Dewislen
English
Cysylltwch

Diolch, Eloise!

Cyhoeddwyd Llu 27 Medi 2021 - Gan Llenyddiaeth Cymru

Ar 18 Medi 2019, o flaen 150 o ddisgyblion brwdfrydig yn Ysgol Gynradd Jubilee Park yng Nghasnewydd, cyhoeddodd Llenyddiaeth Cymru mai’r awdur plant poblogaidd o Sir Benfro, Eloise Williams, oedd y Children’s Laureate Wales cyntaf. Y genhadaeth: ysbrydoli a thanio dychymyg plant a phobl ifanc ledled Cymru trwy lenyddiaeth.

Ddwy flynedd yn ddiweddarach, wrth inni baratoi i gyhoeddi Children’s Laureate Wales nesaf Cymru ar 7 Hydref, dyma gyfle i edrych yn ôl ar rai o uchafbwyntiau rhyfeddol cyfnod Eloise yn ei rôl, a rhannu ei neges gloi arbennig.

 

Neges gloi

Ar ddechrau ei chyfnod, rhannodd Eloise lythyr at blant Cymru. Yn y llythyr hwn, pwysleisiodd pa mor gyffrous oedd hi, a chymaint o anrhydedd oedd hi, i fod yn Children’s Laureate Wales; sut y byddai’n gwneud ei gorau glas i’w helpu i ddod o hyd i’r straeon cywir ar eu cyfer; yn ymgyrchu drostynt er mwyn iddynt weld eu hunain yn cael eu cynrychioli mewn llenyddiaeth; ac yn bwysicaf oll, bod eu lleisiau’n bwysig.

Heddiw daw cyfnod Eloise yn y rôl i ben, a dyma rannu neges wedi’i recordio’n arbennig ganddi sy’n cynnwys rhai o’i phrofiadau yn ystod ei chyfnod fel Children’s Laureate Wales a’i meddyliau ar yr hyn sy’n hanfodol bwysig i’n plant a’n cymdeithas wrth symud ymlaen. Gwyliwch y recordiad isod neu lawr lwythwch fersiwn ysgrifenedig o’r neges yma.

 

Uchafbwyntiau

Arweiniodd bwrlwm y lansiad ym mis Medi 2019 at lawer o ysgolion yn gwahodd Eloise i ymweld â nhw. Yn ei thymor ysgol cyntaf fel Children’s Laureate (Hydref 2019), bu Eloise naill ai’n ymweld neu’n trefnu i ymweld â 36 o ysgolion ledled Cymru. Roedd effaith yr ymweliadau yn amlwg i’w weld…

“Roedd hwn, heb or-ddweud, yn un o’r diwrnodau gorau i mi ei gael ers i mi ddod yn athro, ac yn sicr yn un o’r digwyddiadau gorau rydw i wedi bod yn rhan ohonyn nhw o bell ffordd. Dwi erioed o’r blaen wedi gweld awduron ifanc yn canolbwyntio cymaint nac yn cael cymaint o ysbrydoliaeth. Roedd ei gweithdy yn ddosbarth meistr o swyno, herio ac ennyn diddordeb plant trwy ysgrifennu creadigol. Roedd yn ddiwrnod gwirioneddol hudolus.” – Athro yn Ysgol Gynradd Sully

 

Dathliadau Diwrnod y Llyfr, mewn partneriaeth â Theatr Clwyd

Ar 5 Mawrth 2020, i ddathlu Diwrnod y Llyfr, ymunodd Eloise â Gwenno Eleri Jones, artist gweledol preswyl yn Theatr Clwyd yn Sir y Fflint, i gynnal diwrnod o weithdai ysgrifennu creadigol a chelf i ddisgyblion yn Ysgol Gynradd Nercwys. Buont yn gweithio gyda disgyblion i ysgrifennu eu darnau eu hunain o lên micro cyn creu llyfrau concertina wedi’u llenwi â phrintiau oedd wedi’u hysbrydoli gan eu straeon. Arddangoswyd y straeon a’r llyfrau yng ngofod arddangos Theatr Clwyd yn ystod yr un mis.

Mae rhagor o wybodaeth am y diwrnod, yma.

 

Sialensiau Ysgrifennu Wythnosol

Chwe mis i mewn i’w chyfnod fel Children’s Laureate, daeth pandemig COVID-19 i’n bywydau. Caeodd ysgolion, gorfodwyd llawer o bobl i weithio gartref, roedd rhieni a gwarcheidwaid yn wynebu addysg gartref, ac nid oedd unrhyw un yn gwybod yn iawn beth oedd ar y gorwel. Roedd yn bwysicach nag erioed y gallai plant Cymru ddod o hyd i gysur ac adloniant trwy ddarllen ac ysgrifennu creadigol yn ystod y cyfnod hwn. Am ddau fis cyntaf y cyfnod clo cychwynnol rhwng Mawrth – Mai 2020, gosododd Eloise, ynghyd â Bardd Plant Cymru Gruffudd Owen, Sialensiau Ysgrifennu Wythnosol i blant.

