Dewislen
English
Cysylltwch

Galwad: Children’s Laureate Wales 2021-2023

Cyhoeddwyd Maw 1 Meh 2021 - Gan Llenyddiaeth Cymru
Galwad: Children’s Laureate Wales 2021-2023

Mae Llenyddiaeth Cymru yn chwilio am Children’s Laureate Wales 2021-2023 i danio dychymyg ac ysbrydoli plant Cymru.

Yn dilyn llwyddiant y nofelydd arobryn Eloise Williams fel y Children’s Laureate Wales cyntaf un rhwng 2019-2021, mae Llenyddiaeth Cymru yn falch o gyhoeddi ein bod ni’n chwilio am fardd i ymgymryd â’r sialens y tro hwn, i barhau i ysbrydoli pobl ifanc y genedl.

Ydych chi’n fardd sydd wrth eich bodd yn gweithio gyda phlant? Ydych chi’n credu yng ngrym llenyddiaeth i ysbrydoli, grymuso, gwella a chyfoethogi bywydau – yn enwedig bywydau pobl ifanc? Ydych chi’n awyddus i ddathlu a chynrychioli diwylliant llenyddol Cymru ar lwyfannau cenedlaethol a rhyngwladol? Yna rydyn ni am glywed gennych chi!

Mae Llenyddiaeth Cymru yn chwilio am y Children’s Laureate Wales nesaf ac yn gwahodd ceisiadau gan feirdd, neu artistiaid sy’n perfformio barddoniaeth, talentog ac angerddol sydd â gweledigaeth gref ar gyfer y rôl hon. Rydym yn croesawu ceisiadau gan unigolion o ystod o gefndiroedd a phrofiadau, a byddwn yn ystyried egin feirdd a beirdd profiadol fel ei gilydd. Rydym yn chwilio am unigolion sy’n rhannu ein gwerthoedd o gydraddoldeb a chynrychiolaeth, ac a fydd yn llysgennad dros hawliau plant i fod yn greadigol, i fynegi eu hunain ac i gael eu lleisiau wedi’u clywed, ac wrth gwrs i gael hwyl gyda geiriau.

 

Am y rôl

  • Bydd y Children’s Laureate Wales nesaf yn cychwyn yn eu rôl o hydref 2021 ymlaen. Y dyddiad cau i ymgeisio yw dydd Llun 19 Gorffennaf.
  • Dyma rôl dwy flynedd o hyd, tan hydref 2023.
  • Y ffi ar gyfer y gwaith yw £8,000 y flwyddyn, ynghyd â threuliau, a bydd y cynllun gweithgaredd yn cyfateb i tua 20 diwrnod o weithgaredd pob blwyddyn.
  • Nodwch, os gwelwch yn dda: gall natur a ffurf y dyddiau gweithdai amrywio. Ambell ddydd, byddwch yn cyflawni gweithdy mewn ysgol, ond ar ddyddiau eraill falle y byddwch chi’n gweithio o adref ar gerdd gomisiwn. Mae rhagor o wybodaeth yn yr adrannau isod.
  • Mae’r gwaith yn cynnwys cynnal gweithdai i blant a phobl ifanc, cyfansoddi cerddi comisiwn, ac amryw o weithgareddau eraill mewn ysgolion ac mewn lleoliadau amrywiol (e.e. gwyliau celfyddydol a chlybiau ieuenctid). Mae’n debygol iawn y bydd cynigion am gomisiynau pellach yn dod i law, a gwahoddiadau i arwain ymgyrchoedd a phrosiectau cenedlaethol eraill.
  • Caiff y Children’s Laurate Wales ei ystyried fel llysgennad ar gyfer plant, a llenyddiaeth plant, yn ogystal â bod yn eiriolwr dros faterion sydd yn bwysig i genedlaethau’r dyfodol, gan gynnwys iechyd meddwl, addysg a’r argyfwng hinsawdd. Mae’n debygol y bydd yna gyfleoedd ar gyfer comisiynau pellach gan bartneriaid allanol, a gwahoddiadau i arwain ymgyrchoedd cenedlaethol.
  • Mae’r Children’s Laureate Wales yn ymgysylltu â phlant ledled Cymru ac yn eu hysbrydoli i fod yn greadigol ac i fynegi eu hunain trwy farddoniaeth.
  • Mae’r Children’s Laureate Wales yn rôl gaiff ei dyfarnu i awdur o Gymru bob dwy flynedd.
  • Mae’r Children’s Laureate Wales yn brosiect Saesneg ei iaith sy’n gweithio ochr yn ochr â’i chwaer-brosiect Cymraeg, Bardd Plant Cymru. Bydd y Bardd Plant nesaf yn cychwyn yn yr hydref hefyd, a bydd y rôl yn para am ddwy flynedd.
  • Y Children’s Laureate Wales presennol yw Eloise Williams.

