Dewislen
English
Cysylltwch

Cyhoeddi Rhaglen Gyrsiau Digidol Tŷ Newydd 2020

Cyhoeddwyd Mer 24 Meh 2020 - Gan Llenyddiaeth Cymru
Cyhoeddi Rhaglen Gyrsiau Digidol Tŷ Newydd 2020
Andrew Cockerill

Mae’n bleser gan Llenyddiaeth Cymru gyhoeddi ein rhaglen gyntaf erioed o gyrsiau ysgrifennu creadigol digidol Tŷ Newydd ar gyfer haf 2020.

Gobeithiwn ail agor drysau Canolfan Ysgrifennu Tŷ Newydd ar gyfer cyrsiau ac encilion yn y dyfodol agos, ond yn y cyfamser mae ein hymrwymiad i ddarparu cyfleoedd i awduron fireinio a datblygu eu sgiliau llenyddol yn parhau. Byddwn felly yn dychwelyd yn ddigidol gyda chyrsiau byrion dros ginio dan arweiniad rhai o awduron amlycaf Cymru yn cynnwys yr awdur toreithiog i blant a phobl ifanc, Bethan Gwanas, awdur y nofel agerstalwm gyntaf yn y Gymraeg, Ifan Morgan Jones, prifardd a phrif lenor Eisteddfod yr Urdd, Iestyn Tyne, a’r awdur a’r golygydd, Mari Emlyn.

Drwy gyfrwng y Saesneg, bydd modd ymuno â’r cyn dditectif a’r awdur trosedd Clare Mackintosh, yr awdur llyfrau taith Mike Parker, y bardd Alex Wharton, a’r awdur plant a phobl ifainc poblogaidd, Catherine Johnson.

Yn wibdaith o amgylch sawl pwnc a genre gwahanol yn y Gymraeg a’r Saesneg, bydd ein cyrsiau blasu awr a hanner o hyd yn eich annog i gychwyn, neu barhau, â’ch ysgrifennu creadigol yn ystod y cloi mawr.

Byddwn yn cynnal y cyrsiau ar y platfform fideo, Zoom, gan roi blas o Dŷ Newydd heb i chi orfod gadael eich cartrefi. Byddwn yn cyfyngu niferoedd pob grŵp i 16 i adlewyrchu naws cartrefol arferol cyrsiau’r ganolfan.

Bydd hefyd dau gwrs hir yn dilyn patrwm ein cyrsiau preswyl fydd yn para o ddydd Llun tan ddydd Gwener yn cael eu cynnal drwy’r Saesneg: barddoniaeth gyda Jonathan Edwards a Kim Moore a’r darllenydd gwadd Inua Ellams, a rhyddiaith gyda Vanessa Gebbie a Cynan Jones a’r darllenydd gwadd Daisy Johnson.

Ewch draw i’r dudalen gyrsiau i ddarllen mwy am gynnwys pob cwrs ac i archebu eich lle.

I ddathlu lansio’r cyrsiau digidol yma rydym yn cynnig gostyngiad o 20% ar yr holl gyrsiau tan ddiwedd Mehefin (5.00 pm ar ddydd Mawrth 30 Mehefin). Defnyddiwch y cod cyrsiaudigidol wrth archebu ar y wefan.

Am ragor o wybodaeth am ein cyrsiau digidol, cysylltwch â Llenyddiaeth Cymru: 01766 522 811 / tynewydd@llenyddiaethcymru.org