Dewislen
English
Cysylltwch

Cyhoeddi enwau beirdd carfan Pencerdd 2025 – 2026

Cyhoeddwyd Gwe 21 Maw 2025 - Gan Llenyddiaeth Cymru
Cyhoeddi enwau beirdd carfan Pencerdd 2025 – 2026
Mae pum bardd ar fin dechrau siwrne blwyddyn o hyd i ddatblygu eu sgiliau cynganeddu. Mae’r pump wedi eu dethol ar gyfer rhaglen Pencerdd, a braint aruthrol yw cyhoeddi eu henwau heddiw.

Nod cynllun Pencerdd yw rhoi hwb i feirdd lled-newydd y Gerdd Dafod gan feithrin lleisiau a safbwyntiau newydd yng nghrefft y gynghanedd yng Nghymru. Dyma’r eildro i Llenyddiaeth Cymru redeg y cynllun gyda chefnogaeth Barddas, yn dilyn blwyddyn beilot yn 2024.

Rhaglen rhad ac am ddim blwyddyn o hyd yw Pencerdd, sy’n rhoi cyfle i bum bardd sy’n gynganeddwyr lled-newydd i ganolbwyntio ar y grefft o ddifri. Byddant yn mynychu cwrs preswyl yng Nghanolfan Ysgrifennu Tŷ Newydd yn mis Ebrill 2025 dan arweiniad Mererid Hopwood a Ceri Wyn Jones, cyn cael eu paru gydag athro barddol am flwyddyn i dderbyn sesiynau mentora un-i-un. Bydd y garfan hefyd yn derbyn cyfres o weithdai digidol, yn ogystal â gofodau sgwennu i gwrdd â beirdd a rhannu eu taith i gynganeddu a chreu rhwydwaith gefnogol.

Meddai Leusa Llewelyn, Cyfarwyddwr Artistig Llenyddiaeth Cymru:

“Mae’n fraint cael cydweithio â Barddas eto ar raglen i hybu’r gynghanedd, ac i ddod o hyd i leisiau newydd ac amrywiol i’w meithrin o fewn y traddodiad barddol unigryw hwn. Mae’r llwybr i feistroli crefft y gynganeddu yn un hir a difyr, a braint fydd cael bod yn gwmni i’r criw o bump wrth iddynt gychwyn ar eu taith.”

Detholwyd carfan Pencerdd 2025 – 2026 gan Jo Heyde ac Aneirin Karadog ar ran Barddas a Leusa Llewelyn o Llenyddiaeth Cymru.

 

Carfan Pencerdd 2025 – 2026 yw:

Brennig Davies

Llio Elain Maddocks

Mared Fflur

Megan Jones

Nanw Maelor

 

Brennig Davies

Llenor 24 oed o Fro Morgannwg yw Brennig. Fe enillodd Wobr Awduron Ifanc y BBC yn 2015, a Choron Eisteddfod yr Urdd Caerdydd a’r Fro 2019, yn ogystal â chael ei ddewis fel un o Awduron wrth eu Gwaith Gŵyl y Gelli yn 2023. Mae ei waith wedi cael ei ddarlledu ar BBC Radio 4 a BBC Radio Cymru, ac wedi ei gyhoeddi yn The London Magazine, Poetry Wales, Ffosfforws, Curiadau (Barddas), a Cymry Balch Ifanc (Rily).  

Mae Brennig yn mwynhau nofio’n y môr, cerdded ei gi, darllen, a threulio amser gyda ffrindiau a theulu. Mae’n wael am wneud DIY ond yn dda am karaoke (yn dibynnu ar y gân, a pha mor hwyr yn y noson yw hi).

Mewn ffordd, mae’r gynghanedd wastad wedi codi ofn arna i: yr holl reolau cymhleth a deddfau dryslyd, mor hawdd i’w baglu drostynt. Ond mae’n wir, hefyd, ei bod mor effeithiol, mor brydferth yn y ffordd mae’n taro’r glust pan mae’n gywir, ac yn rhan mor arwyddocaol o’n diwylliant llenyddol yma yng Nghymru, bod y syniad o ymgymryd â’r her o ddysgu sut i’w thrin yn fwy cyffrous na brawychus. Mae sawl agwedd i’r cynllun yn apelio ata i yn enwedig y cyfle i dreulio rhagor o amser yn Nhŷ Newydd, un o’m hoff lefydd yn y byd, a chwrdd a chydweithio gyda beirdd eraill ond yn fwy na dim dwi’n disgwyl ymlaen at gael blwyddyn o glymu fy hun yn y ffurfiau caeth, a dwi’n gobeithio, trwy hynny, datgloi peth o’u hyfrydwch i’w gynnwys yn fy ngherddi fy hun.

