Dewislen
English
Cysylltwch

Gwersyll Creadigrwydd Cressida Cowell

Cyhoeddwyd Llu 6 Gor 2020 - Gan Llenyddiaeth Cymru
Gwersyll Creadigrwydd Cressida Cowell

Mae Waterstones Children’s Laureate y Deyrnas Unedig ac awdur-darlunydd poblogaidd y cyfresi How to Train Your Dragon a Wizards of Once, Cressida Cowell, yn cynnal wythnos o weithgareddau i ddathlu creadigrwydd ​​plant, rhwng heddiw (dydd Llun 6 Gorffennaf) a dydd Gwener 10 Gorffennaf.

Ar ôl tymor ansicr iawn i addysg plant, bydd Gwersyll Creadigrwydd Cressida yn ysbrydoli teuluoedd i godi llyfrau, i fod yn greadigol, i ddarllen er pleser dros wyliau’r haf, yn ogystal â chefnogi llesiant meddyliol.

Mae Llenyddiaeth Cymru yn falch iawn fod ein Children’s Laureate Wales, Eloise Williams yn rhan o ddigwyddiad arbennig awduron llawryfog plant rhyngwladol, ddydd Iau 9 Gorffennaf ynghŷd â Cressida ei hun, Jason Reynolds (Unol Daleithiau America), Áine Ní Ghlinn (Iwerddon), Ursula Dubosarsky (Awstralia) a Manon Sikkel (Yr Iseldiroedd), i ddathlu pŵer rhannu stori.

Ymhlith yr awduron eraill sy’n cymryd rhan trwy gydol yr wythnos, sy’n nodi blwyddyn ers i Cressida Cowell ddechrau yn ei rôl fel Waterstones Children’s Laureate, mae Young People’s Laureate for London Theresa Lola, Chris Riddell, Joseph Coelho, Onjali Raúf, Sharna Jackson ac Eoin Colfer.

Mae’r wythnos hefyd yn nodi lansiad swyddogol Laureate Gallery Cressida ar www.childrenslaureate.org.uk lle bydd modd i blant arddangos eu gwaith trwy gydol cyfnod Cressida fel Waterstones Children’s Laureate.

Am ragor o wybodaeth, gan gynnwys y rhaglen yn llawn a sut i wylio a chymryd rhan, ewch i: www.childrenslaureate.org.uk

Plant a Phobl Ifanc