Dewislen
English
Cysylltwch

Llenyddiaeth Cymru yn cyhoeddi Rhestr Fer Gymraeg Gwobr Llyfr y Flwyddyn 2021

Cyhoeddwyd Llu 28 Meh 2021 - Gan Llenyddiaeth Cymru
Llenyddiaeth Cymru yn cyhoeddi Rhestr Fer Gymraeg Gwobr Llyfr y Flwyddyn 2021

Llenyddiaeth Cymru yn cyhoeddi Rhestr Fer Gymraeg Gwobr Llyfr y Flwyddyn 2021 gyda theitlau sy’n “ddathliad o feddyliau craff, treiddgar a chreadigol”

Heno fe gyhoeddodd Llenyddiaeth Cymru Restr Fer Gwobr Llyfr y Flwyddyn 2021. Datgelwyd enwau’r 12 llyfr Cymraeg a fydd yn ymgiprys am y Wobr eleni ar BBC Radio Cymru ar nos Lun 28 Mehefin yn ystod rhaglen Stiwdio. Bydd Rhestr Fer y gwobrau Saesneg yn cael eu cyhoeddi ar The Arts Show ar BBC Radio Wales nos Wener 2 Gorffennaf, o 6.30 pm ymlaen.

Mae Llyfr y Flwyddyn yn wobr flynyddol sy’n dathlu llenorion talentog Cymreig sy’n rhagori mewn ffurfiau llenyddol amrywiol yn y Gymraeg a’r Saesneg. Mae pedwar categori yn y ddwy iaith – Barddoniaeth, Ffuglen, Ffeithiol Greadigol a Plant a Phobl Ifanc.


Rhestr Fer Gymraeg 2021

Gwobr Farddoniaeth

Dal i Fod, Elin ap Hywel (Cyhoeddiadau Barddas)

rhwng dwy lein drên, Llŷr Gwyn Lewis (Hunan Gyhoeddedig)

Mynd, Marged Tudur (Gwasg Carreg Gwalch)

 

Gwobr Ffuglen

Wal, Mari Emlyn (Y Lolfa)

Tu ôl i’r awyr, Megan Angharad Hunter (Y Lolfa)

Twll Bach yn y Niwl, Llio Elain Maddocks (Y Lolfa)

 

Gwobr Ffeithiol Greadigol

Ymbapuroli, Angharad Price (Gwasg Carreg Gwalch)

Darllen y Dychymyg: Creu Ystyron Newydd i Blant a Phlentyndod yn Llenyddiaeth y Bedwaredd Ganrif ar Bymtheg, Siwan M. Rosser (Gwasg Prifysgol Cymru)

O.M.: Cofiant Syr Owen Morgan Edwards, Hazel Walford Davies (Gwasg Gomer)

 

Gwobr Plant a Phobl Ifanc

Ble Mae Boc? Ar goll yn y chwedlau, Huw Aaron (Y Lolfa)

#Helynt, Rebecca Roberts (Gwasg Carreg Gwalch)

Y Castell Siwgr, Angharad Tomos (Gwasg Carreg Gwalch)

Beirniaid y gwobrau Cymraeg eleni yw’r bardd a’r awdur Guto Dafydd; yr awdur, cyflwynydd a chyn Bardd Plant Cymru, Anni Llŷn; yr awdur, academydd a’r darlithydd Tomos Owen; a’r comedïwr a’r awdur, Esyllt Sears.

Ar ran y panel beirniadu, dywedodd Anni Llŷn: Roedd hi wir yn fraint cael darllen cynnyrch y casgliad arbennig yma o awduron. Mae’r rhestrau byr yn ddathliad o’r meddyliau craff, treiddgar a chreadigol sydd ganddynt. Mae gan pob un o rhain rhywbeth o werth i’w ddweud ac maent yn gyfrolau y byddwn yn annog pawb i’w darllen. Cefais daith emosiynol yn eu cwmni, o’r torcalonnus i ryfeddu a chwerthin. Cefais fy herio a fy swyno. Cawsom drafodaethau hynod ddiddorol a bywiog wrth feirniadu. Doedd hi ddim yn hawdd dewis o blith cyhoeddiadau gwirioneddol wych ddaeth i fodolaeth yn 2020. Ond dylem i gyd ymfalchîo yng nghampau aruthrol yr awduron hyn. Llongyfarchiadau mawr iddynt.”

