Llyfr y Flwyddyn 2024 – Mae Bron yn Amser!
Os y byddwch yn ymuno â ni mewn person, edrychwn ymlaen at eich gweld yn y Galeri, ond os nad oes modd ichi ddod atom ni i Gaernarfon, na phoener – mae digonedd o ffyrdd i ymuno yn yr hwyl!
Ffrwd Byw – Rydym yn cydweithio gyda Cwmni Da ac AM i ddarlledu’r seremoni yn fyw ar wefan AM. Dilynwch y ddolen hon am 7.00pm i wylio’r seremoni yn ei chyfanrwydd: Seremoni Llyfr y Flwyddyn | Wales Book of Year Ceremony – Llenyddiaeth Cymru | AM (amam.cymru)
BBC Radio Cymru – Bydd y cyflwynydd a chyn-enillydd Llyfr y Flwyddyn, Ffion Dafis, yn ymuno â rhaglen fyw Huw Stephens o 7.00pm ar Radio Cymru i ddod ag uchafbwyntiau o’r seremoni yn syth i glustiau’r gwrandawyr.
Blog Byw Golwg360 – Dyma gyfle i fod â’r cyntaf i glywed y newyddion, gyda gwybodaeth ychwanegol gan dîm newyddiadurol Golwg.
Cyfryngau Cymdeithasol – Byddwn yn postio’n fyw o’n cyfrifon Twitter/X, Instagram a Facebook, ac yn defnyddio’r hashnodau #LLYF24 / #WBOTY24
Twitter: @LlenCymru | @LitWales
Instagram: @llyfr_y_flwyddyn_wboty
Facebook: LlenCymruLitWales
Edrychwn ymlaen at gael eich cwmni mewn person, yn rhithiol, neu dros y tonfeddi!