Dros wyth her wythnosol, rhannwyd cannoedd o gerddi, straeon, fideos, animeiddiadau a darluniau gyda ni gan blant o Gymru a thu hwnt.

Isod mae dolenni i’r heriau a osodwyd:

Wythnos 1 | Wythnos 2 | Wythnos 3 | Wythnos 4 | Wythnos 5 | Wythnos 6 | Wythnos 7 | Wythnos 8

 

Am Reading with Children’s Laureate Wales

Dros haf 2020, anogodd Eloise blant ac oedolion fel ei gilydd i rannu eu hoff lyfrau plant o Gymru, neu gan awduron o Gymru, ar gyfryngau cymdeithasol gan ddefnyddio templedi Am Reading with Children’s Laureate Wales a’r hashnod #AmReadingWithCLW, cyn enwebu ffrindiau, teulu ac athrawon i wneud yr un peth. Y nod oedd tynnu sylw at lyfrau plant gwych o Gymru, a hyrwyddo buddion darllen er pleser.

Isod mae templedi Am Reading with Children’s Laureate Wales:

Facebook | Instagram | Twitter

 

Gweithdai Ysgrifennu’r Gaeaf

Ym mis Tachwedd a mis Rhagfyr 2020, rhyddhaodd Eloise gyfres o weithdai ysgrifennu ar-lein am ddim i blant 7 – 14 oed. Roedd y pedair set o weithdai yn cynnwys chwe fideo byr i athrawon eu chwarae o flaen dosbarth, gydag amrywiol ymarferion a thasgau i ddisgyblion eu cwblhau rhwng pob fideo.

Isod mae fideos y gweithdai, yn ogystal ag adnoddau cysylltiedig ar gyfer disgyblion:

Gweithdy 1 – Thema Gaeaf / Ynys (ar gyfer oedran 7-9 mlwydd oed)

Gweithdy 2 – Thema Ysbryd (ar gyfer oedran 10-14 mlwydd oed)

Gweithdy 3 – Thema Gwrachaidd (ar gyfer oedran 9-11 mlwydd oed)

Gweithdy 4 – Thema Fictoraidd / Nadolig / Hanes lleol (ar gyfer oedran 9-13 mlwydd oed)

 

Fideo Awduron Llawryfog Rhyngwladol

Ym mis Rhagfyr 2020, daeth Awduron Llawryfog Plant o sawl gwlad ledled y byd ynghyd i rannu neges gadarnhaol am bŵer llyfrau a darllen ar ddiwedd blwyddyn heriol. Rhannwyd y fideo yn eang, ac yn ogystal ag Eloise, roedd Áine Ní Ghlinn (Laureate na nÓg, Iwerddon), Cressida Cowell (Awdur Llawryfog Plant Waterstones UK), Henrika Andersson ac Amanda Audas-Kass (Y Ffindir), Alessandro Sanna (Yr Eidal), Bagir Kwiek (Sweden), Manon Sikkel (Yr Iseldiroedd), Ursula Dubosarsky (Awstralia), a Gruffudd Owen (Bardd Plant Cymru) hefyd yn rhan o’r fideo.

Gwyliwch y fideo yma.

 

Letters of Kindness

I gyd-fynd â dadorchuddio blwch post arbennig y Post Brenhinol yng Nghaerdydd ar Ddiwrnod y Llyfr ym mis Mawrth 2021, i gydnabod ei chyfraniad arbennig tuag at ddiddanu plant yn ystod clo trwy weithgareddau llenyddiaeth, lansiodd Eloise y prosiect Letters of Kindness.

Anogodd y prosiect blant i ysgrifennu llythyr o garedigrwydd atynt eu hunain i dynnu sylw at bethau caredig y maent yn eu gwneud neu wedi eu gwneud, a phethau amdanynt eu hunain ac yn eu bywydau y maent yn eu gwerthfawrogi ac yn falch ohonynt. Ysbrydolwyd y syniad gan un o gymeriadau Eloise, Wilde, sy’n ysgrifennu llythyr ati ei hun ac yn dysgu dathlu ei hunigoliaeth a’r pethau sy’n ei gwneud hi’n wahanol yn ystod y stori. Nod y prosiect oedd hyrwyddo ymwybyddiaeth ofalgar a chynyddu teimlad o hunanwerth mewn plant.

 

Cystadleuaeth Farddoniaeth Cymru Euro 2020

I ddathlu bod tîm Cymru yn gymwys ar gyfer eu twrnamaint rowndiau terfynol Ewro cyntaf yn olynol, ymunodd Cymdeithas Bêl-droed Cymru a Llenyddiaeth Cymru i lansio Cystadleuaeth Farddoniaeth Cymru Ewro 2020 ym mis Ebrill 2021. Gwahoddodd y gystadleuaeth blant Cymru i gyflwyno cerddi ar thema hunaniaeth am gyfle i ennill llu o wobrau gwych. Ymunodd dau bêl-droediwr rhyngwladol Cymru, Ben Davies a Rhys Norrington-Davies, Gruffudd Owen (Bardd Plant Cymru), a’r canwr-gyfansoddwr Kizzy Crawford, gydag Eloise ar y panel beirniadu.