 

Pam ein bod ni’n chwilio am Fardd?

Mae Llenyddiaeth Cymru yn gweld llenyddiaeth fel ffurf gelf amrywiol, a’n nod yw dathlu diwylliant llenyddol Cymru yn ei holl ffurfiau. Yn dilyn penodi nofelydd fel y Children’s Laureate Wales cyntaf, hoffem i farddoniaeth fod yn ganolbwynt ar gyfer tymor 2021-2023. Credwn fod barddoniaeth i blant yn hynod bwysig ac rydym am hyrwyddo a rhoi llwyfan i feirdd sydd eisiau gweithio yn y maes hwn. Ar gyfer tymhorau’r dyfodol, efallai y gallwn roi llwyfan i ragor o ffurfiau amrywiol.

 

Sut mae’r prosiect yn gweithio?

Bydd Llenyddiaeth Cymru yn gweithio’n agos gyda’r Children’s Laureate Wales newydd i ddyfeisio, datblygu a threfnu rhaglen o weithgareddau am y ddwy flynedd. Rydyn ni yma i gefnogi a hwyluso’r rôl, ac rydyn ni eisiau i’r bardd roi ei stamp ei hun ar y rôl.

Rydym yn croesawu ceisiadau gan egin feirdd a beirdd profiadol. Gall egin feirdd ffynnu yn y rôl hon gan dderbyn ystod o gyfleoedd i ddatblygu eu proffil. Mae’r rôl yn darparu llwyfan i feithrin sgiliau drwy gynnal gweithgareddau creadigol gyda chyfranogwyr, ynghyd â datblygu enw da artistig a phroffesiynol.

Bydd ein Blaenoriaethau Tactegol yn flaenllaw yn ein gwaith yn ystod y blynyddoedd nesaf, ac yn hynny o beth rydyn ni’n awyddus iawn i annog ceisiadau gan bobl sydd heb gynrychiolaeth ddigonol yn y sector llenyddiaeth, a gan y rhai sy’n profi gwahaniaethu oherwydd hil, hunaniaeth rhywedd, cyfeiriadedd rhywiol, statws priodasol, crefydd, cenedligrwydd, tarddiad ethnig, anabledd neu oedran. Rydym yn gweithredu diwylliant gwrth-hiliaeth ac yn datblygu ein polisïau Diogelu a pholisïau Adnoddau Dynol i gynnwys prosesau arfer da wrth weithio gyda’r rheiny sydd wedi dioddef trawma gwahaniaethu, ac yn gweithio tuag at fynd i’r afael â chynil-ymosodiad yn y gweithle. Rydyn ni’n ymroddedig i fodloni gofynion mynediad – rhowch wybod i ni beth sydd ei angen arnoch chi.

