Dewislen
English
Cysylltwch

Gwylio eto: Sgwrs Bardd Plant Cymru fel rhan o ddathliadau Tafwyl Digidol

Cyhoeddwyd Maw 23 Meh 2020 - Gan Llenyddiaeth Cymru
Gwylio eto: Sgwrs Bardd Plant Cymru fel rhan o ddathliadau Tafwyl Digidol
Ch - Dd: Lleucu Siencyn, Gruffudd Eifion Owen, Casia Wiliam, Ifor ap Glyn

Roedd Llenyddiaeth Cymru yn falch o fod yn rhan o arlwy Tafwyl Digidol ar ddydd Sadwrn 20 Mehefin, gan gynnal sgwrs hwyliog yn edrych yn ôl ar ugain mlynedd o gynllun Bardd Plant Cymru.

Roedd y sgwrs yn gychwyn ar ddathliadau pen-blwydd cynllun Bardd Plant Cymru yn ugain oed eleni. Yn cadw cwmni i Lleucu Siencyn, Prif Weithredwr Llenyddiaeth Cymru, roedd y Bardd Plant Cymru presennol, Gruffudd Owen, a’r cyn feirdd plant, Casia Wiliam ac Ifor ap Glyn.

Yn ystod y sesiwn cawsom glywed rai o uchafbwyntiau’r tri bardd o’u cyfnod yn y rôl – o’r da, i’r drwg, i’r doniol – yn ogystal â chael clywed cerdd yr un gan y tri.

“…fe wnaeth hogyn bach sgwennu cerdd, ac yn amlwg yn awyddus iawn i’w darllen hi, a dyma pawb yn gwrando yn y dosbarth. Ro’dd gennai ryw deimlad bod rhywbeth yn arbennig am hyn…” – Casia Wiliam

Bydd dathliadau Bardd Plant Cymru yn ugain oed yn cyrraedd penllanw yn ystod yr hydref, gyda cherdd fideo arbennig yn cael ei rhyddhau, yn ogystal â chyfres o weithdai digidol ar gyfer ystod o oedrannau gwahanol fel bod modd i holl ysgolion Cymru gymryd rhan yn y gweithgareddau hyn gyda’i gilydd.

Mae modd ail-wylio sesiwn Tafwyl Digidol isod:

Caiff cynllun Bardd Plant Cymru ei reoli gan Llenyddiaeth Cymru gyda chefnogaeth Llywodraeth Cymru, S4C, Cyngor Llyfrau Cymru ac Urdd Gobaith Cymru.