Dewislen
English
Cysylltwch

10 Uchaf Llenyddiaeth Cymru yn 2023

Cyhoeddwyd Iau 21 Rhag 2023 - Gan Llenyddiaeth Cymru
10 Uchaf Llenyddiaeth Cymru yn 2023
Wrth i’r flwyddyn ddirwyn i ben, dyma gyfle inni edrych yn ôl ar ddeuddeg mis byrlymus i’r sector lenyddiaeth yng Nghymru.

Gall llenyddiaeth, yn ei holl amrywiaeth, fod â’r grym i gysylltu cymunedau a rhoi cysur, ysbrydoliaeth a gobaith i’r rhai sydd wir angen hynny. Mae’r straeon y byddwn ni’n eu darllen, yn eu clywed, ac yn eu dweud wrth ein gilydd yn ein helpu i ddehongli cymhlethdodau ein bywydau ac i wneud pen a chynffon o’n byd. Dro ar ôl tro eto eleni, mae awduron a chyfranwyr fel ei gilydd wedi profi inni mai gwir yw’r geiriau hyn.

Hoffem ddiolch o galon i bob unigolyn, sefydliad, a chymuned sydd wedi cyd-weithio â ni neu gefnogi ein gwaith eleni.

Os allwch chi’n cynorthwyo â’n nod o wireddu ein gweledigaeth o Gymru lle mae llenyddiaeth yn grymuso, yn gwella, ac yn cyfoethogi bywydau – boed hynny drwy gyd-weithio, drwy hyrwyddo’n gwaith, neu drwy’n cefnogi, cysylltwch â ni neu ewch draw i’n gwefan.

Dyma ni felly’n 10 uchaf o 2023!

Lansio Rhaglen Canolfan Ysgrifennu Creadigol Tŷ Newydd

Yn yr hyfref cyhoeddon ni raglen llawn dop o gyrsiau Canolfan Ysgrifennu Tŷ Newydd ar gyfer flwyddyn nesaf, a fideo hyfryd sydd yn dangos ei effaith ar awduron. 2024. O gynganeddu i sgwennu cerddoriaeth, o sgwennu i ddysgwyr i gwrs ar Ynys Enlli – mae rhywbeth at ddant pawb! Porrwch trwy’r rhaglen ac archebwch le neu rhowch gwrs yn anrheg y nadolig hwn.

I ddarganfod mwy am y ffyrdd amrywiol rydym yn cefnogi ac yn datblygu awduron, ewch draw i adran bwrpasol ein gwefan, Beth all Llenyddiaeth Cymru ei wneud i mi?

 

Ein Beirdd Cenedlaethol

Yn ystod y flwyddyn mae ein beirdd cenedlaethol, Bardd Cenedlaethol Cymru, Bardd Plant Cymru a Children’s Laureate Wales wedi bod wrthi’n llunio cerddi a rhedeg prosiectau lu. Mae’r beirdd wedi canolbwyntio ar amrywiol themâu – o’r dwys i’r digrif.

Mae ein Bardd Cenedlaethol, Hanan Issa wedi perfformio ar lwyfannau o Mecsico i Frwsel i Benarlâg, ac wedi ysgrifennu sawl cerdd gomisiwn gan gynnwys cerdd i nodi 75 mlwyddiant y Gwasanaeth Iechyd Gwladol, dathliad o gamp tîm Pêl-droed Cymru i gyrraedd Cwpan y Byd, a cherdd i nodi’r erchyllterau yn Gaza ar hyn o bryd.

Ddechrau’r haf cyhoeddwyd penodiadau newydd i’r ddau rôl sy’n bennaf weithio gyda phlant. Cyhoeddwyd mai Nia Morais yw Bardd Plant Cymru 2023-2025, ac mai Alex Wharton yw Children’s Laureate Wales 2023-2025. Mae’r ddau wedi cael tymor cyntaf prysur dros ben, ac yn barod yn ysbrydoli disgyblion o Fôn i Fynwy. Cawsom hefyd gyfle i ddathlu Casi Wyn a Connor Allen, y beirdd fu’n ymgymryd â’r rolau hyn dros y ddwy flynedd ddiwethaf.

Ewch draw i’r adran prosiectau i ddarllen eu gwaith.

 

Pencerdd – Cynllun newydd sbon i gyw-gynganeddwyr

Braint oedd cyhoeddi cynllun newydd i feirdd Cymraeg sydd am ddatblygu eu sgiliau fel cynganeddwyr ar y cyd â Barddas ym mis Tachwedd. Dyma gynllun newydd â’r bwriad o roi hwb i feirdd newydd y Gerdd Dafod gan feithrin lleisiau a safbwyntiau newydd yng nghrefft y gynghanedd yng Nghymru.

Heb anfon cais?
3 Ionawr 2024 yw’r dyddiad cau. Ymgeisiwch nawr!

 

Podlediad Newydd Sbon

Dros y misoedd diwethaf, bob wythnos rydym wedi bod yn cyhoeddi podlediad o gyfres PenRhydd. Mae’r podlediad yn gymysgedd o sgyrsiau a darlleniadau rhai o awduron mwyaf cyffrous y Gymru gyfoes, gyda’r awduron Grug Muse a Iestyn Tyne wrth y llyw.

Gyda nawdd Llenyddiaeth Cymru, recordiwyd y saith sgwrs ym Mhabell Lên Eisteddfod Genedlaethol Llŷn ac Eifionydd ym mis Awst, ac maent yn gyfle euraidd i glywed rhai o leisiau disglair Cymru yn darllen a thrafod eu gwaith ar y gweill.