 

Bydd y Children’s Laureate Wales yn:

  • ymgysylltu â phlant ledled Cymru a’u hysbrydoli i fod yn greadigol ac i fynegi eu hunain drwy farddoniaeth;
  • annog plant i gael hwyl gyda barddoniaeth;
  • hyrwyddo hawl pob plentyn i gael eu straeon a’u lleisiau wedi’u clywed;
  • bod yn llysgennad cadarnhaol i blant, gan hyrwyddo eu hawliau a’u diddordebau;
  • helpu i ddatblygu sgiliau llythrennedd a chyfathrebu plant drwy greadigrwydd;
  • hyrwyddo Cymreictod;
  • cefnogi datblygiad y genhedlaeth nesaf o feirdd ac awduron ifanc;
  • codi ymwybyddiaeth o farddoniaeth i blant yng Nghymru, yn genedlaethol ac yn rhyngwladol; ac
  • ymgysylltu’n benodol â’r Cleientiaid a Dargedir gan Llenyddiaeth Cymru, fel y nodir yn ein Cynllun Strategol 2019-22, sef plant o gefndiroedd du, Asiaidd neu leiafrif ethnig, plant o gefndiroedd incwm isel, neu blant ag anableddau neu salwch (corfforol neu feddyliol).

 

Meini Prawf a Thelerau

Bydd y Children’s Laureate Wales 2021-2023:

  • yn gallu ymrwymo i o leiaf 20 diwrnod gwaith y flwyddyn i weithio fel Children’s Laureate Wales; Os oes gennych chi unrhyw bryderon am eich argaeledd (e.e oherwydd cyflogaeth a/neu ddyletswyddau gofal) i gyflawni’r rôl, cysylltwch am sgwrs;
  • yn gallu gweithio gyda phlant a phobl ifanc hyd at 18 mlwydd oed;
  • eisoes wedi ysgrifennu rhai cerddi yn Saesneg ar gyfer plant a/neu bobl ifanc; ac
  • yn siaradwr cyhoeddus hyderus a deinamig.

Yn ogystal â’r rhaglen waith craidd, gall Llenyddiaeth Cymru gynnig comisiynau, preswyliadau a chyfleoedd pellach i’r bardd yn ystod y ddwy flynedd. Byddai unrhyw waith ychwanegol yn cael ei gytundebu ar wahân.

Bydd y rhaglen waith yn cael ei chadarnhau unwaith y bydd y penodiad wedi’i wneud, gan ystyried blaenoriaethau, syniadau ac arbenigeddau’r bardd.

Bydd Children’s Laureate Wales yn derbyn ffi o £8,000 y flwyddyn, ynghyd â threuliau. Mae’r ffi yn cynnwys amser ar gyfer trafod, cynllunio a gweinyddu. Rhaid i’r bardd fod yn byw yng Nghymru.

 

Sut i ymgeisio?

Islwythwch un o’r dogfennau isod er mwyn darllen y fanyleb yn llawn. Mae rhagor o fanylion ynglyn â sut i ymgeisio ar gael yn y ddogfen.

 

Dyddiad cau: 5.00 pm, dydd Llun 19 Gorffennaf 2021

 

Am ragor o wybodaeth, islwythwch un o’r dogfennau isod, neu cysylltwch â Llenyddiaeth Cymru am sgwrs bellach: post@llenyddiaethcymru.org

Gwybodaeth Bellach

Mae rhagor o wybodaeth am yr alwad yma ar gael isod, mewn ffurf PDF, Word a Phrint Bras. Gallwn ddarparu’r wybodaeth mewn fformatau hygyrch eraill pe dymuned hynny. Cysylltwch â Llenyddiaeth Cymru: post@llenyddiaethcymru.org

Gwybodaeth Bellach (PDF)
Iaith: WelshMath o Ffeil: PDFMaint: 207KB
Gwybodaeth Bellach (Word)
Iaith: WelshMath o Ffeil: WordMaint: 134KB
Gwybodaeth Bellach (Print Bras)
Iaith: WelshMath o Ffeil: WordMaint: 134KB