Beirniaid y gwobrau Saesneg eleni yw’r bardd, awdur a dawnsiwr Tishani Doshi; yr athro cynradd, adolygwr a’r dylanwadwr Scott Evans; y Paralympiwr, yr aelod o Dŷ’r Arglwyddi, siaradwr cymhelliant a’r darlledwr Tanni Grey-Thompson; a’r academydd, awdur ac actifydd, a chyn enillydd Gwobr Llyfr y Flwyddyn (2003), Charlotte Williams.

 

Beth sy’n digwydd nesaf?

Caiff enillwyr y gwobrau Cymraeg eu cyhoeddi mewn cyfres o ddarllediadau ar BBC Radio Cymru rhwng dydd Llun 2 a dydd Mercher 4 Awst.

Yn ogystal â sgyrsiau byw gyda’r enillwyr, bydd y cyhoeddiadau yn cynnwys cyfraniadau gan gynrychiolwyr o’r panel beirniadu, Llenyddiaeth Cymru ac ambell feirniad answyddogol. I ddod â gŵyl y gwobrau i ben. Ceir rhaglen awr o hyd nos Lun 9 Awst, lle ceir cyfle i ddathlu’r cyfrolau buddugol ymhellach. Cyhoeddir yr enillwyr Saesneg ar raglen BBC Radio Wales The Arts Show nos Wener 30 Gorffennaf.

Meddai Nia Roberts, cyflwynydd rhaglen Stiwdio: “Mae Stiwdio yn falch iawn o fod yn llwyfan i’r digwyddiad a’r wobr bwysig yma. Mae’r rhestrau byrion yn rhai difyr – lleisiau ifanc, lot o ferched! Ac mae un neu ddau o’r cyfrolau yn sicr wedi creu argraff arna’ i ac wedi aros efo fi sbelan ar ôl cau’r cloriau. Mi fydd yn ddiddorol gweld be fydd barn y beirniaid a barn y bobol.”

Mae Gwobr Llyfr y Flwyddyn wedi cael ei drefnu gan Llenyddiaeth Cymru ers 2004, ac yn ystod y cyfnod hwnnw mae rhai o awduron enwocaf Cymru wedi derbyn gwobrau ochr yn ochr â thalentau newydd, disglair.

Dywedodd Lleucu Siencyn, Prif Weithredwr Llenyddiaeth Cymru: “Mae’r rhestr fer hon yn adlewyrchu ystod o leisiau aruthrol awduron Cymru, yn ystod cyfnod eithriadol o anodd. Mae nifer ohonom wedi dianc rhwng cloriau llyfr da yn ystod y deunaw mis diwethaf, ac mae cynnyrch y rhestr fer hon yn sicr wedi cynnig cysur a chwmniaeth i sawl darllenydd.

Ar ran Llenyddiaeth Cymru, hoffwn longyfarch yr holl awduron sydd wedi cyrraedd Rhestr Fer 2021, a diolch i chi am ysbrydoli ein darllenwyr yn ystod blwyddyn ble mae grym llenyddiaeth wedi bod yn bwysicach nag erioed. Argymhellaf yn fawr ymweliad i’ch siop lyfrau neu lyfrgell lleol, er mwyn darllen y llyfrau gwych yma gan ein hawduron telentog o Gymru.”

Bydd cyfanswm o £14,000 yn cael ei rannu ymysg yr enillwyr. Bydd enillydd pob categori’n derbyn gwobr o £1,000 ac fe fydd prif enillwyr y wobr yn derbyn £3,000 yn ychwanegol. Yn ogystal â hyn bydd pob enillydd hefyd yn derbyn tlws eiconig Llyfr y Flwyddyn sydd wedi’i ddylunio gan yr artist a gof Angharad Pearce Jones.

Bydd cyfle i ddarllenwyr ddweud eu dweud wrth i’r teitlau ar y Rhestr Fer gystadlu am Wobr Barn y Bobl a gynhelir yn annibynnol gan ein partneriaid Wales Arts Review a Golwg360.

Am ragor o wybodaeth am Wobr Llyfr y Flwyddyn, ewch i: www.llenyddiaethcymru.org/llyfr-y-flwyddyn