Dewislen
English
Cysylltwch

Cyfleoedd Hydref 2020

Cyhoeddwyd Llu 5 Hyd 2020 - Gan Llenyddiaeth Cymru

Dyma restr o gyfleoedd a dyddiadau cau ar gyfer awduron a sefydliadau fel ei gilydd. Ewch ati nawr i ymgeisio am rai o’r cyfleoedd gwych hyn, a chofiwch ymuno â’n cylchlythyr a’n dilyn ar Facebook, Twitter ac Instagram i gael y wybodaeth ddiweddaraf am gyfleoedd i awduron.

 

Nid Llenyddiaeth Cymru sy’n gyfrifol am yr holl gyfleoedd a restrir isod. O dan yr amgylchiadau ansicr presennol yn sgil Coronafeirws, awgrymwn eich bod yn cysylltu’n uniongyrchol â’r trefnwyr am y wybodaeth ddiweddaraf.

 

Cronfa Argyfwng i Awduron – Parhaus

Mae modd i bob awdur proffesiynol sydd yn byw yn y DU neu sydd yn Ddinesydd Prydeinig ymgeisio – gan gynnwys bob math o awdur, ddarlunydd, gyfieithydd llenyddol, sgriptiwr, beirdd, newyddiadurwyr ac eraill – os yw’r weithgaredd hon yn gyfrifol am ganran helaeth o’u hincwm blynyddol.

Mae mwy o wybodaeth ar gael yma: https://www.societyofauthors.org/Grants/contingency-funds#:~:text=The%20Authors’%20Emergency%20Fund,-Emergency%20funding%20for&text=Many%20writers%2C%20illustrators%2C%20journalists%2C,talks%2C%20performances%20and%20school%20visits.

 

Grant White Pube i Awduron – Misol

Rhoddir y Grant White Pube o £500 yn fisol i awdur dosbarth gweithiol yn y DU. Sefydlwyd y grant hwn er mwyn cefnogi awduron o bob oed yn gynnar y neu gyrfa a hoffai fanteisio ar gymorth ariannol heb gytundeb I’w cynorthwyo ym mha bynnag ffordd yr hoffent – gall fod i ryddhau amser I ysgrifennu, I brynnu llyfrau, printio, tanysgrifiadau, ymchwil, datblygu, teithio, neu i dalu costau cyffredinol byw neu rent.

Mae mwy o wybodaeth ar gael yma: https://www.thewhitepube.co.uk/writersgrant#:~:text=This%20grant%20has%20been%20set,development%2C%20travel%2C%20or%20even%20just

 

Wythnos Agored Awduron Newydd DHA 2021 – 12 Hydref 
Yn dilyn llwyddiant eu Dyddiau Agored ar gyfer Awduron sy’n cael eu Tangynrychioli diwethaf, mae David Higham Associates yn bwriadu cynnal Wythnos Agored ar gyfer Awduron Newydd sy’n ysgrifennu ffuglen ar gyfer oedolion a phlant ym mis Ionawr 2021. Caiff ugain o awduron eu dewis i fynychu’r wythnos agored, sydd i gynnwys sgyrsiau arbennig gydag amryw asiant, awduron a golygyddion, ac yn cynnwys sesiwn adborth un-i-un ar un darn o waith gydag un o asiantiaid DHA.

Gwobr Wales Poetry Award 2020 – 27 Medi

Wedi 55 mlynedd o gyhoeddi barddoniaeth gyfoes, a hynny mewn 212 rhifyn (hyd yn hyn) o’u cylchgrawn, mae Poetry Wales yn cynnal y Wales Poetry Award am yr ail flwyddyn yn olynol. Cystadleuaeth genedlaethol i ddarganfod y goreuon o blith barddoniaeth gyfoes ryngwladol. Mae’r Wales Poetry Award yn derbyn cerddi unigol gan feirdd profiadol a beirdd newydd o Gymru a thu hwnt. Mae 3 gwobr, a 10 gwobr gamoliaeth uchel ar gael.

Am ragor o wybodaeth, ewch i: https://poetrywales.co.uk/award/

 

Cynulliad Gwarchodedig i Artistiaid  – 30 Hydref

Mae Artes Mundi yn gwahodd  bob artist du a chroenliw sydd heb fod yn ddu sy’n byw yng Nghymru i fynychu’r Cynulliad, cysylltu ac ychwanegu at sgyrsiau am ddyfodol sector y celfyddydau.

Mae mwy o wybodaeth ar gael yma : http://artesmundi.org/cy/news/held-space-artists-assembly