Dewislen
English
Cysylltwch

Geiriau er Gwell gyda Sian Northey

Cyhoeddwyd Maw 8 Rhag 2020 - Gan Llenyddiaeth Cymru
Geiriau er Gwell gyda Sian Northey

Cyfres o ddwy sesiwn am ddim ar gyfer awduron a gweithwyr iechyd sydd â diddordeb mewn effaith gadarnhaol ysgrifennu creadigol ar iechyd a llesiant unigolion a grwpiau cymunedol.

Fel rhan o ail alwad Comisiynau Llenyddiaeth Cymru, mewn partneriaeth â Choleg Brenhinol y Seiciatryddion yng Nghymru, dyfarnwyd deg comisiwn gwerth £500 i awduron ac ymarferwyr creadigol. Un o’r awduron rheiny a dderbyniodd gomisiwn yw’r bardd a’r awdur Sian Northey.

Gall ysgrifennu creadigol gael effaith cadarnhaol ar iechyd a llesiant unigolion a grwpiau o bobl mewn amryw o ffyrdd gwahanol. Mae gan Sian gryn dipyn o brofiad yn y maes hwn, ac yn un sydd yn cynnal gweithdai ers blynyddoedd lawer bellach gyda phreswylwyr cartrefi gofal, unigolion mewn carchardai, ysbytai, ysgolion arbennig a nifer o grwpiau gwahanol yn y gymuned.

Mae Llenyddiaeth Cymru yn awyddus i gynyddu’r nifer o siaradwyr Cymraeg sy’n teimlo’n hyderus i weithio yn y maes hwn. Bydd Sian yn cynnal cyfres o ddwy sesiwn ddigidol (dros Zoom) yn rhannu ei phrofiadau hi o waith iechyd a llesiant gan helpu eraill i ddatblygu eu sgiliau a’u hyder er mwyn defnyddio ysgrifennu creadigol ym maes iechyd a llesiant.

 

Dyddiadau’r sesiynau:

Dydd Mawrth 19 Ionawr, 12.30 – 1.30 pm

Dydd Mawrth 26 Ionawr, 12.30 – 1.30 pm

 

Mae croeso i awduron ac i bobl sy’n gweithio yn y byd iechyd. Yn ddilyniant i’r sesiynau agored hyn bydd cyfle i ddau berson dderbyn dwy sesiwn fentora un-i-un gan Sian.

 

I gofrestru, neu am ragor o wybodaeth, cysylltwch â Llenyddiaeth Cymru: post@llenyddiaethcymru.org

 

Nifer cyfyngedig o lefydd sydd ar gael ar gyfer y sesiynau hyn, a gaiff eu llenwi yn ôl trefn cyntaf i’r felin.