Dewislen
English
Cysylltwch

Os oes gennych gwestiynau am y cwrs Ailddyfeisio’r Prif Gymeriad, darllenwch ein Cwestiynau Cyffredin isod. 

Os na allwch weld ateb i’ch cwestiwn, e-bostiwch Llenyddiaeth Cymru ar post@llenyddiaethcymru.org neu ffoniwch ni am sgwrs anffurfiol ar 01766 522 811 (Swyddfa Tŷ Newydd).  

Mae’r ddogfen hon ar gael i’w lawrlwytho ac mae ar gael mewn print bras ac mewn fformatau sy’n gyfeillgar i unigolion â dyslecsia ar ein tudalen Lawrlwytho.

Cwestiynau Cyffredin

Pwy sy'n gymwys i ymgeisio?

Mae’r cyfle hwn ar gyfer awduron o Gymru dros 18 oed sy’n Fyddar a/neu’n Anabl a/neu’n Niwroamrywiol yn ôl y *model cymdeithasol o anabledd. 

*Mae’r Model Cymdeithasol o Anabledd yn nodi bod pobl yn anabl oherwydd rhwystrau mewn cymdeithas, nid gan eu nam neu wahaniaeth. 

Rydym yn croesawu cais gennych chi os ydych chi’n awdur ar gychwyn eich gyrfa sy’n gobeithio datblygu eich sgiliau ysgrifennu, neu’n awdur mwy profiadol sydd â’r bwriad o ailddyfeisio’ch prif gymeriadau. Mae’r cwrs yn berthnasol i awduron o bob genre, gan gynnwys barddoniaeth, rhyddiaith, ffeithiol a sgriptio. 

Bydd y cwrs yn cael ei gynnal drwy gyfrwng y Saesneg. Fodd bynnag, rydym yn croesawu awduron sy’n ysgrifennu’n bennaf yn Gymraeg. Bydd y sgiliau a’r grefft y byddwch yn eu dysgu ar y cwrs yn berthnasol i ysgrifennu creadigol ym mhob iaith. Ar gyfer ysgrifenwyr Byddar, byddwn yn trafod eich anghenion mynediad, ac yn sicrhau y bydd dehongliad BSL yn bresennol, neu wasanaeth capsiwn byw ar gael – yn dibynnu ar eich dewis. 

Mae gen i anabledd sy'n ei gwneud hi'n anodd i mi wneud cais am y cyfle hwn. Gallwch chi helpu? 

Mae croeso i chi gysylltu â ni i drafod unrhyw fater sy’n ei gwneud hi’n anodd gwneud cais am y cyfle hwn. 

Gallwch gysylltu â ni ar e-bost ( post@llenyddiaethcymru.org ) neu ffoniwch ni am sgwrs: 01766 522 811 (Swyddfa Tŷ Newydd) neu 02920 472266 (Swyddfa Caerdydd). 

Bydd staff Llenyddiaeth Cymru a Chelfyddydau Anabledd Cymru hefyd ar gael i ateb eich cwestiynau yn ystod dwy sesiwn digidol anffurfiol a gynhelir ddydd Mawrth, 12 Medi am 12.00pm-1.00pm a dydd Mawrth, 26 Medi am 6.00pm-7.00pm. 

A oes angen profiad arnaf i wneud cais? Neu ydw i'n rhy brofiadol? 

Rydym yn bennaf yn chwilio am egin awduron neu unigolion ar ganol eu gyrfa sydd â photensial mawr. Nid oes angen profiad blaenorol manwl o ysgrifennu arnoch o reidrwydd, dim ond syniadau da ac agwedd gadarnhaol a phenderfynol. Fel unrhyw grefft arall, gall ysgrifennu fod yn heriol ac mae angen llawer o ymdrech ac amynedd. Bydd y cwrs hwn yn eich helpu i ddatblygu’r sgiliau sydd ei angen arnoch i barhau ar eich taith fel awdur. Mae Llenyddiaeth Cymru a Chelfyddydau Anabledd Cymru wedi ymrwymo i gynnig cefnogaeth tu hwnt i’r cwrs.  

Fodd bynnag, os ydych eisoes yn awdur profiadol, er enghraifft, efallai eich bod wedi cyhoeddi eich pamffled neu lyfr eich hun, efallai y byddwch yn dal i weld bod yna rwystrau sy’n eich atal rhag cyrraedd eich llawn botensial, neu efallai yr hoffech arbrofi gyda genre, ffurf neu iaith arall. Bydd gan bawb ddiffiniad gwahanol o brofiad, a lle maent arni ar eu taith fel awdur. 

Beth fydd yn digwydd ar ôl i mi wneud cais? 

Caiff ceisiadau eu hasesu gan banel o staff sy’n cynrychioli Llenyddiaeth Cymru a Chelfyddydau Anabledd Cymru. Byddwn yn hysbysu pob ymgeisydd erbyn dydd Llun, 23 Hydref 2023, os ydynt yn llwyddiannus neu beidio. Byddwn yn dewis hyd at 10 awdur llwyddiannus ar gyfer y cwrs. 

