Dewislen
English
Cysylltwch

Cyfleoedd mis Mehefin 2020

Cyhoeddwyd Llu 1 Meh 2020 - Gan Llenyddiaeth Cymru
Cyfleoedd mis Mehefin 2020

Dyma restr o gyfleoedd a dyddiadau cau ar gyfer awduron a sefydliadau fel ei gilydd. Ewch ati nawr i ymgeisio am rai o’r cyfleoedd gwych hyn, a chofiwch ymuno â’n cylchlythyr a’n dilyn ar FacebookTwitter ac Instagram i gael y wybodaeth ddiweddaraf am gyfleoedd i awduron.

Nid Llenyddiaeth Cymru sy’n gyfrifol am yr holl gyfleoedd a restrir isod. O dan yr amgylchiadau ansicr presennol yn sgil Coronafeirws, awgrymwn eich bod yn cysylltu’n uniongyrchol â’r trefnwyr am y wybodaeth ddiweddaraf.

 

Cymorth ariannol i waith cymunedol yn y cyfnod hwn (Rhondda Cynon Taf)

Bydd y gronfa yn dyfarnu cyfanswm o £10,000, gyda phob cais llwyddiannus yn gymwys i gael £300, neu £500 mewn amgylchiadau eithriadol. Bydd y penderfyniad yn cael ei wneud fesul cais gan y Cyngor, ond anogir i’r rhai sydd â diddordeb mewn ymgeisio, i wneud hynny cyn gynted â phosib. <https://www.rctcbc.gov.uk/EN/Newsroom/PressReleases/2020/May/Financialsupportforinvaluablecommunityworkatthistime.aspx?utm_source=Twitter&utm_medium=social&utm_campaign=SocialSignIn&utm_content=Coronavirus>

 

Galwad Agored Cylchgrawn Gwyllion

Mae Cylchgrawn Gwyllion yn chwilio am waith creadigol. Boed i chi ysgrifennu ffantasi, space opera, pulp fiction, straeon dirgel neu straeon antur; ewch amdani. Maent yn chwilio am ffuglen ryfedd, straeon arswyd a straeon agerstalwm yn ogystal â ffantasi llwyr, ffuglen lenyddol a gwyddonias.

Am ragor o wybodaeth, ewch i: http://gwyllionmagazine.com/submissions/

 

Iaith yn Esblygu

Gweithdy rhad ac am ddim ar gyfer awduron ffuglen wyddonol (“SciFi”), yn ogystal â chystadleuaeth stori fer ar thema esblygiad iaith. Seán RobertsHannah Little a Catriona Silvey sydd wedi trefnu’r prosiect.

Am fwy o fanylion, ewch I https://correlation-machine.com/iaithYnEsblygu.html neu anfonwch e-bost i Seán.

 

Cystadleuaeth Traethawd Planet 2020 – 1 Medi 2020

Mae unrhyw un o dan 30 oed yn cael eu gwahodd i gyflwyno traethawd. Mae’r briff yn hynod eang – mae modd darganfod yr hyn yr hoffent ei gyhoeddi yn Planet ei hun. Maent yn croesawu ffyrdd creadigol a mwy traddodiadol o ysgrifennu traethodau. Gwobrau: £200, blwyddyn o danysgrifiad neu adnewyddu eich tanysgrifiad presennol, casgliad o 6 llyfr* wedi eu cyhoeddi gan Planet, bydd cyhoeddiad o’r traethawd buddugol yn rhifyn Tachwedd 2020 o Planet, sydd yn nodi eu pen-blwydd yn 50 oed. Bydd yr unigolyn sy’n derbyn yr ail wobr yn derbyn tanysgrifiad o flwyddyn i Planet, neu adnewyddu eich tanysgrifiad presennol.

Am ragor o wybodaeth, ewch i: https://www.planetmagazine.org.uk/competitions

 

Defnyddio’r ysgrif greadigol a’r stori fer i adrodd straeon sy’n cael eu tangynrychioli – 5 Mehefin

Mae  Özgür Uyanik Durre Shawar wedi llwyddo i dderbyn #ComisiwnLlC a gyhoeddwyd mewn galwad agored ar 1 Ebrill 2020. Byddent yn gweithio gydag unigolion sydd yn adnabod eu hunain fel BAME, LGBTQ+, niwroamrywiol, ar incwm isel neu gydag anableddau. Bydd cyfranogwyr yn cymryd rhan mewn seminar dros y we ac yn derbyn adborth ar eu gwaith. Er mwyn ymgeisio, gyrrwch gais 100 gair yn nodi pam yr ydych yn ysgrifennu.
Am ragor o wybodaeth, ewch i: https://www.literaturewales.org/lw-news/telling-underrepresented-stories-through-the-creative-essay-short-story-call-out/

