Dewislen
English
Cysylltwch

Galwad agored: Cyfle gyda thâl i Awduron ac Artistiaid/Darlunwyr Anabl

Cyhoeddwyd Gwe 14 Awst 2020 - Gan Llenyddiaeth Cymru
Galwad agored: Cyfle gyda thâl i Awduron ac Artistiaid/Darlunwyr Anabl

Geiriau ar Gynfas
– partneriaeth rhwng Llenyddiaeth Cymru a Chelfyddydau Anabledd Cymru

Mae Llenyddiaeth Cymru yn falch iawn o gydweithio gyda Celfyddydau Anabledd Cymru i wahodd mynegiannau o ddiddordeb gan awduron ac artistiaid/darlunwyr B/byddar neu anabl i ddatblygu a darparu prosiect cyfranogi llenyddol gydag unigolion B/byddar neu unigolion anabl yng Nghymru, o fis Medi 2020 ymlaen.

Mae cyfranogi, a chymryd rhan mewn gweithgareddau llenyddol yn benodol, yn un o dri prif feysydd gwaith Llenyddiaeth Cymru. Ein nod yw cynyddu mynediad at ac effaith ysgrifennu creadigol ar gyfranogwyr yng Nghymru er mwyn ysbrydoli rhai o’n hunigolion a’n cymunedau mwyaf ymylol drwy eu galluogi i gymryd rhan mewn gweithgaredd llenyddol.

Ar sail ein dealltwriaeth fod gan lenyddiaeth y grym i wella a gweddnewid bywydau, a’r angen i gynnal gweithgareddau lle y byddant yn cael yr effaith mwyaf, rydym wedi nodi Cynrychiolaeth a Chydraddoldeb fel un o’n tair Blaenoriaeth Dactegol. Nid math o weithgaredd yw hyn, ond yn hytrach thema a gaiff ei gynnwys ym mhopeth yr ydym yn ei gyflawni, gan gynnwys ein gwaith-ar-y-cyd a’n gwaith hwyluso. Trwy sicrhau cynrychiolaeth deg ar draws ein gweithgareddau ân strwythurau mewnol, rydym yn darparu llwyfannau ac anogaeth i leisiau sy’n cael eu tangynrychioli, a thrwy hynny’n meithrin diwylliant llenyddol sy’n adlewyrchu’r Gymru gyfoes.

 

Pa gyfleoedd sydd ar gael? 

Mae dau gyfle gwahanol ar gael fel rhan o’r prosiect hwn.

 

Ymarferydd Creadigol

Rydym yn chwilio am Ymarferydd Creadigol i greu a rhedeg prosiect gydag unigolion B/byddar neu unigolion anabl o fis Medi 2020 ymlaen. Mae ffi o £150 ar gyfer pob gweithdy, hyd at uchafswm o £1,350. 

Mae’r ffi ar gyfer:

  • Rhedeg dau weithdy cychwynol (tua hanner diwrnod yr un) i arbrofi gyda syniadau, ymarferion gweithdai ac i ymgynghori gyda’r cyfranogwyr
  • Creu pecyn adnodd neu becyn prosiect yn seiliedig ar themâu’r gweithdai
  • Datblygu prosiect creadigol hir-dymor ar gyfer grŵp o gyfranogwyr, i’w gynnal dros gyfres o 4-6 gweithdy

Mae’r ffi hwn yn cynnwys yr holl dreuliau gan gynnwys TAW a chostau teithio.

 

Cyfle Cysgodi gyda thâl

Rydym hefyd yn derbyn ceisiadau gan egin awduron, artistiaid neu ddarlunwyr a fyddai’n elwa o hyfforddiant a phrofiad ychwanegol cyn ymgeisio ar gyfer cyfle tebyg i’r Ymarferydd Creadigol. Bydd y cyfle cysgodi hwn yn gyfle i ddysgu gan ymarferydd creadigol profiadol yn ystod gweithdai.

Mae hyn yn cynnwys:

  • Cysgodi ymarferydd creadigol profiadol mewn gweithdy llenyddol
  • Cyfrannu tuag at syniadau a gweithgareddau creadigol y gweithdy
  • Cynnal gweithgaredd gwerthuso byr ar ddiwedd y sesiwn

Mae ffi per diem o £50 y diwrnod ar gyfer y cyfle hwn, hyd at uchafswm o £300. Mae’r ffi hwn yn cynnwys yr holl dreuliau gan gynnwys TAW a chostau teithio.

Dyddiad cau i fynegi diddordeb:
12.00 hanner dydd, dydd Iau 3 Medi

Beth sy’n digwydd nesaf?

Caiff yr ymgeiswyr llwyddiannus eu dethol a’u cadarnhau erbyn dydd Mercher 16 Medi. Caiff yr artistiaid eu dethol gan banel o swyddogion celfyddydol o Llenyddiaeth Cymru a Disability Arts Cymru ar sail profiad, argaeledd a pha mor addas ydynt ar gyfer y prosiect.

 

Sut i wneud cais

Lawrlwythwch y ddogfen isod sy’n darparu rhagor o wybodaeth am y cyfle hwn, yn ogystal â manylion ynglyn â sut i wneud cais. Pe dymunwch dderbyn y dogfennau mewn fformat gwahanol, cysylltwch â Llenyddiaeth Cymru: post@llenyddiaethcymru.org

Dogfennau

Galwad agored: Cyfle gyda thâl i Awduron ac Artistiaid/Darlunwyr Anabl
Iaith: EnglishMath o Ffeil: PDFMaint: 684KB
Galwad agored: Cyfle gyda thâl i Awduron ac Artistiaid/Darlunwyr Anabl
Iaith: WelshMath o Ffeil: WordMaint: 827KB
PRINT BRAS - Galwad agored: Cyfle gyda thâl i Awduron ac Artistiaid/Darlunwyr Anabl
Iaith: EnglishMath o Ffeil: PDFMaint: 691KB
PRINT BRAS - Galwad agored: Cyfle gyda thâl i Awduron ac Artistiaid/Darlunwyr Anabl
Iaith: EnglishMath o Ffeil: WordMaint: 828KB