Dewislen
English
Cysylltwch

Gwahoddiad i Gynnig Tendr

Cyhoeddwyd Llu 24 Mai 2021 - Gan Llenyddiaeth Cymru
Gwahoddiad i Gynnig Tendr
Gwahoddiad i Gynnig Tendr: Ymchwil feintiol ar gyfer ymgysylltiad y cyhoedd gyda chynnwys a gweithgaredd llenyddol yng Nghymru
Brîff

Mae Llenyddiaeth Cymru yn dymuno comisiynu ymchwil feintiol ar gyfer ymgysylltiad y cyhoedd gyda chynnwys a gweithgaredd llenyddol yng Nghymru er mwyn llywio a siapio ein strategaeth, rhaglennu a chomisiynau. Mae hyn yn cynnwys ymgysylltu â llenyddiaeth trwy ddarllen, cyfranogiad creadigol a mynychu digwyddiadau. Hyderwn y bydd canlyniadau’r arolwg hwn yn ein cynorthwyo i ehangu ac ymestyn cyrhaeddiad a chynrychiolaeth y sector.

 

Cyd-destun

Mae gennym ymwybyddiaeth gref o anghenion a gofynion ein cleientiaid o’n gweithgareddau monitro (gan gynnwys Arolygon Rhanddeiliaid blynyddol) a’n sgyrsiau cyson gydag awduron, cynulleidfaoedd a phartneriaid. Er hynny, mae gennym ddiddordeb mewn ymgorffori adborth, syniadau ac argymhellion o sampl ehangach, gan gynnwys cynulleidfaoedd newydd, er mwyn sicrhau bod ein strategaeth yn estynedig ac yn berthnasol i Gymru gyfan.

Bydd yr ymchwil hwn yn creu sylfaen gynhwysfawr o dystiolaeth ar bwy sydd, a phwy sydd ddim, yn cyrchu cynnwys a gweithgaredd llenyddol yng Nghymru ar hyn o bryd, yn ogystal â sut a pham mae’r cynulleidfaoedd hyn yn ymgysylltu â gwahanol fathau o lenyddiaeth. Bydd y data hwn yn ein helpu i ddeall ymddygiadau, canfyddiadau a diddordebau pob cynulleidfa, yn hytrach na’r rhai yr ydym eisoes yn ymgysylltu â nhw yn unig. Mae yna hefyd ddiffyg tystiolaeth gynhwysfawr ar sut a pham mae’r ymgysylltiad hwn yn cael ei effeithio gan ffactorau demograffig megis statws economaidd-gymdeithasol, ethnigrwydd neu anabledd.

Bydd yr ymchwil hwn yn creu data a fydd yn cael ei ddefnyddio i lywio strategaeth a rhaglen gweithgaredd Llenyddiaeth Cymru ar gyfer 2022-2025. Trwy ddeall pwy sydd, a phwy sydd ddim, yn cyrchu gwahanol fathau o ymgysylltiad â llenyddiaeth, a pham, gallwn weithio tuag at sicrhau fod llenyddiaeth yng Nghymru yn hygyrch i bawb.

 

Am Llenyddiaeth Cymru

Llenyddiaeth Cymru yw’r cwmni cenedlaethol ar gyfer datblygu llenyddiaeth. Ein gweledigaeth yw Cymru sydd yn grymuso, yn gwella, ac yn cyfoethogi bywydau drwy lenyddiaeth. Rydym yn elusen gofrestredig, a gweithiwn i ysbrydoli cymunedau, datblygu awduron, a dathlu diwylliant llenyddol Cymru. Mae Llenyddiaeth Cymru yn gweithio yn y Gymraeg, y Saesneg, ac yn ddwyieithog ar draws Cymru. Ein noddwr yw Syr Phillip Pullman.

 

Y Cytundeb

Bydd yr ymgeisydd llwyddiannus yn arolygu cyfran o boblogaeth Cymru er mwyn adlewyrchu arferion a barn y boblogaeth gyfan ar ddarllen ac ysgrifennu. Er mwyn sicrhau bod yr arolwg yn cyflawni’r nod hwn, dylai’r arolwg ddefnyddio strategaeth Samplu ar Hap Haenedig Cymesur yn ôl yr haenau grŵp economaidd-gymdeithasol, ethnigrwydd ac anableddau neu salwch.

