Dewislen
English
Cysylltwch

Cyfleoedd Awst 2020

Cyhoeddwyd Llu 3 Awst 2020 - Gan Llenyddiaeth Cymru
Cyfleoedd Awst 2020

Dyma restr o gyfleoedd a dyddiadau cau ar gyfer awduron a sefydliadau fel ei gilydd. Ewch ati nawr i ymgeisio am rai o’r cyfleoedd gwych hyn, a chofiwch ymuno â’n cylchlythyr a’n dilyn ar Facebook, Twitter ac Instagram i gael y wybodaeth ddiweddaraf am gyfleoedd i awduron.

 

Nid Llenyddiaeth Cymru sy’n gyfrifol am yr holl gyfleoedd a restrir isod. O dan yr amgylchiadau ansicr presennol yn sgil Coronafeirws, awgrymwn eich bod yn cysylltu’n uniongyrchol â’r trefnwyr am y wybodaeth ddiweddaraf.

 

Rhaglen Gyrsiau Digidol Tŷ Newydd – Awst ymlaen

Gobeithiwn yn wir y gallwn ail agor drysau Tŷ Newydd yn fuan, ond yn y cyfamser, mae’n hymrwymiad i ddarparu cyfleoedd i awduron feithrin a datblygu eu sgiliau yn parhau. Dyma gyflwyno rhaglen o gyrsiau blasu a chyrsiau wythnos o hyd – oll trwy gyfryngau digidol.

Ewch draw i’n gwefan i bori drwy’r holl gyrsiau ac i archebu eich lle: https://www.tynewydd.cymru/blog/cyhoeddi-rhaglen-gyrsiau-digidol-ty-newydd-2020/

 

Comisiwn g39: Intermission – 7 Awst

Mae g39 yn falch o gynnig cefnogaeth i artistiaid Cymreig/ wedi eu lleoli yng Nghymru i greu gwaith newydd. Dymunwn i’r comisiwn gyrraedd cynulleidfa mor eang â phosib. Rydym yn annog agwedd sy’n ffocysu ar gymuned, agwedd gyfranogol neu gynhwysol, ymwybyddiaeth o gyddestun ac o’r sefyllfa bresennol. Rydym yn cydnabod y cyfyngiadau o weithio yn ystod y cyfnod clo ac yn croesawu agweddau newydd o gyflwyno gwaith

Am ragor o wybodaeth, ewch i:  https://g39.org/files/Comiswn%20g39_Intermission%20CYM_7345.pdf

 

Word Play: Preswylfa Barddoniaeth a Chelf – 10 Awst

Mae Stiwdio Mahler-Lewitt yn Spoleto, Yr Eidal, yn edrych am artist, awdur neu guradur i ymuno â sesiwn preswyl y ‘Word play: Art & Poetry’, sydd wedi ei drefnu mewn cydweithrediad â’r bardd Rachael Allen, am hyd at 4 wythnos rhwng y 26 Awst a’r 20 Medi 2020.

Am ragor o wybodaeth, ewch i:  http://www.mahler-lewitt.org/events/word-play-art-poetry

 

Swydd Cydlynydd Barddas – 12 Awst

Swydd gyffrous ac amrywiol sy’n cynnig cyfle i berson trefnus a brwdfrydig chwarae rhan sylweddol yn datblygu’r cyfraniad a wna’r Gymdeithas ym myd barddoniaeth Gymraeg.

Chwiliwn am unigolyn egnïol sy’n meddu ar sgiliau gweinyddol o’r radd flaenaf, ynghyd â meistrolaeth o’r cyfryngau cymdeithasol at ddiben hyrwyddo a marchnata yn greadigol. Byddai’n hynod o fanteisiol petai’r unigolyn yn gyfarwydd â byd barddoniaeth a llenyddiaeth yng Nghymru heddiw, gan amlygu brwdfrydedd tuag at amcanion a gweithgaredd Barddas.

Am ragor o wybodaeth, ewch i:  https://www.barddas.cymru/swyddi/swydd-cydlynydd-barddas/

 

Tymor y DU/Awstralia 2021-22 – 17 Awst

Mae British Council Wales yn gwahodd artistiaid ac unigolion celfyddydol sydd wedi eu lleoli yn y Deyrnas Unedig i gynnig syniad am brosiect er mwyn ymgeisio i gael eu cynnwys yn Nhymor DU/Awstralia 2021-22. Yn ystod y tymor hwn bydd artistiaid, prifysgolion, ac arweinwyr y gymdeithas sifil yn dod at ei gilydd i archwilio ein cyd-destun presennol fel dwy genedl sy’n edrych tuag allan, dan y thema ‘Pwy ydym ni nawr?’

