Dewislen
English
Cysylltwch

Swyn-gân / Summoning | Ffilm #8 Plethu/Weave

Cyhoeddwyd Iau 19 Tach 2020 - Gan clare e. potter
Swyn-gân / Summoning | Ffilm #8 Plethu/Weave
Dyma gyfieithiad o flog gan clare e. potter a fu’n cydweithio gyda Jo Shapland i greu Swyn-gân / Summoning, fel rhan o brosiect traws gelfyddyd digidol Llenyddiaeth Cymru a Cwmni Dawns Cenedlaethol Cymru, Plethu/Weave.

Mae Cynghanedd yn gymhleth. Fel siaradwr Cymraeg ail iaith, rwy’n rhyfeddu ato ac yn ei ofni. Mae elfennau o’r cytgordio cymhleth yma yn rhai o fy ngherddi Saesneg, ond trwy reddf yn bennaf, yn hytrach na dealltwriaeth o’r rheolau. Yr hyn roeddwn i am ei wneud yn fy ngherdd ar gyfer y prosiect Plethu hwn, oedd peidio â cheisio dysgu sut i ysgrifennu mewn cynghanedd, ond bod yn agored i harmoni, ac yn barod i ymateb i fy mhartner creadigol, i ‘gyd-gyfieithu’ y ffurf hon yn un arall er mwyn ei ddeall yn well.

Wnes i gyfarfod â Jo Shapland dros e-bost cyn i ni siarad. Roedd ganddi amserlen eithaf tynn ac ymdeimlad cryf eisoes ei bod eisiau ffilmio ym Mhwll y Wrach, yn agos at ei chartref yn Llandudoch, Sir Benfro. Cefais fy nal ychydig gan nad ydw i erioed wedi bod yno; sut allwn i ysgrifennu cerdd ddilys am rywle nad oeddwn i erioed wedi bod. Roeddwn eisiau ysgrifennu am iaith, am y berthynas rhwng y Gymraeg a’r Saesneg. Sut fyddai hyn yn ffitio i le penodol iawn? Ond, fe wnes i ychydig o ymchwil a chael fy nhyfareddu ar unwaith. Mae’r lle ei hun yn gymhleth, yn llawn dirgelwch. Wedi i mi siarad â Jo a esboniodd y dynfa ynddi sydd bron yn ‘gyntefig’ at ogof gwymp, ro’n i’n gallu deall y dynfa honno. Eglurodd Jo sut mae hi’n cyfathrebu fel dawnsiwr, ‘geiriau’r corff’ meddai, a chefais fy swyno gan y ffordd y siaradodd am y rhag-eiriol, am y geiriau sy’n dod allan o yn ddwfn oddi mewn iddi pan fydd yn symud. Sylw i odlau a rhythmau mewnol, felly. Fe wnaethon ni setlo ar hynny fel craidd.

Astudiais ddelweddau o Pwll y Wrach ar-lein ac o’r lluniau hyfryd yr oedd Jo wedi’u rhannu â mi o’i recce (yr un yma, yn datgelu wyneb yn y graig), a gwyliais (drosodd a throsodd) fideos o bobl yn agosáu at Bwll y Wrach o’r môr, mewn caiacau. Gan nad o’n i’n gallu ymweld fy hun, roeddwn i’n teimlo bod rhaid i mi gael mynediad rywsut. Cefais fy nharo gan y drysfeydd i mewn i grochan y wrach, y siapiau mewn creigiau fel cegau, oedd yn rhyddhau synau, o lepian ysgafn i boeri gwenwynig. Roeddwn yn ceisio gwneud yr hyn ddywedodd Jo y mae hi’n ei wneud, roeddwn yn ‘mynd i mewn’, i’r gofod corfforol ac i’r hyn oedd yn digwydd i mi drwy hynny, i’r gofod nad oedd yn eiriau.