Nod bras yr arolwg yw:

  • Deall sut mae cynulleidfaoedd yn ymgysylltu â gweithgaredd a chynnwys llenyddol ar hyn o bryd.
  • Deall pa weithgaredd a chynnwys llenyddol sydd o’r diddordeb mwyaf i gynulleidfaoedd.
  • Darganfod unrhyw gyfleoedd ar gyfer gweithgaredd a chynnwys llenyddol newydd a fyddai’n apelio at gynulleidfaoedd newydd ac ehangach.
  • Deall sut mae ffactorau megis statws economaidd-gymdeithasol, ethnigrwydd ac anableddau neu salwch yn effeithio ar ymgysylltiad presennol a phosibl gyda gweithgaredd a chynnwys llenyddol.

Rydym yn diffinio ymgysylltu â gweithgaredd a chynnwys llenyddol fel:

  • Darllenwyr – unigolion sydd yn darllen ffuglen, barddoniaeth neu ffeithiol greadigol drwy ffurf llyfrau, cylchgronau, llyfrau sain neu gynnwys ysgrifenedig ar-lein arall.
  • Cyfranogi – unrhyw ymgysylltiad artistig â llenyddiaeth, ar-lein neu wyneb yn wyneb, gan gynnwys ysgrifennu creadigol (yn unigol neu mewn gweithdai), perfformio, neu weithgaredd traws-gelfyddyd.
  • Mynychu Digwyddiadau – unrhyw ddigwyddiadau llenyddol byw neu wedi’u recordio ymlaen llaw (ar-lein neu wyneb yn wyneb) gan gynnwys gwyliau llenyddol, stomp, lansiadau llyfrau, grwpiau darllen neu bodlediadau llenyddol.

 

Amserlen a Ffi

Rydym yn rhagweld y bydd yr ymchwil yn cychwyn erbyn diwedd Mehefin 2021, a bydd angen ei gwblhau erbyn canol Awst 2021.

Hoffem wahodd cynigion i ymgymryd â’r ymchwil uchod. Bydd y ffi gytunedig yn cael ei dalu mewn dau randaliad – 60% ar gychwyn y prosiect a 40% ar ôl ei gwblhau.
Disgwyliwn i’r gost ar gyfer y prosiect fod o gwmpas £5,000 – £7,000.

 

Sut i Ymgeisio

Os gwelwch yn dda, cyflwynwch ddyfynbris ynghyd â disgrifiad byr ohonoch chi / eich cwmni, yn ogystal â gwybodaeth am o leiaf un enghraifft berthnasol o brosiect ymchwil i’r farchnad blaenorol yr ydych wedi ei wneud yn ystod y ddwy flynedd ddiwethaf. Yn ogystal, ychwanegwch ddyfynbris ar gyfer ymgymryd â’r prosiect hwn, gan gynnwys amserlen ar gyfer y prosiect, faint o ymatebwyr y byddwch yn cyrchu, a pha werthusiad o’r canlyniadau y gallwn ei ddisgwyl ar gyfer y ffi dan sylw. Byddwn hefyd yn ystyried nifer o opsiynau prisio o fewn y dyfynbris.

Cyflwynwch y wybodaeth o fewn un ddogfen os gwelwch yn dda, er mae croeso i chi hefyd gynnwys unrhyw ddogfennau atodol neu ddolenni perthnasol. Dylai’r cyfan gael ei anfon at post@llenyddiaethcymru.org gyda’r pennawd ‘Dyfynbris Ymchwil Feintiol.’

 

Dyddiad Cau: 5.00 pm (BST), Dydd Llun 7 Mehefin 2021

Cyfleoedd, Literature Wales

Gwahoddiad i Gynnig Tendr
Iaith: WelshMath o Ffeil: PDFMaint: 88KB