Dewislen
English
Cysylltwch

Gwyliwch yr wyth ffilm traws-gelfyddyd Cwmni Dawns Cenedlaethol Cymru a Llenyddiaeth Cymru, Plethu/Weave ar-lein

Cyhoeddwyd Iau 12 Tach 2020 - Gan Llenyddiaeth Cymru
Gwyliwch yr wyth ffilm traws-gelfyddyd Cwmni Dawns Cenedlaethol Cymru a Llenyddiaeth Cymru, Plethu/Weave ar-lein
Mae pob un o’r wyth ffilm fer o gywaith traws-gelfyddyd digidol Cwmni Dawns Cenedlaethol Cymru (CDCCymru) a Llenyddiaeth Cymru, Plethu/Weave bellach ar gael i’w gwylio ar-lein a hefyd trwy ddangosiad misol Movie Maker Canolfan Gelfyddydol Chapter ym mis Rhagfyr.

Mae wyth o ddawnswyr CDCCymru ac artistiaid annibynnol wedi eu paru gydag wyth o feirdd o Gymru i greu ffilmiau byrion ar gyfer cynulleidfaoedd ar-lein, a hynny ers mis Awst. Wedi’u hysbrydoli gan eu straeon, lleoliad, eu treftadaeth a’u cysylltiad â Chymru, mae beirdd a dawnswyr wedi bod yn creu fideos unigryw am yr hyn y mae’n ei olygu i fod yn rhan o Gymru gyfoes.

Y mis diwethaf, darlledwyd ffilm Plethu/Weave y bardd Connor Allen a’r dawnsiwr annibynnol Jodi Ann Nicholson, The Branches of Me. Fe’i ysbrydolwyd gan eu hunaniaethau hil cymysg a’r mudiad Mae Bywydau Duon o Bwys.

Meddai Jodi Ann Nicholson:

Ganwyd The Branches of Me allan o sgyrsiau ynghylch ein hunaniaethau hil cymysg, y mudiad Black Lives Matter a beth mae hyn yn ei olygu mewn perthynas â ni. Mae The Branches of Me yn dechrau edrych ar sut rydyn ni’n dod o hyd i ymdeimlad o gytgord o fewn hunaniaeth gymysg mewn cymdeithas sy’n aml yn siarad o ran bod yn ‘Wyn’ neu’n ‘Ddu.

Deilliodd y seithfed cywaith fideo Plethu/Weave gan y dawnsiwr Joe Powell-Main a’r prifardd Aneirin Karadog o’r ymgyrch cyfryngau cymdeithasol #weshallnotberemoved.

Meddai Joe:

Mae O’r Lludw yn cydnabod ac yn dathlu’r cyfraniad y mae artistiaid anabl yn ei wneud i gymuned y celfyddydau yn ei chyfanrwydd. Roeddwn i wir eisiau tynnu sylw at y ffaith ei bod yn bwysig, wrth inni fynd i mewn i’r byd ôl-Covid-19, nad yw artistiaid anabl yn cael eu hanghofio a’n bod yn parhau i ymdrechu am gynhwysiant ar draws pob ffurf ar gelf. Fe daniodd yr ymgyrch #weshallnotberemoved dân ynof i ddangos, cymaint ag y gallaf, gobeithio, bod cynhwysiant mewn dawns yn gwbl bosibl. Wrth ddweud hynny y syniad y tu ôl i’n ffilm oedd cynrychioli dadeni o bob math ac i ddangos efallai nad oedd anabledd a chynhwysiant wedi bod mor amlwg yn y gorffennol ond mae hynny’n newid, ac mae bod ar drothwy gwneud rhywbeth cadarnhaol, gwahanol a newydd yn gyffrous.

Y fideo Plethu/Weave olaf i gael ei rhyddhau ar 12 Tachwedd yw’r fideo 90 eiliad, Swyn Gân/Summoning gan yr artist dawns annibynnol Jo Shapland a’r bardd clare e. potter. Mae gwaith wedi’i ysbrydoli gan agweddau cyfriniol ar gyfathrebu, sut mae’r corff, y tir a natur yn cyfathrebu.

Meddai clare e. Potter:

“Roeddwn i eisiau ysgrifennu am iaith, am y berthynas rhwng y Gymraeg a’r Saesneg. Mae gan Jo dynfa sydd bron yn ‘gyntefig’ at ogof gwymp Pwll y Wrach yn Sir Benfro, ac ro’n i’n gallu deall y dynfa honno. Rhannodd Jo sut mae hi’n cyfathrebu fel dawnsiwr â mi, ‘geiriau’r corff’ meddai, a chefais fy swyno gan y ffordd y siaradodd am y rhag-eiriol, am y geiriau sy’n dod allan o yn ddwfn oddi mewn iddi pan fydd yn symud. Sylw i odlau a rhythmau mewnol, felly. Fe wnaethon ni setlo ar hynny fel craidd. ”

Mae’r tri fideo olaf bellach ar gael i’w gwylio ar-lein ynghyd â’r pum fideo blaenorol, trwy sianeli cyfryngau cymdeithasol a gwefannau CDCCymru, Llenyddiaeth Cymru, a’u sianeli AM.

O 7 Rhagfyr bydd pob un o’r wyth ffilm fer Plethu / Weave ar gael i’w gwylio fel rhan o sianel ar-lein Chapter Arts Centre Center ar https://chapter.vhx.tv/

Meddai Cyfarwyddwr Cyswllt NDCWales, Lee Johnston:

Mae prosiect Plethu/Weave wedi galluogi 16 o artistiaid i fynegi myfyrdodau amserol a gwerthfawr ar yr eiliad bwysig hon mewn amser i ddynoliaeth. Mae pŵer mynegiadol dawns a barddoniaeth gyda’i gilydd yn gryf, wrth i’r wyth ffilm esgyn o amgylch tirweddau ac ieithoedd Cymru a phlymio i deimlad cyfoes pobl Cymru. Mae’r wyth ffilm wedi bod yn ysbrydoledig, yn ddilys ac yn ddewr. “

Meddai Lleucu Siencyn, Prif Weithredwr Llenyddiaeth Cymru:

Mae’r ffilmiau gwefreiddiol hyn, a grëwyd fel rhan o gyweithiau dawns a barddoniaeth Plethu/Weave, wedi rhoi cyfle inni fyfyrio ar rai o’r themâu a’r syniadau pwysig sydd wedi dod i’r amlwg yng Nghymru a’r byd eleni. Mae’r prosiect wedi creu cyfleoedd i’r beirdd weithio o fewn cyfrwng hollol wahanol, ac wedi dathlu diwylliant llenyddol Cymru mewn ffyrdd newydd a chyffrous. Mae Llenyddiaeth Cymru wrth ein bodd â’r canlyniadau; mae’r gweithiau hyn wedi bod yn hynod ddiddorol ac wedi gwneud inni feddwl eto am bwrpas dyfnach barddoniaeth a dawns a’r rôl y mae diwylliant yn ei chwarae yn ein cymdeithas.

Uncategorized @cy