Dewislen
English
Cysylltwch

Cyhoeddi Rhestr Fer Gwobr Llyfr y Flwyddyn 2020

Cyhoeddwyd Mer 1 Gor 2020 - Gan Llenyddiaeth Cymru
Cyhoeddi Rhestr Fer Gwobr Llyfr y Flwyddyn 2020
Rydym yn falch iawn o gyhoeddi Rhestr Fer Gwobr Llyfr y Flwyddyn 2020. Datgelwyd enwau’r 12 llyfr Cymraeg a fydd yn ymgiprys am y Wobr eleni ar BBC Radio Cymru ar nos Fercher 1 Gorffennaf mewn darllediad pwrpasol rhwng 9.00 pm – 10.00 pm. Cyhoeddwyd y Rhestr Fer Saesneg ar raglen Gareth Lewis BBC Radio Wales yn ystod y prynhawn.

Mae Llyfr y Flwyddyn yn wobr flynyddol sy’n dathlu llenorion talentog Cymreig sy’n rhagori mewn ffurfiau llenyddol amrywiol yn y Gymraeg a’r Saesneg. Mae pedwar categori yn y ddwy iaith – Barddoniaeth, Ffuglen, Ffeithiol Greadigol ac am y tro cyntaf eleni Plant a Phobl Ifanc.

Rhestr Fer Gymraeg 2020

Gwobr Farddoniaeth

Hwn ydy’r llais, tybad?, Caryl Bryn (Cyhoeddiadau’r Stamp)

Ar Ben y Lôn, Idris Reynolds (Gwasg Gomer)

Pentre Du, Pentre Gwyn, Myrddin ap Dafydd (Gwasg Carreg Gwalch)

Gwobr Ffuglen

Iaith y Nefoedd, Llwyd Owen (Y Lolfa)

Gwirionedd, Elinor Wyn Reynolds (Gwasg y Bwthyn)

Babel, Ifan Morgan Jones (Y Lolfa)

Gwobr Ffeithiol Greadigol

Hanes Rhyfeddol Cymry Lerpwl, D Ben Rees (Y Lolfa)

Merched y Chwyldro, Gwenan Gibbard (Cyhoeddiadau Sain)

Byd Gwynn, Cofiant T Gwynn Jones, Alan Llwyd (Cyhoeddiadau Barddas)

Gwobr Plant a Phobl Ifanc

Chwedlau’r Copa Coch: Yr Horwth, Elidir Jones (Atebol Cyf)

Genod Gwych a Merched Medrus, Medi Jones-Jackson (Y Lolfa)

Llyfr Adar Mawr y Plant, Onwy Gower (Y Lolfa)

 

I ddarllen rhagor am y llyfrau ar y Rhestr Fer a’u hawduron, ewch i dudalen brosiect Llyfr y Flwyddyn.

 

Yn beirniadu’r llyfrau Cymraeg eleni mae’r newyddiadurwraig a chyn-olygydd BBC Radio Cymru a Cymru Fyw Betsan Powys; y cartwnydd, awdur a chyflwynydd Siôn Tomos Owen; y Prifardd a Phennaeth Adran y Gyfraith a Throseddeg ym Mhrifysgol Aberystwyth, Emyr Lewis; a’r gantores-gyfansoddwraig, Casi Wyn.

Ar ran y panel beirniadu, dywedodd Casi Wyn: Braint a phleser yw bod yn rhan o banel beirniadu Llyfr y Flwyddyn eleni. Ar ôl treulio misoedd yn ymgolli yn y darllen – dyma arddangosiad o weithiau awduron profiadol i ddyfodiad lleisiau o’r newydd. Braf felly cael rhannu’r rhestr fer hon gyda chi o’r diwedd, yn ddathliad o gyfoeth ein hiaith a’n diwylliant.”

Yn beirniadu’r llyfrau Saesneg y flwyddyn hon y mae’r awdur a’r darlunydd Ken Wilson-Max; yr awdur, athrawes a chyfieithydd Sampurna Chattarji; a’r Ysgolhaig Fulbright, Uwch-ddarlithydd a Chymrawd Gŵyl y Gelli Tiffany Murray.

