Ní É yw Awdur Preswyl DCU 2020. Hi yw sylfaenydd REIC, noson meic agored farddonol amlieithog sy’n digwydd yn fisol a sy’n cynnwys barddoniaeth, cerddoriaeth, adrodd straeon a rap. Mae hi wedi perfformio yn rhyngwladol yn Efrog Newydd, Llundain, Brwsel, Sweden, ac ar draws Iwerddon, ac mae hi’n llysgennad Canolfan Awduron Iwerddon. Cyhoeddwyd ei gwaith mewn amrywiaeth o gyfnodolion gan gynnwys Icarus a Comhar ac mae ei chasgliad barddoniaeth cyntaf ar y gweill.
Ganwyd a magwyd Bardd Cenedlaethol Cymru Ifor ap Glyn yn Llundain i rieni o Gymru. Mae’n fardd, cyflwynydd, cyfarwyddwr a chynhyrchydd sydd wedi ennill sawl gwobr. Yn awdur toreithiog, mae Ifor wedi ennill y Goron ddwywaith yn yr Eisteddfod Genedlaethol – un o wobrau enwocaf yr ŵyl. Mae Ifor wedi cynrychioli barddoniaeth Gymraeg ledled y byd yn yr iaith Gymraeg a Saesneg, yn fwyaf diweddar yn Camerŵn, Lithwania, China, Gwlad Belg, yr Almaen ac Iwerddon.
Mae Pàdraig MacAoidh yn siaradwr Gaeleg brodorol o Ynys Lewis; mae’n academydd, awdur a darlledwr y mae treftadaeth ieithyddol amrywiol man ei eni yn dylanwadu ar ei waith. Mae Padraig wedi gweithio yng Nghanolfan Barddoniaeth Seamus Heaney, Prifysgol Queen’s Belffast; Coleg y Drindod Dulyn a Choleg Prifysgol Dulyn; ac yn Sabhal Mòr Ostaig, lle’r oedd yn ysgrifennwr preswyl. Mae’n awdur monograff ar waith Sorley MacLean (RIISS, 2010), ac mae wedi cyd-olygu casgliadau o draethodau ar farddoniaeth fodern Wyddelig a’r Alban ac ar lenyddiaeth Gaeleg yr Alban.