Dewislen
English
Cysylltwch

Galwad Agored i Awduron: cwrs blynyddol Llenyddiaeth Cymru i egin awduron nawr ar agor ar gyfer ceisiadau

Cyhoeddwyd Mer 16 Tach 2022 - Gan Llenyddiaeth Cymru
Galwad Agored i Awduron: cwrs blynyddol Llenyddiaeth Cymru i egin awduron nawr ar agor ar gyfer ceisiadau
Rydym yn falch o gyhoeddi fod y broses ymgeisio ar gyfer ein cwrs egin awduron blynyddol nawr ar agor ar gyfer ceisiadau.

Caiff y cwrs, (Ail)Sgwennu Cymru ei diwtora gan Darren Chetty a Iestyn Tyne, a caiff ei gynnal yng Nghanolfan Ysgrifennu Tŷ Newydd o ddydd Llun 27 i ddydd Gwener 31 Mawrth 2023.

Mae’r dyddiad cau ar gyfer Ceisiadau bellach wedi pasio.

Mae’r thema eleni wedi cael ei ysbrydoli gan y gyfrol o ysgrifau, Welsh (Plural), sydd wedi ei gyd-olygu gan diwtoriaid y cwrs, Darren Chetty a Iestyn Tyne, gyda Hanan Issa a Grug Muse, ac mae’n archwilio cymhlethdodau hunaniaeth Gymreig.  

Bydd gan bawb ar y cwrs agwedd wahanol tuag at Gymru a Chymreictod. Bydd ganddynt brofiadau gwahanol o fywyd yng Nghymru, a syniadau amrywiol am ei dyfodol. Edrychwn ymlaen at groesawu awduron i rannu eu safbwyntiau unigryw ar y thema, gan edrych yn arbennig ar groesawu awduron sydd wedi cael eu tangynrychioli yn ein llên. 

Gall egin awduron o bob oed wneud cais – cyn belled eu bod yn 18 neu’n hŷn ar y dyddiad cau. 

Rhagor o Wybodaeth

Ceir rhagor o wybodaeth am y cwrs a’r broses o wneud cais ar ein gwefan, sy’n cynnwys y galwad agored llawn, atebion i rai cwestiynau cyffredin, a manylion ymgeisio. Mae’r holl ddogfennau ar gael i’w islwytho mewn print bras a fformat dyslecsia gyfeillgar.