Dewislen
English
Cysylltwch

Eloise Williams yn dechrau preswyliad blwyddyn yn Ysgol Gymunedol Tonyrefail

Cyhoeddwyd Gwe 24 Medi 2021 - Gan Llenyddiaeth Cymru
Eloise Williams yn dechrau preswyliad blwyddyn yn Ysgol Gymunedol Tonyrefail
Eloise Williams yn Ysgol Gymunedol Tonyrefail

“Mae’r prosiect hwn yn agor drysau ac yn creu posibiliadau mewn ffordd mor hygyrch a chyffrous. Rwy’n hynod falch o allu bod yn rhan ohono.”

Michael Sheen, llysgennad Do You Get Me?

 

Mae Eloise Williams, yr awdur plant a’r Children’s Laureate Wales cyntaf erioed yn cychwyn ar antur gyffrous yr wythnos hon fel awdur preswyl Ysgol Gymunedol Tonyrefail, Rhondda Cynon Taf. Fel rhan o’r preswyliad blwyddyn o hyd hwn, bydd Eloise yn ymweld â’r ysgol bob wythnos o’r tymor i gynnal gweithdai gyda disgyblion a’u hysbrydoli i ddarllen ac ysgrifennu eu straeon creadigol eu hunain.

Mae Do You Get Me? yn brosiect a gaiff ei gynnal mewn partneriaeth rhwng Llenyddiaeth Cymru a Campws Cyntaf, rhaglen gan Brifysgol Caerdydd i ennyn diddordeb pobl ifanc yn ne ddwyrain Cymru mewn addysg uwch a lleihau’r rhwystrau i fyd addysg. Bydd Eloise Williams yn gweithio gyda phob disgybl ym Mlwyddyn 8, Ysgol Gymunedol Tonyrefail, yn ogystal â grwpiau eraill o bobl ifanc o Gyfnod Allweddol 3, gan gynnwys disgyblion sydd mewn gofal neu sy’n ofalwyr ifanc. Mae llawer o dystiolaeth fod cymryd rhan mewn gweithgareddau llenyddol yn gallu gwella llesiant unigolion, a bydd hyn yn ganolbwynt i breswyliad Eloise trwy weithdai creadigol a chyfleoedd i’r bobl ifanc fynegi eu hunain trwy lenyddiaeth. Yn ystod y flwyddyn, bydd sawl awdur a darlunydd gwadd poblogaidd yn ymuno ag Eloise i rannu eu cariad at greadigrwydd a’r byd llenyddol, ac i ysbrydoli’r plant â hud geiriau. Bydd gweithgareddau pellach yn cynnwys cystadlaethau ysgrifennu creadigol gyda gwobrau o becynnau llyfrau wedi eu cyfrannu gan y cyhoeddwyr Cymreig Firefly Press.

Mae’r actor byd-enwog, Michael Sheen, yn llysgennad ar gyfer y prosiect a dywedodd, “Mae agor llwybrau creadigol i bobl ifanc yn gallu newid bywydau. Rwy’n gwybod hynny o brofiad personol. Mae’r prosiect hwn yn agor drysau ac yn creu posibiliadau mewn ffordd mor hygyrch a chyffrous. Rwy’n hynod falch o allu bod yn rhan ohono.”

Nod ehangach y prosiect, y tu hwnt i ysbrydoli a chefnogi’r bobl ifanc trwy lenyddiaeth, yw dysgu pa effaith y bydd ymgysylltu ag awdur dros gyfnod estynedig yn ei gael ar y disgyblion a chymuned ehangach yr ysgol. Bydd effaith y prosiect yn cael ei rannu gydag ysgolion eraill ledled Cymru i’w hysbrydoli i archwilio sut y gallent elwa o wahodd awduron ac artistiaid preswyl i’w hysgolion eu hunain.

Dilyniant yw Do You Get Me? o brosiect peilot llenyddol dan arweiniad Eloise Williams gyda grŵp o ddisgyblion yn Ysgol Gymunedol Tonyrefail yn gynharach eleni. Gwelodd Access an Author Eloise yn gweithio gyda gofalwyr ifanc yn yr ysgol mewn cyfres o weithdai rhithwir. Unwaith eto, roedd y prosiect yn bartneriaeth rhwng Campws Cyntaf a Llenyddiaeth Cymru a chafodd effaith bwerus ac ystyrlon trwy roi cyfle i’r disgyblion gysylltu’n greadigol ag Eloise a’i gilydd yn ystod cyfnod clo heriol y pandemig.

Dywedodd Eloise Williams: “Rwy’n falch iawn o gael cyfle i fod yn awdur preswyl yn Ysgol Gymunedol Tonyrefail eleni. Rwy wir yn credu yng ngrym straeon i gyfoethogi pob rhan o fywyd. Rwy’n edrych ymlaen yn fawr at annog creadigrwydd cynhenid ​​y bobl ifanc a chlywed eu straeon unigryw yn eu geiriau eu hunain.”

Dywedodd Pennaeth Cynorthwyol Ysgol Gymunedol Tonyrefail, Cara Marvelley: “Yn Ysgol Gymunedol Tonyrefail credwn fod darllen ac ysgrifennu yn rhan hanfodol o ganiatáu i’n pobl ifanc ddod o hyd i hapusrwydd a llwyddiant ym mhob agwedd o’u bywydau. Rydym yn falch iawn o groesawu Eloise i’n hysgol eleni ac nid oes amheuaeth y bydd y cyfle hwn yn cael effaith barhaol ar ein myfyrwyr, ein staff a’n cymuned ehangach.”

Dywedodd Lleucu Siencyn, Prif Weithredwr Llenyddiaeth Cymru: “Credwn yn gryf fod llenyddiaeth yn grymuso, yn gwella ac yn cyfoethogi bywydau. Bydd gosod un o awduron pobl ifanc mwyaf poblogaidd Cymru yn yr ysgol am flwyddyn yn dod a llenyddiaeth yn fyw i’r disgyblion ac yn ysbrydoli cariad gydol oes at lenyddiaeth. Yn yr amseroedd heriol hyn i’n pobl ifanc, rydym hefyd yn awyddus i ddefnyddio’r prosiect i ddarparu disgyblion â’r sgiliau sydd eu hangen i wella eu llesiant drwy lenyddiaeth. Mae ysgrifennu creadigol yn cynnig cyfle i fynegi emosiynau, a mae darllen llyfrau yn cynnig dihangfa a chysur. Trwy dreialu’r cyfnod preswyl hwn am flwyddyn gyfan, ein gobaith yw creu cynsail i ysgolion eraill ledled Cymru wahodd awduron ac artistiaid preswyl i ysbrydoli a grymuso eu plant drwy’r celfyddydau. ”

Plant a Phobl Ifanc