Denodd y gystadleuaeth gyfanswm o 495 o gynigion, ac mae’r cais Saesneg buddugol gan Martha Appleby o Bontarddulais, sy’n ymwneud â merched yn chwarae pêl-droed, wedi’i wneud yn ffilm ac mae’n rhan o ymgyrch gyfathrebu Merched Cymru ar gyfer Cwpan y Byd 2023.

Gwyliwch y ffilm yma.

 

Sesiynau gyda Gofalwyr Ifanc Tonyrefail

Trwy fenter a arweiniwyd gan y Tîm Campws Cyntaf ym Mhrifysgol Caerdydd, arweiniodd Eloise sesiynau ysgrifennu creadigol dros dri mis gyda grŵp o Ofalwyr Ifanc yn Ysgol Gymunedol Tonyrefail yn Rhondda Cynon Taf.

Dywedodd un rhiant: “Mae [fy mab] wedi mwynhau siarad ag Eloise a’r plant eraill. Mae wedi bod yn gofyn llawer o gwestiynau, fel sut y cafodd ysbrydoliaeth ar gyfer y llyfr. Mae wedi gwneud llawer o ffrindiau trwy ei wneud. Mae hyn wedi ei annog gyda’i ddarllen hefyd.”

Darllenwch fwy am y prosiect yma.

Mae cais grant llwyddiannus yn golygu y bydd y bartneriaeth ag Ysgol Gymunedol Tonyrefail yn parhau dros y flwyddyn academaidd 2021-2022 gyfan. Bydd Eloise yn gweithio gyda’r ysgol am ddiwrnod bob wythnos a bydd yn darparu astudiaeth achos wych o sut y gall ymgysylltu ag awdur dros gyfnod estynedig fod o fudd i blant gyda’u hyder, eu hiechyd a’u llesiant.

 

Sgyrsiau Digidol

Yn ystod haf 2021, cadeiriodd Eloise ddau sgwrs ddigidol.

Y cyntaf oedd trafodaeth gyda thri athro cynradd angerddol, Claire Douglas, Scott Evans a Simon Fisher, ynglŷn â chreu diwylliant darllen mewn ysgolion ac ysbrydoli plant i ddarllen er pleser. Gwyliwch y drafodaeth yma.

Yr ail oedd trafodaeth gyda phedwar enillydd Gwobr Rising Stars Cymru, sef Bev Lennon, Connor Allen, Sadia Pineda Hameed a Taylor Edmonds. Mae Gwobr Rising Stars Cymru yn bartneriaeth rhwng Llenyddiaeth Cymru a Firefly Press, ac mae’n rhoi cyfle i feirdd plant o gefndiroedd Du, Asiaidd a Lleiafrifoedd Ethnig sydd wedi’u lleoli yng Nghymru ddatblygu eu sgiliau a’u hysgrifennu ar gyfer plant ymhellach. Gwyliwch y drafodaeth yma.

 

Dy Lais / Your Voice

Mewn partneriaeth â Senedd Cymru yn ystod haf 2021, roedd Eloise yn un o bedwar awdur, ochr yn ochr ag Anni Llŷn, Gruffudd Owen, a Bardd Preswyl Comisiynydd Cenedlaethau’r Dyfodol, Taylor Edmonds, a gynhaliodd weithdai gydag ysgolion cynradd ym mhob Awdurdod Lleol yng Nghymru. Dysgodd y plant am waith y Senedd cyn creu cerddi am y Gymru y maen nhw eisiau ei gweld yn y dyfodol. Perfformir cerdd ddwyieithog wedi’i golygu gyda’i gilydd o’r cerddi ysgol unigol yn fyw yn agoriad swyddogol chweched tymor y Senedd ym mis Hydref 2021, sy’n cynnwys ymweliad gan Ei Mawrhydi Y Frenhines.

 

Yn ystod ei chyfnod fel Children’s Laureate, mae Eloise wedi gweithio yn ddiflino i hyrwyddo a chodi ymwybyddiaeth o awduron plant o Gymru ar Twitter. Cyhoeddwyd ei phedwaredd nofel, Wilde (Firefly Press), ym mis Mai 2020 ac fe gyrhaeddodd y nofel restr fer y categori Plant a Phobl Ifanc yng Ngwobr Llyfr y Flwyddyn 2021.

Hoffai Llenyddiaeth Cymru ddiolch i Eloise am ei hymrwymiad a’i hangerdd rhagorol i’r rôl dros y ddwy flynedd ddiwethaf. Mae plant ledled Cymru wedi canfod cariad at ddarllen a llwyfan i fynegi eu hunain trwy ei gwaith. Diolch, Eloise.