Am ragor o wybodaeth, ewch i:  https://www.britishcouncil.org.au/UKAustraliaSeason

 

Gwobr The Highland Book Prize – 19 Awst 

Mae’r Highland Book Prize, a sefydlwyd yn 2017, yn dathlu’r goreuon o blith gweithiau cyhoeddeig sy’n cydnabod talent, tirwedd ac amrywiaeth ddiwyllianol anhygoel Ucheldir yr Alban. Gall unrhyw gyhoeddwyr o’r Deyrnas Unedig gyflwyno gweithiau, ac mae modd lawrlwytho pecyn ymgeisio drwy’r wefan.

Am ragor o wybodaeth, ewch i:  http://www.highlandbookprize.org.uk/apply/

 

Adnoddau Artistiaid: Cyfle i artistiaid greu adnodd cyfrannol i warp | g39. – 21 Awst

Oes gennych chi sgiliau, gwybodaeth arbenigol neu wybodaeth/ gwaith ymchwil hoffech chi rannu gyda’r sector? Rydym yn cynnig ffioedd o £600 i ddatblygu adnoddau rhanadwy neu gyfeiryddion a all gael ei ddefnyddio yn nawr neu yn y dyfodol.

Am ragor o wybodaeth, ewch i: https://g39.org/files/Galwad%20Agored_Adnoddau%20CYM_7343.pdf

 

Cystadleuaeth Ysgrifennu Newydd Rocliffe BAFTA – 30 Awst

Dyma lwyfan i ddarpar sgriptwyr teledu cael arddangos eu gwaith a chyfle gwych i ddatblygu eu gyrfa fel sgriptwyr i’r lefel nesaf. Mae Cystadleuaeth Ysgrifennu Newydd Rocliffe BAFTA yn cynnig nifer cyfyngedig o fwrsariaethau ar gyfer ymgeiswyr sydd â ffactorau a allai eu hatal rhag cystadlu, gael mynediad am ddim i’r cystadlaethau.

 Am ragor o wybodaeth, ewch i:  http://www.bafta.org/supporting-talent/rocliffe

 

Rheolwr Rhaglen a Chyfranogiad – 1 Medi

Mae Jukebox Collective, sydd wedi’i leoli yn Butetown, Caerdydd, yn sefydliad dan arweiniad pobl Dduon ac mae wedi’i wreiddio mewn diwylliant ieuenctid/stryd. Mae Jukebox Collective yn chwilio am Reolwr Rhaglen a Chyfranogiad brwd, ymroddedig a phrofiadol i weithio yn ein hadran Dosbarthiadau, Allgymorth a’r Academi ac i ymuno â thîm bach yng Nghaerdydd

Am ragor o wybodaeth, ewch i: https://arts.wales/cy/newyddion-swyddi-chyfleoedd/rheolwr-rhaglen-chyfranogiad

 

Ein milltir sgwâr – canol dydd 1 Medi

‘Ein Milltir Sgwâr’ yw prosiect i helpu ni dychmygu’r dyfodol yna. Byddwn ni’n talu 5 awdur i ysgrifennu unrhyw fath o waith creadigol yn rhagweld sut fyd bydd ei milltir sgwâr yn y deng mlynedd nesaf. Bydd pob awdur yn cael ei dalu £100 i ysgrifennu rhywbeth sy’n tua 3-5 tudalen o hyd. Bydd y gwaith yn cael ei arddangos ar ein gwefan ni, efo’r waith gan 5 awduron eraill pwy sy’n weithio dros Gymru. Ysgrifennwch yn y iaith/ieithoedd bo chi’n teimlo’n fwyaf cyfforddus.

Am ragor o wybodaeth, ewch i: https://www.sustainablewales.org.uk/blog/2020/6/4/osm2020

 

Gwobr Wales Poetry Award 2020 – 27 Medi

Wedi 55 mlynedd o gyhoeddi barddoniaeth gyfoes, a hynny mewn 212 rhifyn (hyd yn hyn) o’u cylchgrawn, mae Poetry Wales yn cynnal y Wales Poetry Award am yr ail flwyddyn yn olynol. Cystadleuaeth genedlaethol i ddarganfod y goreuon o blith barddoniaeth gyfoes ryngwladol. Mae’r Wales Poetry Award yn derbyn cerddi unigol gan feirdd profiadol a beirdd newydd o Gymru a thu hwnt. Mae 3 gwobr, a 10 gwobr gamoliaeth uchel ar gael.

Am ragor o wybodaeth, ewch i: https://poetrywales.co.uk/award/