Bydd ein penderfyniad yn seiliedig ar ansawdd a photensial eich gwaith, ar wreiddioldeb eich cais, ac ar eich dealltwriaeth o ddiben y cwrs a sut y gallai effeithio ar eich datblygiad proffesiynol fel awdur. Er mwyn sicrhau carfan amrywiol o awduron, efallai y byddwn hefyd yn ystyried lleoliad daearyddol, nodweddion gwarchodedig datganedig, ieithoedd, ac a ydych wedi derbyn cyfleoedd tebyg yn y gorffennol. 

Bydd ymgeiswyr llwyddiannus yn cael eu gwahodd i anfon dogfen hygyrchedd atom, i helpu i roi gwybod i ni am y cymorth y bydd ei angen arnoch i allu cymryd rhan yn y cwrs. Gallwn ddarparu templed os yw o gymorth, a bydd staff o Llenyddiaeth Cymru a Chelfyddydau Anabledd Cymru wrth law i helpu. 

Byddwn yn gofyn i bob ymgeisydd llwyddiannus ymrwymo’n llawn i gymryd rhan yn y cwrs cyfan. 

Os byddaf yn aflwyddiannus, a fyddaf yn derbyn adborth? 

Gan ein bod yn disgwyl llawer o geisiadau, efallai na fyddwn yn gallu cynnig adborth manwl i bob ymgeisydd. Fodd bynnag, lle bo’n bosibl byddwn yn darparu adborth byr, personol, ac yn cynghori ar gyfleoedd eraill ar gael gan Llenyddiaeth Cymru a’n partneriaid. 

Rydym yn ymwybodol y gall gohebiaeth ynghylch ceisiadau aflwyddiannus gael effaith negyddol ar eich iechyd a’ch lles. Rhoddwn ein haddewid i barchu a gwerthfawrogi pob cais unigol, gan roi ystyriaeth a sylw dyledus iddo. 

Bydd tîm bychan o staff Llenyddiaeth Cymru yn cael mynediad at eich gwaith creadigol a gyflwynwyd fel rhan o’ch cais. Yn unol â’n strategaeth sgowtio talent, mae’n bosibl y byddwn yn cysylltu yn y dyfodol â chyfleoedd personol, yn seiliedig ar eich gwaith a’ch arbenigedd. Er mwyn galluogi Llenyddiaeth Cymru i gydymffurfio â chyfraith diogelu data (GDPR), cwblhewch yr adran berthnasol ar ddiwedd y ffurflen gais i roi gwybod i ni os nad ydych am i Llenyddiaeth Cymru gysylltu â chi ynglŷn â chynigion yn y dyfodol. 

Beth fydd ei angen arnaf i gymryd rhan? 

Bydd y cwrs yn cael ei gyflwyno ar y platfform digidol, Zoom. Gallwch ymuno â Zoom am ddim, neu gallwch ymuno fel gwestai. Bydd angen cysylltiad cryf a sefydlog â’r rhyngrwyd i gymryd rhan. Fe fydd angen dyfais (ffôn symudol, gliniadur, neu gyfrifiadur, gyda meicroffon a gwe-gamera). 

Bydd angen i chi hefyd neilltuo amser i gymryd rhan yn y cwrs. Bydd y sesiynau yn cymryd cyfanswm o 12 awr, dros 6 sesiwn wahanol. Bydd angen i chi hefyd ystyried yr amser y bydd ei angen arnoch i blethu’r hyn y byddwch yn ei ddysgu i’ch gwaith, a datblygu eich ysgrifennu yn eich amser eich hun. 

A oes cost am y cwrs hwn? 

Nag oes. Mae angen ffi i fynychu’r rhan fwyaf o gyrsiau Tŷ Newydd Llenyddiaeth Cymru, ond mae rhywfaint o’n gweithgarwch mwy strategol yn cael ei gynnig yn rhad ac am ddim i unigolion drwy broses ymgeisio gystadleuol, fel y cwrs hwn. 

A fydd ‘gwaith cartref’ rhwng y gweithdai?

Bydd! Dylai y dudalen hon roi rhagor o wybodaeth i chi am yr hyn i’w ddisgwyl o bob gweithdy unigol. Er mwyn caniatáu i’r awduron gael cymaint o fudd â phosibl o’r cwrs, bydd Kaite yn gosod tasgau byr ac yn eich annog i weithio ar eich darn unigol rhwng sesiynau. Nod y cwrs hwn yw cynnig cyfle datblygu dwys i grŵp o awduron, felly bydd angen ymroi er mwyn cael budd o’r cyfle.  

 

Beth fydd yn digwydd ar ôl i'r cwrs ddod i ben? 

Mewn partneriaeth â Chelfyddydau Anabledd Cymru, byddwn yn hwyluso rhaglen ôl-ofal i annog datblygiad yr awduron ar ôl i’r cwrs ddod i ben. Byddwn hefyd yn annog y garfan i barhau i gyfarfod ar-lein ar ôl y cwrs, i drafod cynnydd, rhwystrau, arfer da, ac i rannu gwaith sydd ar y gweill. Bydd Llenyddiaeth Cymru a Chelfyddydau Anabledd Cymru yn rhannu cyfleoedd datblygu awduron a chyhoeddi pellach, er mwyn sicrhau bod yr awduron yn parhau i ddatblygu yn y tymor hir. 

Nôl i Ailddyfeisio’r Prif Gymeriad: Cyfle i Awduron Byddar a/neu Anabl