 

Rhestr Fer Saesneg 2020

Gwobr Farddoniaeth

Fur Coats in Tahiti, Jeremy Over (Carcanet)

Erato, Deryn Rees-Jones (Seren)

Footnotes to Water, Zoë Skoulding (Seren)

Gwobr Ffuglen Ymddiriedolaeth Rhys Davies

Dignity, Alys Conran (Weidenfeld & NIcolson)

Broken Ghost, Niall Griffiths (Jonathan Cape)

Stillicide, Cynan Jones (Granta)

Gwobr Ffeithiol Greadigol

Brando’s Bride , Sarah Broughton (Parthian)

Where There’s a Will, Emily Chappell (Profile Books)

On the Red Hill, Mike Parker (William Heinemann)

Gwobr Plant a Phobl Ifanc

The Girl Who Speaks Bear, Sophie Anderson (Usborne)

Butterflies for Grandpa Joe, Nicola Davies (Barrington Stoke)

Max Kowalski didn’t mean it, Susie Day (Puffin)

 

Beth sy’n digwydd Nesaf?

Caiff enillwyr y gwobrau Cymraeg eu cyhoeddi mewn cyfres o ddarllediadau ar BBC Radio Cymru fel rhan o’r Ŵyl AmGen rhwng dydd Iau 30 Gorffennaf a dydd Sul 2 Awst, a hynny mewn partneriaeth â BBC Cymru ac Eisteddfod Genedlaethol Cymru.

Yn ogystal â sgyrsiau byw gyda’r enillwyr, bydd y cyhoeddiadau yn cynnwys cyfraniadau gan gynrychiolwyr o’r panel beirniadu, Llenyddiaeth Cymru ac ambell feirniad answyddogol. I ddod â gŵyl y gwobrau i ben, ceir rhaglen awr o hyd ddydd Sul 2 Awst, lle ceir cyfle i ddathlu’r cyfrolau buddugol ymhellach. Cyhoeddir yr enillwyr Saesneg ar raglen BBC Radio Wales Arts Show nos Wener 31 Gorffennaf.

Mae Gwobr Llyfr y Flwyddyn wedi cael ei drefnu gan Llenyddiaeth Cymru ers 2004, ac yn ystod y cyfnod hwnnw mae rhai o awduron enwocaf Cymru wedi derbyn gwobrau ochr yn ochr â thalentau newydd, disglair.

Dywedodd ein Prif Weithredwr, Lleucu Siencyn: “Rydym wrth ein boddau fod cyfle wedi codi i gydweithio â BBC Cymru a’r Eisteddfod Genedlaethol ar y cyhoeddiadau eleni. Er nad oes modd i ni gynnal ein seremoni hwyliog arferol yr haf hwn, mae’r bartneriaeth hon yn ein galluogi i rannu cyffro â bri Gwobr Llyfr y Flwyddyn gyda chynulleidfaoedd creadigol Cymru lle bynnag yn y byd y bônt.  

Ar ran Llenyddiaeth Cymru, hoffwn longyfarch yr holl awduron sydd wedi cyrraedd Rhestr Fer 2020 – mae eich gweithiau yn arbennig. Os nad ydych chi wedi gwneud hynny eisoes, prynwch y llyfrau, dechreuwch ar y darllen, a gadewch i’ch dychymyg deithio dros bedwar ban a thrwy amser gyda’r llyfrau gwych yma o Gymru.”

Bydd cyfanswm o £14,000 yn cael ei rannu ymysg yr enillwyr. Bydd enillydd bob categori’n derbyn gwobr o £1,000 ac fe fydd prif enillwyr y wobr yn derbyn £3,000 yn ychwanegol. Yn ogystal â hyn bydd pob enillydd hefyd yn derbyn tlws eiconig Llyfr y Flwyddyn sydd wedi’i ddylunio gan yr artist a gof Angharad Pearce Jones.

Mae pleidleisiau Barn y Bobl Golwg360 a’r Wales Arts Review People’s Choie nawr yn fyw! Dyma gyfle i ddarllenwyr ddweud eu dweud, felly ewch ati i fwrw eich pleidlais:
Wales Arts Review  |  Golwg360.

 

 

Llyfr y Flwyddyn