Dewislen
English
Cysylltwch

Ailddyfeisio’r Prif Gymeriad: Cyfle i Awduron Byddar a/neu Anabl ymuno â chwrs ysgrifennu creadigol digidol

Cyhoeddwyd Mer 23 Awst 2023 - Gan Llenyddiaeth Cymru
Ailddyfeisio’r Prif Gymeriad: Cyfle i Awduron Byddar a/neu Anabl ymuno â chwrs ysgrifennu creadigol digidol

Mae Llenyddiaeth Cymru, mewn partneriaeth â Chelfyddydau Anabledd Cymru, yn falch o wahodd awduron Byddar a/neu Anabl sydd yn byw yng Nghymru i ymgeisio am le ar ein cwrs ysgrifennu creadigol digidol, Ailddyfeisio’r Prif Gymeriad a fydd yn cael ei gynnal yn ystod gaeaf 2023 – gwanwyn 2024. 

Dyddiad Cau: 5.00 pm 2 Hydref 2023
Dyddiadau’r cwrs: 8, 15, 22, 29 Tachwedd 2023 12.00 pm – 2.00 pm gyda sesiynau un-i-un a’r sesiwn olaf yn cael eu cynnal mis Ionawr 2024

 

Enw’r cwrs yw Ailddyfeisio’r Prif Gymeriad a bydd yn cael ei gynnal fel cyfres o 5 gweithdy ar-lein a sesiynau un-i-un, dan arweiniad y dramodydd a’r awdur o fri rhyngwladol, Kaite O’Reilly

 

Ar gyfer pwy mae’r cwrs? 

Mae Llenyddiaeth Cymru a Chelfyddydau Anabledd Cymru yn croesawu ceisiadau gan awduron Byddar a/neu Anabl sydd yn byw yng Nghymru. Mae’r cwrs hwn yn addas ar gyfer awduron o bob genre, gan gynnwys barddoniaeth, rhyddiaith, ffeithiol greadigol, a sgriptiau. Rydym yn croesawu cais gennych chi os ydych chi’n awdur ar gychwyn eich gyrfa sy’n gobeithio datblygu eich sgiliau ysgrifennu, neu’n awdur mwy profiadol sydd â’r bwriad o ailddyfeisio’ch prif gymeriadau.

 

Beth fydd y cwrs yn ei gynnwys? 

Gan ddefnyddio’r enghreifftiau gorau o farddoniaeth, ffuglen, a dramâu a ysgrifennwyd gan awduron anabl a Byddar, bydd y gweithdai’n gyfle i herio ystrydebau, ystyried naratif newydd, ac edrych ar ailddyfeisio cymeriadau, ystyried diweddglo annisgwyl, ac yn edrych ar adnewyddu’r iaith yn ein gwaith.  

Gellir gweld enghraifft fer o’r hyn i’w ddisgwyl ym mhob sesiwn yma.

 

Hygyrchedd 

Bydd y cwrs yn cael ei gynnal dros blatfform digidol Zoom a bydd pob gweithdy digidol yn para 2 awr, gydag egwyl yn y canol. Os oes angen at ddibenion mynediad, gellir recordio sesiynau er mwyn galluogi cyfranogwyr eu gwylio yn ôl yn eu hamser eu hunain.  

Bydd Llenyddiaeth Cymru  yn darparu dogfen hygyrchedd i bob ymgeisydd llwyddiannus, er mwyn holi am unrhyw ofynion mynediad sydd gennych. Byddwn yn cynnig cymorth digonol lle bo angen. Er enghraifft, gallwn drefnu gwasanaeth capsiwn byw neu ddehonglydd BSL i fod yn bresennol yn ystod y sesiynau. Bydd staff Llenyddiaeth Cymru hefyd ar gael i sgwrsio neu ateb gwestiwn cyn y cwrs er mwyn sicrhau bod y cwrs mor hygyrch, cyfforddus a phleserus ac sydd yn bosib i bob unigolyn.  

 

Sut gallaf ymgeisio am le ar y cwrs? 

I wneud cais am le ar y cwrs hwn, byddwn yn gofyn i chi:  

Cofiwch anfon eich cais atom erbyn 5.00pm. 2 Hydref 2023.  

I’ch helpu i baratoi eich cais, gallwch lawrlwytho’r ffurflen gais isod i ddarllen y cwestiynau ymlaen llaw. Mae Fersiwn Cyfeillgar i unigolion â Dyslecsia a fersiwn Print Bras hefyd ar gael isod. Os byddai’n well gennych lenwi un o’r ffurflenni hyn yn hytrach na’r ffurflen gais ar SurveyMonkey, dychwelwch eich ffurflen i post@llenyddiaethcymru.org

Os hoffech chi sgwrsio ag aelod o staff cyn gwneud cais, e-bostiwch Llenyddiaeth Cymru ar post@llenyddiaethcymru.org neu ffoniwch ni am sgwrs: 01766 522 811 (Swyddfa Tŷ Newydd) neu 02920 472266 (Swyddfa Caerdydd). Neu gallwch gysylltu â ni ar gyfryngau cymdeithasol. 

Bydd staff Llenyddiaeth Cymru a Chelfyddydau Anabledd Cymru hefyd ar gael i ateb eich cwestiynau yn ystod dwy sesiwn ddigidol anffurfiol. 

Cofrestrwch ar gyfer y sesiwn drwy glicio ar y dyddiadau isod: 

Dydd Mawrth, 12 Medi am 12.00pm-1.00pm 

Dydd Mawrth, 26 Medi am 6.00pm-7.00pm 

Mae rhagor o wybodaeth am y tiwtor, hygyrchedd, cynnwys y cwrs, Cwestiynau Cyffredin a’r broses ymgeisio i’w gweld ar dudalen prosiect Ailddyfeisio’r Prif Gymeriad ar wefan Llenyddiaeth Cymru.  

Mae Llenyddiaeth Cymru yn falch o weithio  mewn partneriaeth â Celfyddydau Anabledd Cymru ar y cwrs hwn ac yn ddiolchgar am eu cefnogaeth.