Dewislen
English
Cysylltwch

Connor Allen yw’r Children’s Laureate Wales ar gyfer 2021-2023

Cyhoeddwyd Iau 7 Hyd 2021 - Gan Llenyddiaeth Cymru
Connor Allen yw’r Children’s Laureate Wales ar gyfer 2021-2023
Dros y ddwy flynedd nesaf, bydd barddoniaeth a pherfformiad yn cynnau dychymyg plant wrth i’r bardd a’r artist amlddisgyblaethol o Gasnewydd, Connor Allen, ymgymryd â rôl Children’s Laureate Wales ar gyfer 2021-2023.

Penodwyd Connor yn dilyn galwad lwyddiannus ym mis Mai 2021, ac mae Llenyddiaeth Cymru wrth ei fodd yn croesawu artist mor dalentog a deinamig i’r swydd lysgenhadol hon.

Cyhoeddwyd penodiad Connor ar Ddiwrnod Barddoniaeth 2021, dathliad blynyddol ledled y DU sy’n annog pawb i fwynhau, darganfod a rhannu barddoniaeth. Mae nodau’r dathliad yn adlewyrchu gweledigaeth Connor yn hapus am y ddwy flynedd nesaf, wrth iddo weithio tuag at wneud barddoniaeth yn hygyrch, yn hwyl, ac yn berthnasol i blant a phobl ifanc ledled Cymru.

Meddai Connor Allen: “Cefais fy magu ar Ystâd y Cyngor yng Nghasnewydd, ac roedd barddoniaeth a’r celfyddydau bob amser yn cael eu hystyried yn famoth anferth uwch ein pennau… Y cyfle i ddiffinio barddoniaeth a’i chyflwyno fel ffordd syml o fynegi eich teimladau yw un o’r prif resymau roeddwn i eisiau bod yn Children’s Laureate Wales. “

Cyhoeddwyd hefyd bod y bardd a’r canwr, Casi Wyn wedi’i phenodi’n Bardd Plant Cymru 2021-2023. Mae’r ddau brosiect yn ategu ei gilydd, a dros y ddwy flynedd nesaf bydd Connor a Casi yn cyfrannu at feithrin cenhedlaeth iachach, fwy creadigol a mwy amrywiol o ddarllenwyr ac awduron ledled Cymru. Byddant yn gweithio gyda phobl ifanc 5-13 oed yn bennaf.

Ceir rhagor o wybodaeth ar dudalen brosiect Children’s Laureate Wales.