Erbyn hyn mae pob pennod wedi eu rhyddhau, ac mae modd mwynhau pob un. Ewch ati i wrando!

 

Ein Bwrdd Rheoli

Er mwyn cyflawni ein gweledigaeth, mae cefnogaeth ein Ymddiriedolwyr yn hanfodol bwysig, sydd yn cynrychioli ystod eang sgiliau a phrofiadau ac yn dod o sawl sector amrywiol. Eleni, roeddem yn falch iawn o groesawu pum aelod newydd – Casi Dylan, Rachel Harries, Steve Dimmick, Owen Hathway, a Richard King. Rydym yn parhau i chwilio am ragor o Ymddiriedolwyr a fydd yn cyfrannu at bennu ein cyfeiriad strategol ac yn helpu i ddarparu llywodraethu effeithiol ac adeiladol.

Ydych chi’n angerddol dros y celfyddydau a phosibiliadau trawsnewidiol llenyddiaeth? Cysylltwch â ni neu darllenwch fwy am y rôl a’r cyfrifoldebau yn y pecyn yma.

 

Ysbrydoli Cymunedau

Cynllun ariannu unigryw ar gyfer digwyddiadau llenyddiaeth yw Cronfa Ysbrydoli Cymunedau wedi ei noddi gan y Loteri Genedlaethol drwy Gyngor Celfyddydau Cymru. Mae’r cynllun yn cynnig cymorth ariannol ar gyfer digwyddiadau llenyddol unrhyw le yng Nghymru; mewn neuaddau pentref, mewn llyfrgelloedd, mewn tafarndai, mewn ysgolion, mewn clybiau ieuenctid – a hefyd ar lwyfannau rhithwir ar gyfer grwpiau sy’n cwrdd arlein. Cefnogwyd 157 o sefydliadau yn 2023 er mwyn cynnal darlithoedd, sgyrsiau, gweithdai ysgrifennu creadigol, a mwy.

Ydych chi’n trefnu digwyddiad llenyddol yn 2024? Gwnewch gais nawr ar dudalen Cronfa Ysbrydoli Cymunedau.

 

Gwobr Llyfr y Flwyddyn 2023

Mewn seremoni fawreddog yn y Tramshed yng Nghaerdydd am y tro cyntaf mewn pedair blynedd, cyhoeddwyd mai Pridd gan Llŷr Titus yw Llyfr y Flwyddyn 2023, a cipiodd Caryl Lewis y Brif Wobr yn y Saesneg.

Gallwch ddarganfod mwy am holl enillwyr y noson ar ein gwefan, mwynhau galeri o luniau, ac os nad ydych wedi gwneud eisoes, ewch ati i ddarllen eu gwaith dros yr ŵyl!

 

Cyrsiau Strategol

Ochr yn ochr â’n rhaglen o gyrsiau ysgrifennu creadigol blynyddol yn Nhŷ Newydd, sydd yn agored i unrhyw un eu mynychu, rydym yn cynnal cyfres o gyrsiau sydd wedi eu creu gyda’r nod o fynd i’r afael â thangynrychiolaeth yn y sîn lenyddol yng Nghymru. Mae’r cyrsiau yn rhad ac ddim ac mae proses gystadleuol i’w mynychu.

Roedd Ailddyfeisio’r Prif Gymeriad yn gwrs ysgrifennu creadigol ar gyfer pobl byddar a/neu anabl, Nodyn ar Natur yn gwrs preswyl ysgrifennu natur ar gyfer unigolion o liw sy’nuniaethu fel merched, neu o ryw ymylol, ac (Ail)Sgwennu Cymru i archwilio cymhlethdodau hunaniaeth Gymreig.

Eleni hefyd roedd yn wych cyd-weithio â Gŵyl y Gelli ar ail-ddyfodiad y cynllun Awduron wrth eu Gwaith, a oedd yn cynnig wythnos llawn o gyfleoedd ar gyfer awduron yn ystod yr ŵyl.

 

Llên Mewn Lle

Mae Llên mewn Lle, yr ydym yn ei redeg mewn partneriaeth â WWF Cymru, yn cefnogi prosiectau gan awduron yn eu cymunedau eu hunain sydd yn archwilio’r argyfwng hinsawdd a natur trwy lenyddiaeth. Mae’n cynnig nawdd i awduron a hwyluswyr i greu, sefydlu a chyflawni gweithgaredd sy’n mynd i’r afael â materion sy’n bwysig yn eu cymuned leol. Yn 2022-2023, cefnogwyd tri prosiect unigryw: Gwledda, dan ofal Iola Ynyr yn RhosgadfanFfrwyth ein Tân, prosiect gan Siôn Tomos Owen yn Nhreherbert; a The LUMIN Syllabus gan Sadia Pineda Hameed a Beau W Beakhouse yn Abertawe.

Mae’n werth darllen mwy amdanynt ar adran prosiectau’r wefan.

 

Cynnal Digwyddiadau Dihuno’r Dychymyg

Yn ystod 2023, cynhaliwyd dau ddigwyddiad barddoniaeth yn y Senedd fel rhan o’n cyfres Dihuno’r Dychymyg, wedi eu noddi gan AS Dawn Bawden. Ym mis Chwefror, canolbwyntiodd y digwyddiad ar farddoniaeth a iechyd a llesiant, ac ym mis Gorffennaf, plant a phobl ifanc oedd dan sylw.