 

Cystadleuaeth Bardd y Flwyddyn Gwŷl Caergaint – 15 Mehefin 2020

Gall y cerddi fod ar unrhyw bwnc a ffurf, ond yn llai na 60 llinell. Eleni, bydd yr enillydd yn derbyn £200, yr ail yn derbyn £100 a’r trydydd yn derbyn £50. Bydd oddeutu 35 o’r ceisiadau yn cael eu harddangos mewn blodeugerdd, a fydd ar gael o Swyddfa’r Wŷl. Yn dilyn hyn, bydd rhestr fer o feirdd yn cael eu gwahodd i ddarllen eu cerddi yn y seremoni wobrwyo ym mis Hydref, lle cyhoeddir yr enillydd. Bydd dyddiadau ac amseroedd llawn yn cael eu rhyddhau yn fuan.

Darganfyddwch fwy yma: https://canterburyfestival.co.uk/poet-of-the-year-competition-

 

Gwobrau Llyfrau Barddoniaeth – 30 Mehefin 

Dyma wobr ryngwladol flynyddol a gyflwynir i’r llyfrau barddoniaeth gorau a gynhyrchir gan awduron annibynnol, awduron sydd wedi hunan-gyhoeddi neu lyfrau a gyhoeddir gan weisg bychan/annibynnol. Fe gyhoeddir enwau’r enillwyr ar wefan y gwobrau ac yn y wasg. Beirniad y wobr yn 2020 yw’r bardd Dave Lewis.

Am ragor o wybodaeth, ewch i: http://www.poetrybookawards.co.uk/enter/

 

Gwobr Nofel Fitzcarraldo Editions —1 Gorffennaf 2020

Mae Gwobr Nofel Fitzcarraldo Editions yn cynnig $10,000 i’r enillydd ar ffurf blaendal at freindaliadau, yn ogystal â chael y nofel wedi ei gyhoeddi yn y DU ac Iwerddon, Awstralia a Seland Newydd, ac yng Ngogledd America.  Bydd y beirniaid yn edrych am nofel sy’n  gwthio’r ffiniau o ran ffurf ac sy’n arloesol o ran ei arddull.

Am fwy o wybodaeth, ewch i: https://fitzcarraldoeditions.com/prizes/novel-prize

 

Gwobr Stori Fer V.S Pritchett – 3 Gorffennaf 2020

Bydd awdur y stori fer fuddugol yn derbyn gwobr o £1,000 a bydd eu stori’n cael ei gyhoeddi yn Prospect ar-lein ac yn RSL Review. Mae’r Wobr Stori Fer V.S Pritchett yn cael ei weinyddu gan Gymdeithas Frenhinol Llenyddiaeth ar y cyd â Chylchgrawn Prospect. Y tâl mynediad yw £7.50, ond mae mynediad am ddim ar gael i 50 o unigolion sydd ar incwm isel.

Am ragor o wybodaeth, ewch i: https://theroyalsocietyofliterature.submittable.com/submit

 

Cystadlaethau Llenyddol Cymdeithas Eisteddfodau Cymru – 5 Gorffennaf 2020

18 oed ac iau:

Darn o farddoniaeth (dim mwy na 20 o linellau) neu ryddiaith (dim mwy na 2 ochr A4) ar y testun ‘2020’

Gwobrau – 1af Cadair Fach 2il £20 3ydd £15 Beirniaid – Anni Llŷn.

Agored:

Llunio cerdd, neu gasgliad byr o gerddi, o ddim mwy na 35 o linellau, ar fesurau caeth a/neu rydd, i ymateb i’r argyfwng Cofid-19 yng Nghymru.

Gwobr – Cadair Fach  Beirniaid – Aneirin Karadog

Danfoner y gwaith, gyda ffugenw arno, ac enw a manylion cyswllt mewn amlen arall gyda’r gwaith, at Shân Crofft, 17 Rennie Street, Riverside, Caerdydd CF11 6EG neu anfon y cyfan drwy ebost shan@Steddfota.org

 

10 Stori i Wneud Gwahaniaeth – 30 Gorffennaf 2020

Mae Prosiectau Pop-Up yn comisiynu a chyhoeddi Deg Stori i Wneud Gwahaniaeth, sef 10 stori fer wreiddiol ar gyfer darllenwyr ifainc, gan ddeg awdur a deg darlunydd. Bydd 5 dylunydd adnabyddus yn dylunio llun yn seiliedig ar straeon gan 5 o egin awduron, a bydd 5 egin ddarlunwyr yn dylunio llun yn seiliedig ar straeon gan awduron adnabyddus.

https://pop-up.org.uk/uncategorized/competition-10-stories-to-make-a-difference/

 

Llenyddiaeth Cymru