Datganiad gan Llenyddiaeth Cymru

Rydym yn gwerthfawrogi ei bod yn anodd i’r rheiny sy’n gwylio o bell, p’un ai ydyn nhw’n gysylltiedig â’r bobl sy’n cael eu heffeithio ai peidio, i drin a thrafod y sefyllfa, a bod hyn yn arwain at densiwn uchel iawn yng Nghymru a dros y byd. Serch hynny, rydym wedi gweld sylwadau nad ydynt yn wir, a rhai sy’n llawn casineb yn cael eu cyfeirio at awduron yr ydym yn gweithio â hwy. Nid yw hyn yn dderbyniol. Fel a nodir yn ein Polisi Cyfryngau Cymdeithasol a Chanllawiau Cymuned, nid ydym yn ymwneud â throliau, a byddwn yn adrodd ar unrhyw negeseuon sy’n defnyddio iaith casineb, bwlio, ac sy’n rhannu gwybodaeth anwir neu’n achosi gofid.
Mae’r awduron yr ydym yn gweithio â hwy, yn cynnwys ein tri bardd cenedlaethol, yn unigolion, ac rydym yn cefnogi eu hawl i roi llwyfan neu ymateb yn greadigol i faterion sy’n agos at eu calonnau.
Mewn cyfnod o raniadau a safbwyntiau pegynol, gall llenyddiaeth ein helpu i ddeall persbectif rhywun arall a rhannu ein profiadau; mae gan lenyddiaeth y potensial o ddod â phobl at ei gilydd. Fel y dywedodd Hanan Issa, Bardd Cenedlaethol Cymru mewn cerdd ddiweddar yn ymateb i’r gwrthdaro,
“Sgwenna gerdd am y peth, medd rhai.
Ac mae’n siŵr y gwna i gan fod
gadael bwlch lle mae cerdd yn mynnu
bodoli fel cau drws yn glep ar gorwynt.”