Dewislen
English
Cysylltwch

Gwobr Dylan Thomas Prifysgol Abertawe 2021 yn datgelu rhestr fer amrywiol a chynhwysol o leisiau newydd beiddgar

Cyhoeddwyd Gwe 26 Maw 2021 - Gan Llenyddiaeth Cymru
Gwobr Dylan Thomas Prifysgol Abertawe 2021 yn datgelu rhestr fer amrywiol a chynhwysol o leisiau newydd beiddgar
Caiff rhestr fer un o’r gwobrau llenyddol mwyaf yn y byd ar gyfer llenorion ifanc – Gwobr Dylan Thomas Prifysgol Abertawe – ei chyhoeddi heddiw ac mae’n llawn lleisiau newydd beiddgar sy’n herio disgwyliadau wrth archwilio’n afaelgar gysyniadau goroesi, hunaniaeth, perthyn ac ystyr bod yn rhywun ‘amgen’ yn ein byd cyfoes.

Ceir pum nofel ac un casgliad o straeon byrion ar y rhestr fer, sy’n cynnwys pedwar llyfr cyntaf a phedair menyw:

  • Alligator and Other Stories gan Dima Alzayat (Picador) – casgliad o straeon byrion (Syria/yr Unol Daleithiau)
  • Kingdomtide gan Rye Curtis (HarperCollins, 4th Estate) – nofel (yr Unol Daleithiau)
  • The Death of Vivek Oji gan Akwaeke Emezi (Faber) – nofel (Nigeria/yr Unol Daleithiau)
  • Pew gan Catherine Lacey (Granta) – nofel (yr Unol Daleithiau)
  • Luster gan Raven Leilani (Picador/Farrar, Straus and Giroux) – nofel (yr Unol Daleithiau)
  • My Dark Vanessa gan Kate Elizabeth Russell (HarperCollins, 4th Estate) – nofel (yr Unol Daleithiau)

Mae rhestr fer y wobr uchel ei bri, sy’n werth £20,000, yn cynnwys dwy o’r nofelau sydd wedi denu’r sylw mwyaf ers blynyddoedd: mae Raven Leilani, un o frodorion Dinas Efrog Newydd, wedi cael ei chydnabod am ei llyfr digyfaddawd a disglair Luster, cyhoeddiad cyntaf treiddgar am ystyr bod yn fenyw ddu a ddaeth i oed ar ddechrau’r mileniwm yn America; ac mae Kate Elizabeth Russell wedi cael ei dewis gan y beirniaid am ei harchwiliad ysgytiol o berthynas gamdriniol a chydsyniad rhywiol yn My Dark Vanessa, nofel i ddiffinio’r oes a ddisgrifiwyd fel “pecyn llawn dynameit” gan Stephen King.

Y ddau newydd-ddyfodiad arall sy’n cystadlu yw Rye Curtis o Decsas am Kingdomtide, ei stori llawn ing a gwytnwch sy’n cyfuno naratif gafaelgar dau gymeriad bythgofiadwy â disgrifiadau byw o natur, a Dima Alzayat, a aned yn Syria ac sy’n byw ym Manceinion. Mae ei chasgliad cyntaf o straeon byrion – Alligator and Other Stories – yn cyfleu’r ymdeimlad o fod yn rhywun ‘amgen’ yn ei chynefin: fel Syriad, fel Arabes, fel mewnfudwr ac fel menyw.

Y nofelwyr eraill sydd ar y rhestr yw un o Nofelwyr Ifanc Gorau America yn ôl y cylchgrawn GrantaCatherine Lacey, am ei thrydedd nofel, Pew, chwedl anesmwyth, afaelgar a beiddgar o graff sy’n ymwneud â dieithryn distaw a geir yn cysgu yn eglwys tref fechan yn America; a’r awdures anneuaidd o dras Igbo a Thamil Akwaeke Emezi am The Death of Vivek Oji, llyfr sydd wedi gwerthu digon o gopïau i gael ei restru gan The New York Times. Dyma nofel sy’n croesi ffiniau drwy ymdrin â rhywedd, teulu a’r hunan mewn modd dwys ond tyner.

Dewiswyd y chwe llyfr ar y rhestr fer gan banel o feirniaid a gadeiriwyd gan Namita Gokhale, y llenor arobryn, y cyhoeddwr a sylfaenydd Gŵyl Lenyddiaeth Jaipur, ochr yn ochr â sylfaenydd a chyfarwyddwr Gŵyl Lenyddiaeth Bradford, Syima Aslam, y bardd Stephen Sexton, y llenor Joshua Ferris a’r nofelydd a’r academydd Francesca Rhydderch.

Datgelir enillydd eleni mewn seremoni rithwir ar 13 Mai, ar drothwy Diwrnod Rhyngwladol Dylan Thomas.

Meddai Namita Gokhale, cadeirydd y beirniaid: “Rydym wrth ein boddau i gyflwyno rhestr fer arbennig eleni – mae’n cynnwys gwaith ysgrifennu o’r radd flaenaf gan chwe llenor ifanc eithriadol. Hoffwn roi pob un o’r llyfrau beiddgar, dyfeisgar ac unigryw hyn yn nwylo darllenwyr, a dathlu sut maent yn herio rhagdybiaethau, yn gofyn cwestiynau newydd am y ffordd rydym yn diffinio hunaniaeth a’n perthnasoedd, a’r ffordd rydym yn byw gyda’n gilydd yn y byd hwn. Llongyfarchiadau i’r llenorion hynod dalentog hyn – maent yn feistri pur ar y grefft o adrodd stori.”

Cystadlaethau