 

Llio Elain Maddocks

Mae Llio yn fardd ac yn awdur, yn wreiddiol o Lan Ffestiniog ond bellach yn byw yng Nghaerdydd. Mae hi’n gweithio fel Cyfarwyddwr Celfyddydol yr Urdd yn y dydd, ac yn chwarae efo geiriau yn y nos. 

Cyrhaeddodd ei nofel gyntaf, Twll Bach yn y Niwl (Y Lolfa, 2020), restr fer Gwobr Llyfr y Flwyddyn 2021 yn y categori ffuglen, ac fe’i dewiswyd i Silff Lyfrau y Gyfnewidfa Lên 2021. Hon oedd y nofel gyntaf ar gyfer millenials yn y Gymraeg. Cafodd ei hail nofel, Un Noson, ei chyhoeddi yn 2022 (Y Lolfa) fel rhan o gyfres Stori Sydyn. 

Mae ei cherddi i’w gweld ar ei thudalen Instagram (@llioelain), a cyhoeddodd ei chasgliad gyntaf o farddoniaeth, Stwff ma hogia ’di deud wrtha fi (Cyhoeddiadau’r Stamp) yn 2021. 

Enillodd Goron Eisteddfod yr Urdd yn 2014, a derbyniodd Ysgoloriaeth Llenyddiaeth Cymru yn 2019.  

Dwi wastad wedi bod isio cynganeddu, ond fod gen i barchedig ofn y grefft. Dwi ’di treulio oriau’n gwylio hogia’n chwysu dros gynghanedd mewn ymryson neu dalwrn, yn methu helpu heblaw am nôl paneidiau. Ond ar ôl bod yn rhan o gynllun Pencerdd? Nid hogan gyffredin fyddai mwyach, ond swper-hogan sy’n gallu cynganeddu. 

Dwi’n meddwl, i wirioneddol allu dysgu cynganeddu, bod angen bod yn gaeth iddi. A dwi’n barod i fod yn addict i’r gynghanedd. 

Fedrai siarad am oriau am y ffaith nad oes digon o ferched yn cynganeddu. A dwi ddim jest isio dysgu cynganeddu, dwi eisiau ei rhannu hi hefyd, fel bod mwy a mwy ohonom ni’n medru yn y pendraw. Mae hi’n perthyn i ni gyd, wedi’r cwbl.

 

Mared Fflur

Cafodd Mared ei magu ar fferm ar gyrion Dolgellau, Meirionnydd. Enillodd radd yn y Gymraeg a gradd meistr Ysgrifennu Creadigol o Brifysgol Bangor. Bellach, mae hi wedi ymgartrefu yng Nghaernarfon ac yn gweithio fel Athrawes Gymraeg.  

Rhai o brif ddiddordebau Mared yw ysgrifennu’n greadigol, canu a pherfformio a chwarae i dîm Rygbi Merched Caernarfon. Mae’n mwynhau ysgrifennu rhyddiaith, yn enwedig straeon byrion a llên meicro. Enillodd wobr Prif Lenor Eisteddfod T 2020 yn ogystal â thair Cadair Ffermwyr Ifanc Meirionnydd o’r bron rhwng 2021 a 2023 a Choron Eisteddfod Ffermwyr Ifanc Cymru 2022. Nid yw wedi barddoni o ddifrif tan y blynyddoedd diweddar ac fe gipiodd Gadair Eisteddfod Ffermwyr Ifanc Cymru llynedd am gyfres o dair cerdd – ‘Hau’, ‘Tyfu?’, ‘Medi’.  

Mae gen i ddiddordeb mewn barddoniaeth ers pan oeddwn yn blentyn, ond wnes i erioed ystyried y posibilrwydd o fod yn fardd fy hun, nid fy mod yn ystyried fy mod yn haeddu’r teitl llenor na bardd eto.  

