Ailddyfeisio’r Prif Gymeriad: Cyfle i Awduron Byddar a/neu Anabl ymuno â chwrs ysgrifennu creadigol digidol
Mae Llenyddiaeth Cymru, mewn partneriaeth â Chelfyddydau Anabledd Cymru, yn falch o wahodd awduron Byddar a/neu Anabl sydd yn byw yng Nghymru i ymgeisio am le ar ein cwrs ysgrifennu creadigol digidol, Ailddyfeisio’r Prif Gymeriad a fydd yn cael ei gynnal yn ystod gaeaf 2023 – gwanwyn 2024. Bydd y cwrs yn cael ei redeg fel cyfres o 5 gweithdy digidol a sesiynau un-i-un, dan arweiniad y dramodydd a’r awdur o fri rhyngwladol Kaite O’Reilly. Bydd y cwrs yn cael ei gynnal drwy gyfrwng y Saesneg. Fodd bynnag, rydym yn croesawu awduron sy’n ysgrifennu’n bennaf yn Gymraeg. Bydd y sgiliau a’r grefft y byddwch yn ei ddysgu ar y cwrs yn berthnasol i ysgrifennu creadigol ym mhob iaith.
O’r dudalen hon, gallwch ddod o hyd i wybodaeth am y cwrs Ailddyfeisio’r Prif Gymeriad a manylion ar sut i wneud cais.
Mae Llenyddiaeth Cymru yn falch o weithio mewn partneriaeth â Celfyddydau Anabledd Cymru ar y cwrs hwn ac yn ddiolchgar am eu cefnogaeth.
Dyddiadau Pwysig
Dyddiad Cau: 5.00pm, Dydd Llun 2 Hydref 2023
Dyddiadau’r cwrs: 8, 15, 22, 29 Tachwedd 2023, 12.00pm -2.00pm gyda sesiynau un-i-un a’r gweithdy olaf yn cael eu cynnal ym mis Ionawr 2024.
Ceir rhagor o fanylion am y rhaglen, cymhwysedd, a sut i wneud cais isod.
Mae’r wybodaeth ar gael mewn print bras ac mewn fformatau cyfeillgar i unigolion â dyslecsia ar y dudalen Llawrlwytho.