Dewislen
English
Cysylltwch

Cynrychioli Cymru: Lansio cyfres o ddigwyddiadau arlein ar gyfer awduron

Cyhoeddwyd Maw 17 Mai 2022 - Gan Llenyddiaeth Cymru
Cynrychioli Cymru: Lansio cyfres o ddigwyddiadau arlein ar gyfer awduron
Mae Llenyddiaeth Cymru yn falch o gyhoeddi cychwyn ein cyfres o ddigwyddiadau cyhoeddus a ddarperir fel rhan o’n cynllun datblygu awduron Cynrychioli Cymru.

Mae Cynrychioli Cymru yn rhaglen 12 mis o hyd sy’n darparu cyfleoedd i awduron o gefndiroedd incwm isel ddatblygu eu crefft a’u dealltwriaeth o’r diwydiant llenyddiaeth a chyhoeddi. Ariennir y rhaglen gan Y Loteri Genedlaethol, trwy Gyngor Celfyddydau Cymru. Eleni, bydd detholiad o sesiynau’r cynllun yn agored i’r cyhoedd fydd yn cynnig cyfleoedd hygyrch i awduron ac artisitiad ledled Cymru i ddatblygu eu dealltwriaeth o’r diwydiant, ehangu eu rhwydweithiau a dod o hyd i ysbrydoliaeth ar gyfer eu gwaith.

O ddysgu mwy am y diwydiant cyhoeddi, i wrando ar awduron yn rhannu eu gwaith a’u harferion ysgrifennu, nod y sesiynau hyn yw ysgogi ac ehangu gwybodaeth awduron ar wahanol adegau yn eu gyrfaoedd. Yn ystod y flwyddyn, bydd y siaradwyr yn cyffwrdd ar sawl thema megis tangynrychiolaeth, natur, llesiant, opsiynau gyrfa, ac ysgrifennu’n amlieithog.  

Ceir manylion y tri sesiwn cyntaf isod. Cyhoeddir manylion tri sesiwn cyhoeddus ychwanegol yn ystod yr haf. 

Cynhelir pob digwyddiad dros Zoom ac mae pob sesiwn yn rhad ac am ddim.

Cynhelir sesiynau gydag is-deitlau byw ac/neu BSL ar gyfer cyfranwyr Byddar/trwm eu clyw mewn rhai sesiynau. Lle mae hynny’n bosib, gallwn gwrdd ag anghenion mynediad ychwanegol – cysylltwch â ni i drafod unrhyw anghenion ymlaen llaw.

Manylion y rhaglen:

  • Er mwyn dysgu mwy am y rhwystrau sy’n wynebu awduron o gefndiroedd incwm-isel a chefndiroedd eraill sy’n cael eu tangynrychioli a sut i’w goresgyn, ymunwch â ni ar gyfer ein digwyddiad Panel gyda Lisa Blower, Patrick Jones, Emma Smith-Barton a Grace Quantock
  • Er mwyn dysgu am bwysigrwydd llesiant wrth ysgrifennu’n greadigol, ymunwch â Mari Elen, Caryl Bryn a Dewi Prysor  wrth iddynt rannu eu profiadau.  
  • Er mwyn dysgu mwy am sut i ysgrifennu am natur a sut i olygu antholeg, ymunwch â Durre Shahwar, Nasia Sarwar-Skuse ac eraill wrth iddynt rannu darlleniadau o’u hantholeg natur sydd ar y gweill a chyflwyno eu hangerdd am y genre hwn.  .  

Noder: Bydd rhaid cofrestru am y digwyddiadau o flaen llaw. Am ragor o fanylion am bob sesiwn, ac i sicrhau eich lle, ewch draw i dudalen prosiect Cynyrchioli Cymru.

Os oes gennych gwestiynnau am y sesiynau uchod cyn archebu eich lle, cysylltwch â post@llenyddiaethcymru.org  

Uncategorized @cy