Dewislen
English
Cysylltwch

Awduron wrth eu Gwaith Gŵyl y Gelli 2023: Ceisiadau Nawr Ar Agor

Cyhoeddwyd Maw 4 Ebr 2023 - Gan Llenyddiaeth Cymru
Awduron wrth eu Gwaith Gŵyl y Gelli 2023: Ceisiadau Nawr Ar Agor
Mae ceisiadau nawr ar agor ar gyfer Awduron wrth eu Gwaith Gŵyl y Gelli, rhaglen datblygu creadigol ar gyfer talent newydd sy’n dod i’r amlwg, wedi ei gefnogi gan Llenyddiaeth Cymru a’i hariannu gan Gyngor Celfyddydau Cymru.

Mae rhaglen Awduron wrth eu Gwaith, sydd yn cael ei ail-lansio eleni, yn cynnig wythnos lawn o gyfleoedd datblygu creadigol, ac yn caniatáu i awduron dethol gymryd rhan ym mhrif ddigwyddiadau Gŵyl y Gelli, ac i fynychu dosbarthiadau meistr a gweithdai gyda chyhoeddwyr, asiantiaid ac, yn hollbwysig, gydag artistiaid rhyngwladol sefydledig. Gŵyl y Gelli yw gŵyl syniadau fwyaf blaenllaw’r byd, sydd yn dod â darllenwyr ac awduron at ei gilydd mewn digwyddiadau cynaliadwy i ysbrydoli, archwilio a diddanu ar gyrion Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog rhwng 25 Mai a’r 4 Mehefin 2023.

Mae’r rhaglen ar agor i awduron sy’n gweithio yn Gymraeg ac yn Saesneg ar draws genres gwahanol – ffuglen, ffeithiol, ffeithiol greadigol a barddoniaeth. Prosiect Gŵyl y Gelli yw Awduron wrth eu Gwaith, sydd yn cael ei gefnogi gan Llenyddiaeth Cymru ac sy’n cael ei redeg gan yr awdur Tiffany Murray. Mae’r rheiny sydd wedi cymryd rhan hyd yn hyn wedi ennill sawl gwobr wahanol a chyrraedd rhestrau byr, gan gynnwys Llyfr y Flwyddyn, Gwobr Ryngwladol Dylan Thomas, Gwobrau’r New Welsh Writing Award, Gwobr Ysgrifennu Newydd Wasafiri, Gwobr Cyfryngau Cymru, Gwobr “Rising Star” Cymru, a Gwobr Cymru Greadigol. Fe’i sefydlwyd yn 2016 er mwyn meithrin talentau o Gymru yn y ddwy iaith, ac fe gafodd Awduron wrth eu Gwaith ei oedi yn ystod y pandemig Covid-19. Bydd 2023 yn nodi ei bumed flwyddyn.

Dywedodd Cyfarwyddwr Artistig Llenyddiaeth Cymru, Leusa Llewelyn:

“Mae’n bleser cael cydweithio gyda Gŵyl y Gelli unwaith eto ar y rhaglen datblygu awduron pwysig hon. Mae’r rhaglen wedi meithrin ac ysbrydoli cymaint o lenorion gwych o Gymru, sydd bellach wedi eu sefydlu’n gadarn o fewn ein diwylliant llenyddol. Y tu hwnt i ddatblygu sgiliau a gwybodaeth awduron unigol, mae’n dod â chymysgedd hudolus o feddyliau creadigol at ei gilydd o bob rhan o’r wlad. Mae rhaglenni blaenorol wedi arwain at greu rhwydweithiau a chydweithrediadau newydd, sydd wedi chwarae rhan bwysig mewn trawsnewid llenyddiaeth Cymru yn ffurfiau ar gelfyddyd mwy cynrychioliadol, mentrus, a blaengar.”

Dywedodd Prif Weithredwr Gŵyl y Gelli, Julie Finch:

“Mae Gŵyl y Gelli yn dod â llenorion, darllenwyr ac – yn hanfodol – cyfleoedd creadigol at ei gilydd. Fel un o sefydliadau diwylliannol mwyaf Cymru, rydym yn falch o’n gwreiddiau Cymreig ac yn cymryd ein cyfrifoldeb i dirwedd ddiwylliannol Cymru o ddifrif. Rydyn ni’n falch iawn o redeg Awduron wrth eu Gwaith unwaith eto yn 2023, ac rydym wedi diweddaru’r fformat i ymateb i’r heriau mae pobl greadigol newydd Cymru’n eu hwynebu heddiw, ac i ddiogelu a thyfu ein heffaith greadigol ar gyfer y dyfodol.”

Meddai’r awdur a’r cyn-gyfranogwr Darren Chetty:

“Roedd bod yn rhan o Awduron yn y Gwaith 2019 yn brofiad gwych. Cefais glywed gan awduron blaenllaw a bod yn rhan o gymuned gefnogol o awduron o Gymru. Fe wnaeth tri ohonom a wnaeth gyfarfod drwy’r rhaglen Awduron wrth eu Gwaith fynd ymlaen i gyd-olygu Welsh (Plural): Essays on the Future of Wales.”

Am ragor o wybodaeth am y rhaglen Awduron Wrth Eu Gwaith Gŵyl y Gelli, gan gynnwys sut i ymgeisio, ewch draw i’r dudalen prosiect.

Ar Gyfer Awduron