“Dilynais fodiwl cynganeddu tra’n astudio ym Mangor ac rwy’n difaru na wnes i barhau i ymarfer wedi hynny. Dydw i ond ar ddechrau fy nhaith farddonol ac felly rwy’n edrych ymlaen at y cyfle i gyfoethogi fy sgiliau yn ogystal â rhwydweithio a chymdeithasu gyda beirdd eraill.

 

Megan Jones

Yn wreiddiol o Fethesda, Gwynedd, mae Megan bellach yn byw yn Ffynnon Taf, ger Caerdydd. Wrth ei gwaith bob dydd, mae hi newydd gychwyn swydd fel swyddog polisi i Ofgem, wedi cyfnodau yn gweithio yng Nghynulliad Cenedlaethol Cymru, Tŷ’r Arglwyddi a’r Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol.  

Wedi saib hir o farddoni a llenydda, mae Megan wedi ailafael yn yr awen, gan ennill Cadair Eisteddfod y Rhondda ym mis Tachwedd 2024. Roedd y fuddugoliaeth hon yn sbardun i barhau gyda’r barddoni, gan gynnwys ymgeisio ar gyfer cynllun Pencerdd Llenyddiaeth Cymru er mwyn ceisio meithrin a datblygu ei llais fel bardd.  

Tu hwnt i’r gwaith a’r barddoni, mae Megan yn mwynhau treulio amser gyda’r teulu, darllen, coginio, ymweld â’r theatr, orielau celf ac amgueddfeydd, teithio, garddio, a mynd i’r afael â gwaith DIY! 

Rydw i’n edrych ymlaen yn arw at gychwyn cynllun Pencerdd, er mwyn gallu clustnodi amser ac egni i geisio datblygu a meithrin fy llais fel bardd. Wedi ailgychwyn barddoni yn lled-ddiweddar a phrofi llwyddiant yn Eisteddfod y Rhondda 2025, rydw i’n awyddus i wneud yn fawr o’r cyfle i ddysgu, derbyn adborth, cyngor a chefnogaeth gan fardd profiadol.  

“Drwy fod yn rhan o Pencerdd, rydw i’n gobeithio meithrin hyder wrth gynganeddu, ond hefyd yr hyder i arbrofi fwy o ran cynnwys, mynegiant, arddull a mesurau wrth farddoni. Erbyn diwedd y cynllun rydw i’n gobeithio y byddai’n gallu cynganeddu’n hyderus, y byddai wedi meithrin fy arddull fy hun fel bardd, ac y bydd gen i’r sgiliau i barhau i gymryd camau pendant ar fy nhaith i ddatblygu fel bardd.

 

Nanw Maelor

Mae Nanw yn dod o dref yr Wyddgrug yn Sir y Fflint a bellach, yn byw yn Aberystwyth ble mae hi ar fin gorffen gradd yn y Gymraeg. Bydd yn dechrau yn rôl Llywydd UMCA a Swyddog Diwylliant Cymraeg yn Undeb Aberystwyth cyn hir.

Taniodd ei hangerdd at ysgrifennu creadigol a barddoniaeth drwy ei phrofiadau yn Aberystwyth, boed hynny yn ei darlithoedd neu du allan. Un o uchafbwyntiau ei phrofiad fel myfyrwraig oedd ennill Cadair Eisteddfod Rhyng-golegol yn Abertawe yn 2024. Ers hynny, mae hiwedi parhau i farddoni gan gyhoeddi cerdd am y tro cyntaf yng nghyfrol diweddar Barddas, O Ffrwyth y Gangen Hon.

“Fel merch sydd wedi’i magu yn Sir y Fflint, prin iawn y gwelaf gynrychiolaeth o’m hardal yn y sin farddol Gymraeg, yn sicr drwy’r gynghanedd. Gobeithiaf o’r ddysg a gaf gyda Pencerdd y gallaf i gyfrannu at y sîn farddol liwgar sydd yma yng Nghymru a hynny â llais sy’n canu dros y gogledd ddwyrain.

“Dim ond egino mae fy ngyrfa fel bardd ar hyn o bryd, ond cefais wir fy ysbrydoli wrth astudio barddoniaeth a’r gynghanedd mewn modiwlau yn y brifysgol ac edrych ymlaen at weld sut mae’r egin hwnnw’n blaguro yn ystod y cynllun.”

 

Ar Gyfer Awduron