Cyhoeddi Mentoriaid Sgwennu’n Well 2023-2024
Mae’n bleser gennym gyhoeddi enwau’r 6 artist cyfranogol profiadol a fydd yn darparu mentora i garfan bresennol Sgwennu’n Well.
Y Mentoriaid
Bydd y garfan yn cael ei mentora gan rai o’r artistiaid cyfranogol mwyaf cyffrous a llwyddiannus yn niwylliant llenyddol Cymru a thu hwnt, sef Dr Tracy Breathnach, Iola Ynyr, Christina Thatcher, Kittie Belltree, Cecilia Knapp a clare.e.potter.
Yn eu mysg ceir dealltwriaeth ddwys o sawl ffurf, llwybrau proffesiynol, a lleoliadau. Mae ganddynt arbenigedd mewn creu a chyflwyno prosiectau sydd â’r nod o gefnogi iechyd a llesiant cyfranogwyr. Gyda’i gilydd maent wedi cyflawni prosiectau o fewn meysydd iechyd meddwl, wedi gwasanaethu fel beirdd preswyl mewn ysbytai, wedi datblygu rhaglenni ar gyfer mamau newydd, wedi cefnogi unigolion niwroamrywiol i gael mynediad at ddarpariaeth artistig ac wedi datblygu rhaglenni ar gyfer pobl sy’n byw gyda dibyniaeth. Bydd eu profiad, eu llwyddiant a’u creadigrwydd yn cael effaith uniongyrchol ar ddatblygiad y garfan ac, yn ei dro, ar y sector llenyddol ehangach.
Gallwch ddarllen rhagor am bob un o’r mentoriaid ar dudalen gwefan Sgwennu’n Well.
Am Sgwennu’n Well
Mae Sgwennu’n Well | Writing Well yn rhaglen 12 mis mewn dwy ran ar gyfer ymarferwyr llenyddol yng Nghymru. Mae rhan un yn cynnig hyfforddiant dwys gyda’r nod o wella’r sgiliau sydd eu hangen i hwyluso gweithgareddau llenyddol yn y gymuned. Bydd rhan dau yn cefnogi’r garfan o hwyluswyr i greu a chyflwyno prosiectau cyfranogi sydd o fudd i iechyd a llesiant y cyfranogwyr.
Mae pob awdur ar y rhaglen Sgwennu’n Well yn cael ei baru â Mentor a ddewiswyd ganddynt hwy eu hunain mewn ymgynghoriad â Llenyddiaeth Cymru. Dros gyfnod y rhaglen, mae’r mentoriaid wrth law i gynnig cymorth datblygu sgiliau ac arweiniad pwrpasol wrth i’r garfan ddatblygu a chyflwyno eu prosiectau cyfranogol penodol eu hunain.
Darllenwch ragor yma: