Dewislen
English
Cysylltwch

Ymchwil Ffioedd Awduron Cymru 2022

Cyhoeddwyd Gwe 22 Ebr 2022 - Gan Llenyddiaeth Cymru
Ymchwil Ffioedd Awduron Cymru 2022
Diweddariad: mae’r dyddiad cau ar gyfer cwblhau’r arolwg wedi’i ymestyn i ddydd Llun 6 Mehefin.

Fel y cwmni cenedlaethol dros ddatblygu llenyddiaeth yng Nghymru, rydym yn hyrwyddo arferion cyflogaeth teg i awduron, gan gynnwys ffioedd deg.

Rydym yn gwybod fod awduron yn aml yn dibynnu ar incwm o ddigwyddiadau, comisiynau, gweithdai, a pherfformiadau, ac y dylent gael eu talu’n deg am eu hamser ac i gydnabod eu sgiliau proffesiynol. Mae dyletswydd arnon ni hefyd i sicrhau ffioedd hygyrch i gynulleidfaoedd sy’n mynychu gweithgareddau llenyddol ac i ystyried cyd-destun ariannol y sector lenyddol.

Yn aml iawn, mae awduron a’r sefydliadau sy’n gweithio gyda nhw yn ansicr am beth yw cyfradd deg wrth weithio y tu hwnt i’r sector lenyddol, a sut y dylid cyfrifo hyn. I’r perwyl hwn, rydym yn cydweithio gydag ymchwilwyr Ysgol Fusnes Prifysgol Aberystwyth i gynnal ymchwil gyda’r bwriad o lunio canllawiau ar gyfer cyfrifo cyfraddau tâl teg i awduron sy’n gweithio yng Nghymru.

Bydd y gwaith ymchwil yma’n llywio cyfraddau talu Llenyddiaeth Cymru, gan sicrhau eu bod yn deg ac yn adlewyrchu’r amser a’r profiad sydd ei angen i gyflawni’r gwaith. Bydd canlyniadau’r ymchwil yn cael eu rhannu fel canllawiau y gall sefydliadau comisiynu eraill eu defnyddio i gyfrifo eu cyfraddau talu eu hunain. Drwy rannu’r ymchwil yma, rydyn ni’n gobeithio dylanwadu ar y sector llenyddol a chelfyddydol ehangach drwy annog darpariaeth sy’n gwasanaethu pobl ac awduron Cymru.

 

Sut alla i gymryd rhan?

Cam cyntaf y broses ymgynghori yw holiadur y gall unrhyw awdur o Gymru a hoffai rannu ei brofiadau ei gwblhau. Bydd yr holiadur yn gofyn am wybodaeth am ffioedd blaenorol megis a gyniwyd ar gyfer ddigwyddiadau fel gwyliau llenyddol, gweithdai, digwyddiadau ysgol, cyrsiau, a sgyrsiau. Bydd 30 o’r awduron sy’n cwblhau’r holiadur yn cael eu gwahodd am gyfweliadau manwl gydag academyddion o Brifysgol Aberystwyth i rannu mwy am eu profiadau a’u barn.

Mae croeso i unrhyw awduron sy’n gweithio yng Nghymru gwblhau’r holiadur hwn. Mae hyn yn cynnwys awduron ar bob cam o’u gyrfa – o egin awduron i awduron sefydledig a llawn amser. Os ydych wedi cael eich comisiynu i gymryd rhan mewn unrhyw ddigwyddiad llenyddol yn ystod y pum mlynedd diwethaf (gan gynnwys sgyrsiau, cyfweliadau, gweithdai, cyrsiau ysgrifennu creadigol – am dâl, neu fel arall), rydyn ni’n awyddus i chi lenwi’r holiadur.

Os ydych chi’n awdur sy’n byw yng Nghymru, yna gallwch chi cael eich dweud ar ffioedd awduron trwy lenwi’r holiadur yma erbyn 6 Mehefin 2022.

Mae gwybodaeth am y prosiect ymchwil yma, yn cynnwys yr amcanion a’r fethodoleg, i’w gweld yn yr adnodd gwybodaeth isod. Er mwyn gofyn am ragor o wybodaeth am yr astudiaeth, sut bydd y data a gesglir yn cael ei ddefnyddio, am y canlyniadau, neu i dynnu’n ôl ar unrhyw adeg, cysylltwch ag Owen Wyn Jones (Owen@llenyddiaethcymru.org).

I gael gwybodaeth am sut mae Llenyddiaeth Cymru’n casglu ac yn prosesu data, gallwch ddarllen ein Hysbysiad Preifatrwydd yma.

I gael rhagor o wybodaeth am sut mae Prifysgol Aberystwyth yn casglu ac yn prosesu data, gallwch ddarllen eu Polisi Diogelu Data yma.

I gael rhagor o wybodaeth am sut mae Survey Monkey yn casglu ac yn prosesu data, gallwch ddarllen eu Hysbysiad Preifatrwydd yma.

Ymchwil Ffioedd Awduron Cymru 2022

Dyddiad cau yr holiadur: 20 Mai 2022

Ymchwil Ffioedd Awduron Cymru 2022 - taflen wybodaeth
Iaith: WelshMath o Ffeil: WordMaint: 179KB