Hawlfraint: Jo Shapland

Roeddwn i eisiau gwybod mwy am wrachod. A oedd gwrachod wedi bod yn weithgar yn yr ardal hon? Cysylltais ag Efa Lois, darlunydd sy’n gwybod llawer am wrachod Cymreig; arweiniodd hyn fi ar drywydd ymchwil a ddatgelodd bod llai o wrachod yn cael eu herlid yng Nghymru nac mewn mannau eraill, efallai – awgrymwyd – oherwydd eu hiaith ‘ryfedd’ ac oherwydd eu bod yn cael eu hystyried yn iachawyr. Darllenais hefyd am y marciau gwrach a wnaed ar graig fel amddiffyniad. Dechreuais feddwl am y marciau ar y creigiau yn Mhwll y Wrach, efallai nad gwrachod oedd wedi eu gwneud, ond yr iaith o dan wely’r môr, yn y bowlen gwneud geiriau, wedi’u hysgythru ar greigiau ‘graffiti y môr’. Defnyddiais y linell Gymraeg, yr ‘iaith gaeth ar y traeth’ yn reddfol, mae’n nod i reolau’r mesur caeth, ond hefyd yn dangos sut mae geiriau sy’n cael eu dal yn ôl yn cael eu hiacháu ar y lan, eu rhyddhau a’u clywed.

Anfonais y gerdd at Jo ar ffurf testun ond hefyd fel ffeil sain gan fy mod yn gwerthfawrogi y gallai ymateb i synau mewn ffordd wahaol i eiriau. Dywedodd ‘Daeth y recordiad sain yn grud i ffurf fy ffilm.’ Wrth feddwl mwy am symud, meddai Jo:

Sut allwn i fynd y tu hwnt i ddarlunio’r gerdd? Sut allai’r symudiad a’r golygu gael ei iaith ei hun? Sut allai’r rhyngweithio hwn â lle gymryd ei stori ei hun a oedd yn atseinio gyda’r ymdeimlad o le, anian y lle, ac oedd yn gwahodd ymdeimlad dyfnach o eiriau’r gerdd gyfoethog a hardd hon? Sut allwn i ddawnsio gyda cynghanedd yn reddfol?

Ac efallai’r pwysicaf o gwestiynau Jo: ‘Beth mae’r lle eisiau imi ei wneud?’ Rwy’n credu bod y ddwy ohonom yn gwybod bod ysbryd y lle, ar ryw lefel, eisoes yn siarad, a daeth y ddwy ohonom yn gyfieithwyr. Dywedodd Jo ei bod yn ‘gweithio gyda rhythmau siapiau creigiau a cheryntau’ cymaint â’r geiriau. Yn ystod yr holl broses, dywedodd Jo fod morlo ‘yn nodi dechrau a diwedd pob ymweliad â Phwll y Wrach ar gyfer y prosiect’ a’i bod hi ac Anita Kolaczynska (a ffilmiodd Jo yn dawnsio) wedi eu cyffwrdd yn fawr gan y tyst hwn.

Cefais fy syfrdanu gan y ffilm a wnaed ganddi. Yn yr un modd ag y dywedodd Jo fod fy ngherdd yn dal hanfod yr hyn roedd hi’n ei deimlo am y lle, gwnaeth ei dawns a’i ffilm yr un peth i mi. Rwy’n caru’r môr yn ei llygaid a’i dwylo yn y bwlch. Rwyf wrth fy modd â’r arafu a chyflymu, y grwgnach distaw. Mae gan yr holl beth ansawdd hudolus iddo, yn doreithiog gyda throsiadau (a’r cydamseriadau a ddigwyddodd yn ystod y ffilmio, fel y morlo, yr wyneb yn y graig a’r colomennod yn hedfan).

Hawlfraint: Jo Shapland

Fe wnaethon ni alw’r darn yn Swyn-gân / Summoning, a chymaint ag yr oeddem ni’n clywed ac yn gwneud swyn, fe ryddhawyd hynny hefyd. Yng ngeiriau Jo:

[Roedd gen i] weledigaeth reddfol o ffabrig glas fel y ddelwedd olaf… ysfa i ddawnsio ar ên y graig gyda sidan glas ac i annog ei chipio yn y gwynt… Pam? Roedd yn gwneud synnwyr, y tu hwnt i eiriau, ond gyda geiriau’r gerdd, gyda’r gynghanedd.

clare e. potter

Roedd yr erthygl hon gan Gwyneth Lewis’ ar gynghannedd yn amhrisiadwy: https://www.poetryfoundation.org/poetrymagazine/articles/70172/extreme-welsh-meter

Uncategorized @cy